Newyddion 10/06/2022

Theatr Genedlaethol Cymru yn falch o ddychwelyd i’r Eisteddfod Genedlaethol eleni

Shot of a woman on a stage set. She has short brown hair, and the top is plaited. She is wearing a grey waistcoat with a grey top underneath, and tight grey trousers. In the background we can see the top of a wooden chair, colourful bunting. In the corner of the image in the background, we can see a man with a guitar stood underneath a canopy. There is also a microphone near his mouth, and he has a keyboard in front of him.

Hir yw pob aros, ond mae’r Steddfod ’nôl eleni ar dir y Cardis, ac mae Theatr Gen yn edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o’r ŵyl yn Nhregaron gyda rhywbeth at ddant pawb. Ry’n ni’n  falch o gefnogi Theatr y Maes eleni a byddwn yn cyflwyno cynhyrchiad, sgyrsiau diddorol a mwy. 

Cyflwynwyd Gwlad yr Asyn yn wreiddiol yn ystod haf 2021, fel cyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Genedlaethol Cymru ac Os Nad Nawr. Mae'r dramodydd Wyn Mason, cyd-sylfaenydd Os Nad Nawr, yn hanu o Geredigion ac yn edrych ymlaen at gael rhannu'r cynhyrchiad hwyliog hwn yng Ngheredigion.  

"Dw i wrth fy modd y bydd y ddrama o'r diwedd yn cael ei llwyfannu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron: dyna oedd y cynllun gwreiddiol. Dyma'r lleoliad perffaith ar gyfer y stori, ddim yn bell o Aberystwyth, lle mae asynnod yn darparu reidiau ar hyd y traeth, ac o fewn golwg i fryniau Pumlumon, lle hoffen nhw ddianc! Dw i’n edrych ymlaen at weld sut bydd llwyfannu’r ddrama yn Theatr y Maes, lleoliad dan do, yn newid naws y sioe, o gymharu â pherfformiadau awyr agored haf diwethaf." 

Cyfarwyddir y ddrama gan Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig newydd Theatr Genedlaethol Cymru. Dyma fydd ei gynhyrchiad cyntaf yn ei swydd newydd ac mae'n edrych ymlaen at weithio unwaith eto gyda'r actor Gwenllian Higginson (Merched Caerdydd, Macbeth, Enid a Lucy, 35 Diwrnod) a’r cyfansoddwyr a’r cerddorion Sam Humphreys a Bethan Rhiannon, o'r band gwerin adnabyddus Calan. Dywedodd Steffan; 

‘Roedd croesawu cynulleidfaoedd yn ôl am y tro cyntaf ers cychwyn y pandemig efo Gwlad yr Asyn yn 2021 yn brofiad gwefreiddiol. Dw i mor falch bod cyfle arall i weld y ddrama hon yng nghanol bwrlwm y Steddfod. Dewch i brofi gwledd o gerddoriaeth electro-gwerin byw, awr o stori alegorïol llawn dychymyg a doniolwch, a pherfformiad hudolus Gwenllian Higginson.’ 

Bydd cyfle i glywed mwy gan Steffan mewn sesiwn holi ac ateb yn Theatr y Maes lle bydd yn trafod ei rôl fel Cyfarwyddwr Gwlad yr Asyn a’i rôl newydd fel Cyfarwyddwr Artistig yn Theatr Genedlaethol Cymru. Cynhelir y drafodaeth am 3.15yp ar y 3ydd o Awst.  

Ddydd Iau y 4ydd o Awst am dri o’r gloch, bydd detholiad o ddrama fuddugol Gareth Evans-Jones, enillydd Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod 2021. Dewch i fwynhau darlleniad o ddetholiad o olygfeydd a sgwrs gyda’r dramodydd a’r tîm. 

Yn ogystal â’r cyflwyniadau, bydd cyfle hefyd i fod yn rhan o sgwrs ‘Rhieni a’r Theatr’, sy’n dilyn y drafodaeth gychwynnol ‘Mamau a’r Theatr’ a gynhaliwyd ar-lein ym mis Tachwedd 2021, lle bu Dr Rhiannon Mair yn sgwrsio gyda rhieni am yr heriau sy’n eu hwynebu wrth weithio ym maes theatr a’r celfyddydau yng Nghymru. Yn ystod y drafodaeth yn yr Eisteddfod, bydd yn edrych ar rôl ehangach y rhiant/gofalwr/gwarcheidwad wrth weithio yn y theatr, a hygyrchedd mynychu theatr fel teulu. Mae croeso i bawb ymuno i wrando neu gymryd rhan yn y sgwrs. Byddwn yn darparu gweithdy creadigol i ddiddanu’r plant ar yr un pryd. Cynhelir y ddau yn Theatr y Maes. 

Dywedodd Angharad Jones Leefe, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Genedlaethol Cymru, “Mae’n bleser cyhoeddi gweithgareddau Theatr Gen yn yr Eisteddfod eleni. Ry’n ni’n falch iawn o allu dod â chynhyrchiad Gwlad yr Asyn i Theatr y Maes yn dilyn ymateb gwresog y gynulleidfa y llynedd, yn ogystal â darparu ystod o weithgareddau eraill. Ry'n ni’n edrych ymlaen i ddod at ein gilydd unwaith eto ar y maes, i groesawu ffrindiau a chynulleidfaoedd newydd. Mae Theatr Gen hefyd yn falch o gefnogi Theatr y Maes, gan sicrhau cartref ac arlwy theatr amrywiol yng nghanol bwrlwm y Brifwyl yn Nhregaron.