Ry’n ni – ar y cyd â Llenyddiaeth Cymru, Adra (Tai) a’r artist arweiniol Iola Ynyr – yn falch iawn o gyhoeddi blwyddyn o weithgarwch i bobl sydd wedi’u heffeithio gan ddibyniaeth, drwy’r prosiect Ar y Dibyn. Gwnaed y datblygiad newydd hwn i’r prosiect yn bosibl drwy gefnogaeth y rhaglen HARP (Iechyd, y Celfyddydau, Ymchwil, Pobl), a gyllidir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac Y Lab (Prifysgol Caerdydd a Nesta).
Mae Ar y Dibyn yn rhoi cyfle i bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ddibyniaeth – boed hynny’n bobl sy’n byw gyda dibyniaeth neu sy’n cefnogi pobl eraill gyda’u dibyniaeth – i ddod at ei gilydd a rhannu’r straeon hynny mewn ffordd greadigol a thrwy gyfrwng y Gymraeg. Gyda’r artistiaid Iola Ynyr a Mirain Fflur wrth y llyw, bwriad y gweithdai yw annog creadigrwydd i ddathlu posibiliadau dibyniaeth, yn hytrach na’r rhwystrau, ac i ddatblygu gwaith creadigol o’r galon i’w rannu’n ehangach.
Dywedodd Iola Ynyr, artist arweiniol a sylfaenydd Ar y Dibyn:
“Mae’n bleser cael cychwyn ar gyfres arall o weithdai Ar y Dibyn o fewn rhaglen blwyddyn o weithgarwch trwy nawdd HARP. Mae angen llawer o ddewrder i gyfranogi mewn gweithgareddau fel hyn wedi cyfnodau o ynysu yng nghrafangau dibyniaeth. Ond mi ydan ni’n cynnig awyrgylch o dderbyn pawb heb holi am brofiadau. Creadigrwydd ydi’r arf fyddwn ni’n ddefnyddio i agor cil y drws i’n trysor mewnol. Rydym eto i ddarganfod beth gaiff ei greu gan ein cyfranogwyr dros y flwyddyn sydd i ddod!”
Mae’r flwyddyn hon o weithgarwch yn ehangu ar brosiectau cynharach a gyflwynwyd wyneb yn wyneb yn Galeri, Caernarfon, ac ar-lein yn ystod y cyfnodau clo. Dywedodd un gyfranogwraig a gymerodd ran mewn gweithdai ar ddiwedd 2020:
“O’dd ofn yn dal ei afael mor dynn yndda i, a ’nes i ddim sôn wrth ’run dyn byw heblaw am fy ngŵr mod i’n mynd i’r gweithdai. Ofn, cywilydd, nerfusrwydd . . . ond erbyn y diwedd ro’n i’n edrych mlaen at ddod i’r sesiwn nesa. ’Nes i ddim deall bod bwriad gwneud sgript na ffilm na dim, doedd dim “end goal” gen i, o’n i jyst isio rhoi amser a gofod i fi fy hun wella, bod mewn ystafell efo pobol eraill oedd yr un fath â fi, pobol oedd yn deall, a chael y cyfle a’r gofod a’r caniatâd, mewn ffordd, i fod yn fi fy hun, yn fy iaith fi fy hun.”
Gyda chefnogaeth gan Fwrdd Cynllunio Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru, Adferiad a Stafell Fyw, mae Ar y Dibyn hefyd yn dangos pwysigrwydd y berthynas rhwng y celfyddydau a meysydd iechyd a lles ac yn ymateb i’r angen i ddatblygu’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae arbenigwyr iechyd proffesiynol ar gael ym mhob sesiwn greadigol i roi cyngor fel mae’r angen yn codi.
Dywedodd Rhian A. Davies, Cynhyrchydd Gweithredol Theatr Genedlaethol Cymru:
“Ry’n ni’n ddiolchgar iawn am y grant gan Nesta, fel rhan o’u cynllun HARP (Health, Arts, Research, People,) i ddatblygu prosiect Ar y Dibyn sy’n rhoi cyfle i bobl ledled Cymru sy’n byw gyda dibyniaeth ddod at ei gilydd i rannu eu straeon drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ffordd greadigol. Ein huchelgais yw sefydlu’r prosiect yn un parhaol – mewn cydweithrediad â phartneriaid iechyd, celfyddydol a thrydydd sector, rhai presennol a newydd fel ei gilydd – a dangos pwysigrwydd rôl y celfyddydau mewn adferiad ac iechyd a lles siaradwyr Cymraeg.”
Pwyslais Rhaglen HARP hefyd yw rhoi cyfle i’r celfyddydau chwarae rôl flaenllaw ym maes iechyd a lles pobl Cymru. Dywedodd Rosie Dow, Rheolwr Rhaglen HARP ar gyfer y Celfyddydau ac Iechyd:
“Pleser o’r mwyaf i ni yw cael gweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru, Iola a’u partneriaid i archwilio sut y gall Ar y Dibyn gyrraedd cymaint ag y bo modd o bobl sy’n cael eu heffeithio gan ddibyniaeth. Gwyddom fod yna angen mawr am raglenni creadigol yn yr iaith Gymraeg i gefnogi adferiad a lles pobl, a bydd cyfuniad y tîm o angerdd ac arbenigedd yn hwb mawr i newid bywydau pobl er gwell. Mae HARP yn ymwneud â’r modd y gall prosiectau fel hwn dyfu a gwreiddio mewn iechyd a gofal yn y tymor hir, felly edrychwn ymlaen at weithio gyda’r tîm i weld sut y gellir gwireddu hyn.”
Mae’r gyfres gyntaf o weithdai Ar y Dibyn yn y flwyddyn newydd hon o weithgarwch wedi dechrau ar 6 Gorffennaf 2021 – ond mae croeso cynnes i unrhyw gyfranogwyr neu artistiaid sydd â diddordeb mewn ymuno â’r prosiect. Ewch i theatr.cymru/arydibyn am wybodaeth.