Blog 28/11/2022

Profiad Rhiannon Williams fel ein Dramodydd Preswyl Cyntaf

Image of a woman smiling into the camera holding a trophy from the Eisteddfod yr Urdd. The urdd logo is on the medal.

Rhiannon oedd dramodydd preswyl ifanc cyntaf Theatr Genedlaethol Cymru yn 2021, ar ôl ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfod T, 2021. Cyn dod yn ddramodydd preswyl ifanc, bu Rhiannon yn rhan o'r Cynllun Dramodwyr Ifanc a rhedwyd gan Theatr Gen, ar y cyd ag Urdd Gobaith Cymru a S4C. 

Diolch o galon, Rhiannon, am dy gyfraniad arbennig dros y flwyddyn diwethaf.

Dyma Rhiannon yn sôn am ei phrofiad! 

 

  • Sut oeddet ti'n teimlo pan enillais di a gweld dy ddrama ar ffurf ffilm fer?

O’dd e’n deimlad swrrealaidd iawn. Mae ’sgwennu’n gallu fod yn broses unig ac ynysig gyda’r cymeriadau a’r plot yn byw o fewn dy ben a nunlle arall. Felly roedd cael gweld dehongliad cyfarwyddwr, cast, a chriw o’m gwaith yn brofiad rhyfedd ond hefyd hollol anhygoel ar yr un pryd. O’n i’n teimlo’n andros o lwcus fod pobol eraill yn gallu gweld yr hyn o’n i wedi bod yn ei greu yn fy mhen ers cyhyd.

 

  • Sut o’dd y profiad o weithio gyda Theatr Gen fel ein Dramodydd Preswyl Ifanc cyntaf?

Mae’r flwyddyn ddiwethaf fel Dramodydd Preswyl Ifanc cyntaf Theatr Gen wedi bod yn brofiad gwerthfawr. Dwi wedi dysgu sawl peth defnyddiol yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys y broses o gomisiynu dramâu, y broses o ymchwilio i mewn i ddarn o waith, a sut i baratoi at lwyfannu cynhyrchiad, i enwi ond rhai. Hefyd, cefais sawl cyfle i rwydweithio ac i glywed am brofiadau ’sgwennu sgriptwyr Cymraeg eraill.

 

  • Pa fath o brofiadau ges di? Wyt ti'n teimlo bod y profiadau hyn wedi helpu i ti ddatblygu ac ym mha ffyrdd?

Yn anffodus, roedd Covid wedi amharu ychydig ar fy mhrofiad ond er y cyfyngiadau ces i’r cyfle i fynychu cyfarfodydd Datblygu Creadigol dros Zoom. Roedd hyn yn golygu y cefais y cyfle i ddarllen syniadau, brasluniau, a drafftiau cyntaf o ddramâu a’u trafod gyda’r tîm. Ond y prif brofiad oedd derbyn arweiniad a chymorth Melangell Dolma, Cydlynydd Datblygu Creadigol y cwmni, wrth i mi fynd ati i lunio pitsh fy hun i’w gyflwyno i Theatr Gen.

 

  • Beth wnes di fwynhau fwyaf?

Cael mynd i wylio sioeau Theatr Gen. Roedd hyn yn cynnwys Anfamol gan Rhiannon Boyle a Tylwyth gan Daf James - dwy ddrama lawn troeon a’r cydbwysedd perffaith rhwng yr adegau doniol a thynner. Roedd cael gwylio’r perfformiadau clyfar yma wedi cynnu’r ysbrydoliaeth ynof i barhau i ’sgwennu. Yn fwy na dim, ’nes i wir mwynhau’r sesiwn a drefnodd Theatr Gen rhyngof i a Rhiannon Boyle lle cefais y cyfle i’w holi am ei phroses o strwythuro’r fonolog, Anfamol. Sgwrs greadigol dwi’n hynod o werthfawrogol o’i chael gyda hi!

 

  • Beth wyt ti'n 'neud nawr a beth yw dy obeithion i'r dyfodol o ran ysgrifennu / sgriptio?

Dwi newydd fod ar secondiad gyda Pobol y Cwm fel Is-olygydd Sgriptiau (ac wedi joio’r profiad mas draw!) a bellach dwi nôl gyda S4C fel Swyddog Ymgyrchoedd (Hyrwyddo). Dwi’n ’sgwennu yn fy amser sbâr ond mae dod o hyd i’r amser yna’n gallu bod yn anodd ar adegau. Dwi newydd orffen fod ar gynllun Cylch Sgwennu’r Sherman gyda saith sgriptiwr Cymraeg arall. Y gobaith yw y bydd darlleniadau o weithiau pawb yn y flwyddyn newydd. Dwi hefyd wrthi’n cael fy mentora gan Gareth Evans-Jones i ’sgwennu drama ar gyfer Theatr Fach Llangefni sy’n gyffrous. Dwi hefyd yn rhan o Brosiect ’23, sef prosiect ar y cyd rhwng Theatr Gen a’r Urdd. Yn rhan o’r prosiect dwi wedi ‘sgwennu sgript gwta deg munud i ddisgyblion lleol ei pherfformio yn Eisteddfod yr Urdd 2023.

 

  • Beth fyse ti'n dweud wrth rywun sy'n ystyried cystadlu ar gyfer Medal Ddrama'r Urdd yn y dyfodol?

Ewch amdani! Mae’n ysgogiad grêt i roi ben ar bapur ac yn fwy na hynny mae’n gyfle gwych i dderbyn beirniadaeth ar ddarn o waith o dan ffugenw. A phwy a ŵyr, efallai mai chi fydd enillydd nesaf Medal Ddrama’r Urdd ac yn cael y cyfle i dderbyn cymorth ac arweiniad gan Theatr Gen i ddatblygu fel sgriptiwr ifanc.