Newyddion 08/08/2023

Partneriaeth newydd rhwng Theatr Gen a S4C

Three people stand in front of banners. The woman on the left has short grey hair and is wearing a blue and white dress. The man in the middle has curly brown hair and an oversized embroidered shirt. The woman on the left has long brown hair and wearing a black leather jacket and floral dress. All three are smiling.

Mae Theatr Genedlaethol Cymru a S4C yn falch o gyhoeddi partneriaeth newydd i ffrydio cynyrchiadau a datblygu Y Dyn Nath Ddwyn y ’Dolig 2.

Bydd tri o gynyrchiadau Theatr Genedlaethol Cymru yn cael eu ffrydio gan S4C, gyda’r dramâu yma i’w gweld ar S4C Clic yn 2024. Bydd ffrydio ein cynyrchiadau yn hwyluso mynediad y rhai sy’n methu mynychu theatrau ac yn sicrhau mynediad i bawb i’r celfyddydau, gyda’r ffrydio yn gyd-gynhyrchiad rhwng y sefydliadau.

Bydd Y Dyn Nath Ddwyn y ’Dolig 2 yn ddilyniant i’r glasur o ffilm gafodd ei darlledu am y tro cyntaf ar S4C yn 1985 gan gymryd ysbrydoliaeth o’r gwreiddiol i greu cynhyrchiad cerddorol newydd i ddiddanu’r teulu i gyd.

Crëwyd y ffilm wreiddiol gan Caryl Parry Jones a Hywel Gwynfryn ac fe gafodd ei chynhyrchu gan Endaf Emlyn.

Daw hyn wrth i S4C ddarlledu cyfres Anfamol ym mis Medi, sydd wedi ei seilio ar gynhyrchiad gwreiddiol Theatr Gen o’r un enw - drama gomedi dywyll wedi ei haddasu o’r ddrama lwyfan gan yr awdures Rhiannon Boyle.

Mae S4C hefyd yn edrych i ddatblygu mwy o addasiadau teledu o gynyrchiadau Theatr Gen yn y dyfodol.

Dywedodd ein Cyfarwyddwr Artistig, Steffan Donnelly:
“Mae’r bartneriaeth hynod gyffrous yma yn dangos dau gwmni cenedlaethol yn cydweithio’n arloesol. Yn ogystal â datblygu sioe gerdd newydd, bydd y bartneriaeth yn ehangu mynediad i’n cynyrchiadau yn ddigidol, arddangos artistiaid gwych Cymru, cynyddu gwerth am arian, a chynnig cyfle i gynulleidfaoedd ail-wylio rhai o’i hoff gynyrchiadau. Teithio perfformiadau mor agos at y stepen ddrws ydi ein cenhadaeth, a dyma gyfle i ni fynd dros y rhiniog, mewn i’r stafell fyw!”

Dywedodd Sian Doyle, Prif Weithredwr S4C:
"Mae Y Dyn Nath Ddwyn y ’Dolig yn un o glasuron S4C a dwi yn hynod o gyffrous o fod yn gweithio’n agos gyda Theatr Genedlaethol Cymru ar y prosiect yma. Bwriad y bartneriaeth yw dod â’r gorau o’r theatr i sgriniau pobl ble bynnag y mae nhw, gan ddenu cynulleidfa newydd at y cynyrchiadau yma. Bydd hyn yn galluogi pobl i gael blas o’r gwaith gwych mae’r Theatr Genedlaethol yn ei wneud ar hyd a lled y wlad.”

Cafodd y bartneriaeth rhwng S4C a’r Theatr Genedlaethol yn cael ei lansio ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ar 8 Awst.