09/07/2025

Cyhoeddi Cast Biwti a Brogs

headshots

Mi fydd cyd-gynhyrchiadau Nadolig newydd Theatr y Sherman a Theatr Cymru ar gyfer plant iau, Biwti a Brogs - a The Frog Prince yn Saesneg, yn teithio lleoliadau ledled Cymru rhwng Tachwedd 2025 ac Ionawr 2026, gan gynnwys cyfnod o chwe wythnos yn y Sherman yng Nghaerdydd.

Mae Biwti a Brogs /The Frog Prince yn fersiynau newydd hudolus o chwedl glasurol y Brodyr Grimm wedi'u hanelu at gynulleidfaoedd rhwng tair a chwe blwydd oed. Ysgrifennwyd gan Gwawr Loader, ei gyfarwyddo gan Elin Phillips a’i pherfformio gan gast o ddau actor-gerddor; Anni Dafydd ac Owen Alun.

Yn ymuno â Gwawr ac Elin yn y tîm creadigol mae'r Dylunydd Set a Gwisgoedd Carl Davies a'r Dylunydd Goleuo Ceri James. Cyhoeddir enwau'r tîm creadigol llawn yn yr wythnosau nesaf.

Ers dros 40 mlynedd, mae cynyrchiadau Nadolig Theatr y Sherman wedi cyflwyno cenedlaethau o blant o bob cwr o dde Cymru i hud y theatr, gyda dehongliadau newydd deniadol ar straeon clasurol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae sioeau Nadolig Stiwdio'r cwmni wedi cynnig tro llawen a chyfoes ar stori dylwyth teg boblogaidd yn draddodiadol, ochr yn ochr â sioe ar raddfa fwy yn y Prif Dŷ i blant hŷn.

Fel theatr genedlaethol y Gymraeg, mae Theatr Cymru wedi bod yn diddanu ac yn ysbrydoli cynulleidfaoedd o bob oed ers dros ddau ddegawd. Yn gwmni teithiol arobryn, mae eu cynyrchiadau teithiol diweddaraf i blant yn cynnwys Dawns y Ceirw (gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru), Swyn a Llygoden yr Eira (gyda Theatr Iolo). Mae Theatr Cymru hefyd wedi cyd-gynhyrchu gyda chwmni theatr Gwawr ac Elin, Criw Brwd, gan ddod â Pryd Mae'r Haf? i lwyfannau ledled Cymru ddechrau 2020 a chreu fersiwn ddigidol fyw yn ystod y pandemig.