Dros yr wythnosau diwethaf, mae plant y Clwb Drama wedi bod yn rhan o brosiect cyffrous iawn ac wedi cyfansoddi “chant” i gefnogi Cymru yng Nhwpan y Byd.
Roedd y plant wrth eu boddau yn rhannu syniadau a chreu’r symudiadau. Ac ar ôl yr holl waith caled, roedd cyfle iddyn nhw berfformio’r darn gorffenedig fel rhan o Ŵyl Cymru Festival Cymdeithas Pêldroed Cymru. Diolch i blant talentog y Clwb Drama am eu hymroddiad a’u hegni - gwyliwch y fideo i weld y “chant”.
Mae’r Clwb Drama yn glwb i blant ysgolion cynradd Sir Gar sy’n cael ei rhedeg ar y cyd rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Menter Gorllewin Sir Gâr. Mae’r Clwb yn cwrdd yn wythnosol i fwynhau gweithgareddau drama a bod yn greadigol gyda’i gilydd.

Newyddion + blogiau diweddaraf
-
27/01/2023 NewyddionOsian Davies | Dramodydd Preswyl Ifanc '22-23
Cyfle i ddod i 'nabod ein Dramodydd Preswyl Ifanc am y flwyddyn hon...
-
14/12/2022 BlogChwe Mis fel Cyfarwyddwr Artistig
Blog gan Steffan Donnelly i ddathlu chwe mis fel Cyfarwyddwr Artistig a gwahodd artistiaid Cymru i ddod am sgwrs fel rhan o Drws Agored Ar Daith.