Yn dilyn y newyddion am daith newydd Huw Fyw, mae Theatr Cymru yn falch iawn o gyhoeddi’r cast a’r tîm sy’n dod â’r ddrama arbennig hon gan Tudur Owen yn ôl i lwyfannau Cymru eleni.
Ochr yn ochr â Tudur Owen fel Huw Fyw, bydd Owen Alun (Rownd a Rownd, Biwti a Brogs, Pijin/Pigeon) a Dafydd Emyr (Brenin March, Kill Thy Neighbour, Rhinoseros) yn dychwelyd i’r cast unwaith eto eleni, gyda’r un angerdd ac egni. Bydd Owen yn ail-gydio yng nghymeriadau Huw Farwodd a Dylan, tra bod Dafydd yn dychwelyd i rôl Twm Teciall. Bydd Leah Gaffey (Fleabag, Stwnsh Sadwrn) yn ymuno â’r cast eleni fel cymeriad Wendy.
Mae’r tîm creadigol gwreiddiol hefyd yn dychwelyd i weithio ar y daith newydd hon. Gyda’r Cyfarwyddwr Artistig Steffan Donnelly wrth y llyw, bydd Elin Steele yn dychwelyd fel Cynllunydd Set a Gwisgoedd, tra bod Elanor Higgins yn cynllunio’r goleuo ac Alexander Comana yn cynllunio’r sain.
Mae’r daith newydd yn ymateb i’r galw mawr am y cynhyrchiad y llynedd ac yn cynnig cyfle arall i gynulleidfaoedd fwynhau’r ddrama, o 15 Ebrill ymlaen. Yn llawn direidi a ffraethineb nodweddiadol Tudur, mae Huw Fyw (★★★★ "the perfect balance of sweet, serious and funny" Buzz Magazine) yn dilyn hen filwr sy’n mentro ar antur fythgofiadwy o’i bentra’ bach i ganol Llundain; antur fydd yn newid cyfeiriad ei fywyd am byth ac yn dysgu iddo sut i fyw at heddiw.
Bydd y daith yn cychwyn yn y Tŷ Dawns yng Nghaerdydd ar 15 Ebrill, cyn teithio Cymru:
Tŷ Dawns, Caerdydd
15 – 18 Ebrill 2026
Galeri, Caernarfon
22 + 23 Ebrill 2026
Neuadd Dwyfor, Pwllheli
28 + 29 Ebrill 2026
Pontio, Bangor
02 Mai 2026
Ffwrnes, Llanelli
06 Mai 2026
Canolfan Celfyddydau Aberystwyth
08 Mai 2026
Bydd capsiynau caeedig yn y Gymraeg a Saesneg ar gael ym mhob perfformiad trwy Sibrwd, ap mynediad iaith Theatr Cymru. Bydd sain ddisgrifiad trwy gyfrwng y Gymraeg ar gael ar bob perfformiad yn Nhŷ Dawns, Caerdydd, a Galeri, Caernarfon – a bydd teithiau cyffwrdd ar gael cyn y sioeau hynny hefyd, er mwyn rhoi cyfle i fynychwyr dall a’r rheiny sydd ag amhariad ar y golwg allu archwilio’r set, props a gwisgoedd. Bydd perfformiad wedi’i ddehongli trwy Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL) gyda Cathryn McShane yn y Tŷ Dawns yng Nghaerdydd ar 17 Ebrill 2026 a Pontio, Bangor, ar 2 Mai 2026.