Newyddion 09/12/2022

Cymru! Cymru! Ein Clwb Drama yn cefnogi Cymru yng Nghwpan y Byd

Children rehearsing and creating dance moves for the football world cup chant.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae plant y Clwb Drama wedi bod yn rhan o brosiect cyffrous iawn ac wedi cyfansoddi “chant” i gefnogi Cymru yng Nhwpan y Byd. 
 
Roedd y plant wrth eu boddau yn rhannu syniadau a chreu’r symudiadau. Ac ar ôl yr holl waith caled, roedd cyfle iddyn nhw berfformio’r darn gorffenedig fel rhan o Ŵyl Cymru Festival Cymdeithas Pêldroed Cymru. Diolch i blant talentog y Clwb Drama am eu hymroddiad a’u hegni - gwyliwch y fideo i weld y “chant”. 

Mae’r Clwb Drama yn glwb i blant ysgolion cynradd Sir Gar sy’n cael ei rhedeg ar y cyd rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Menter Gorllewin Sir Gâr. Mae’r Clwb yn  cwrdd yn wythnosol i fwynhau gweithgareddau drama a bod yn greadigol gyda’i gilydd. 