2 actor ar eu gorau, 20 perfformiad ar draws 11 theatr, 1 gŵyl gomedi, ac 1 clwb rygbi. Ychwanegwch mwy na 2,300 o gynulleidfa at hynny, a dyna'r cynhwysion ar gyfer Parti Priodas perffaith!
Ydi, mae’r diwedd wedi dod, ac ar y penwythnos aethom draw i Bwllheli am berfformiadau olaf taith Parti Priodas, gwledd o ddrama gomedi fydd yn aros yng nghof cynulleidfaoedd am amser hir i ddod. Pleser oedd cael gorffen y daith yng ngwir gartref drama Gruffudd Owen, ar arfordir Cymru ym Mhen Llŷn.
Efallai i’r llenni gau am y tro olaf, ond mae cyfle o hyd i chi fwynhau’r ddrama arbennig hon. Mewn cydweithrediad â Sebra, cyhoeddwyd y sgript ym mis Ebrill i gyd-fynd â’r daith genedlaethol ac fe’i ddewiswyd fel Llyfr y Mis gan Gyngor Llyfrau Cymru ar gyfer mis Mai.
Meddai’r dramodydd Gruffudd Owen:
"Dwi wrth fy modd bod Sebra wedi cyhoeddi sgript y ddrama i gyd-fynd â thaith y Theatr Genedlaethol. Gobeithio y bydd darllenwyr yn mwynhau’r ddrama-gomedi hon am gariad, perthyn, a dawnsio ar ben byrddau."
Ry’n ni fel cwmni yn falch iawn o gydweithio gyda Sebra, sy’n cyhoeddi llenyddiaeth fodern sy’n diddanu. Mae Gwennan Evans, Golygydd Creadigol a Rheolwr Rhaglen Gyhoeddi Sebra, yn rhannu ein balchder o’r bartneriaeth yma rhwng y ddau gwmni:
"Rydyn ni mor falch i gydweithio ar y prosiect yma. Bydd sgript y ddrama yn adnodd pwysig ar gyfer cynhyrchwyr ac actorion y dyfodol ac yn sicrhau bod y gwaith ar gael ar gof a chadw."
Felly, os na wnaethoch chi ddal y sioe ar daith (neu os hoffech ail-ymweld â’r ddrama ar ôl mwynhau’r perfformiad llwyfan), gallwch ymuno yn yr hwyl a phrynu’ch copi trwy wefan Sebra nawr.
Ry’n ni’n edrych ‘mlaen at weld detholiadau o’r ddrama mewn cystadleuaethau ymgom a monologau yn yr Eisteddfod am flynyddoedd i ddod!
Newyddion + blogiau diweddaraf
-
21/08/2024 NewyddionDal Gafael | Hold On: Perfformwyr ifanc disglair o bob cwr o Gymru
Ry'n ni'n falch o weithio mewn partneriaeth gyda Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Fio i gyflwyno'r cynhyrchiad arloesol hwn, fydd yn arddangos doniau eithriadol rhai o berfformwyr ifanc disgleiriaf Cymru.
-
17/07/2024 NewyddionDawns y Ceirw: Casi Wyn yn arwain gwledd o stori, dawns a cherddoriaeth
Mae Theatr Genedlaethol Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn llawn cyffro i gydweithio y gaeaf hwn.