10/02/2026

Cyhoeddi cast arbennig Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau

graphics image of cast members

Mae Theatr Cymru, Yr Egin a Chwmni Theatr Arad Goch gyda chefnogaeth gan Theatrau Sir Gâr, yn falch iawn o rannu’r cast arbennig fydd yn dod â’r cynhyrchiad Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau i lwyfannau ledled Cymru eleni.  

Tonya Smith (The Fight, Pobol y Cwm) sy’n camu i rôl yr athrawes anghyffredin o arbennig, Miss Prydderch, gyda Victoria Pugh (Rhinoseros, Craith) yn chwarae Lleidr y Lleisiau a’r Cynghorydd Bella Serpenti-Philpot. Bydd Carwyn Jones (Pijin / Pigeon, Gair o Gariad) yn chwarae cymeriadau Mr Elias a Mr Cnoc. Yn dod â phlant dosbarth Miss Prydderch i’r llwyfan, bydd Elis Myers-Sleight (The Eye of the Storm) fel Alfred, Kellie-Gwen Morgan (RomJul, Mission:Cymru) fel Elen, Ariadne Koursarou (A Midsummer Night’s Dream, Under Milk Wood) fel Sara a Jed O’Reilly (Stwnsh Sadwrn, Mabinogi-ogi) fel Gwyn. Bydd yr ensemble talentog yma o berfformwyr yn sicr o hudo plant ledled Cymru wrth ddod â chymeriadau’r gyfres lyfrau annwyl yn fyw.  

Mae’r cyfarwyddwr Ffion Wyn Bowen yn edrych ymlaen yn arw at weithio gyda’r criw arbennig hwn o actorion: 
“Dwi wir yn edrych ymlaen at gydweithio gyda'r cast arbennig yma. Mae gan bob un ohonynt egni cyffrous, dewrder creadigol a llais unigryw fydd yn ein galluogi i ddod â byd Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau yn fyw ar lwyfannau ledled Cymru yn ystod tymor yr haf.”

Yn llawn dop o ddireidi a dychymyg, mae’r sioe gerdd hudolus hon gan Mererid Hopwood yn dod ag anturiaethau a chymeriadau’r gyfres lyfrau i’r llwyfan, gyda cherddoriaeth gan Seiriol Davies. Ffion Wyn Bowen sy’n cyfarwyddo’r cynhyrchiad, gyda Steffan Donnelly fel Cyfarwyddwr Cyswllt. Bydd y cynhyrchiad hefyd yn cynnwys set a gwisgoedd trawiadol gan y dylunydd Cai Dyfan, goleuo gan Cara Hood a choreograffi gan Cêt Haf, gyda Lynwen Haf Roberts fel Cyfarwyddwr Cerdd, Eädyth Crawford fel Cynllunydd Sain a Steffan Rhys Williams fel Cynhyrchydd Cerdd.

Bydd y cynhyrchiad yn agor yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin ym mis Mehefin 2026, cyn teithio i theatrau ledled Cymru er mwyn diddanu cynulleidfaoedd teuluol ac ysgolion.

 

Y Daith

6 Mehefin – 4 Gorffennaf 2026

Theatr y Lyric, Caerfyrddin
06 – 09.06.26

Theatr y Sherman, Caerdydd
12 + 13.06.26

Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron
16 + 17.06.26

Canolfan Celfyddydau Aberystwyth
19 + 20.06.26

Neuadd Dwyfor, Pwllheli
23.06.26

Galeri, Caernarfon
25 + 26.06.26

Theatr y Pafiliwn, Rhyl
30.06.26

Pontio, Bangor
03 + 04.07.26