Newyddion 03/03/2022

Pair

Text graphic. Light pink background with a red square on top. Purple text reads (translated): Cauldron, Opportunity for artists to co-create through devising

Heddiw mae Theatr Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth gan S4C, yn lansio Pair: cyfle newydd i annog artistiaid sy’n weithwyr llawrydd yn y sector gelfyddydol i ddod ynghyd i ddatblygu gwaith gwreiddiol. Yn hytrach na gweithio’n annibynnol i ddatblygu syniadau, e.e. i ysgrifennu dramâu, bydd Pair yn cynnig cyfle i artistiaid gyd-greu drwy ddyfeisio mewn gofod creadigol.

Yn ôl Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Gen: Yn dilyn cynlluniau diweddar sydd wedi canolbwyntio ar gynnig hyfforddiant a chyfleoedd i ddramodwyr (Grŵp Dramodwyr Newydd a Chynllun Dramodwyr Ifanc) ac i gyfarwyddwyr theatr (Awenau), rwy’n falch iawn bod Theatr Gen, gyda chefnogaeth S4C, yn gallu cynnig y cyfle hwn i wneuthurwyr theatr greu gwaith gwreiddiol drwy ddyfeisio a chydweithio. Mae lle i ni fel cwmni, wrth gwrs, wireddu gweledigaeth greadigol un artist; ond mae lle hefyd i ni arbrofi gyda ffyrdd amgen o greu cynyrchiadau theatr, ac i annog artistiaid i gydweithio a chyd-greu. Mae traddodiad hir ac anrhydeddus o greu theatr y ffordd yma yng Nghymru, ac mae’n bryd i ninnau fel Theatr Gen anrhydeddu’r traddodiad hwnnw. Dw i’n edrych ymlaen yn eiddgar at weld beth wnaiff ddigwydd wrth inni daflu artistiaid o bob math i mewn i’r pair.

Mae Pair yn agored i bob math o artistiaid; actorion, dramodwyr, awduron, storïwyr, cyfarwyddwyr drama o bob math, cerddorion, cyfansoddwyr, dawnswyr, coreograffwyr, dylunwyr set a gwisgoedd, dylunwyr sain a goleuo, artistiaid fideo a mwy. Drwy ddod ag artistiaid o wahanol ddisgyblaethau ynghyd i gydweithio mewn grwpiau, y gobaith yw y bydd modd datblygu syniadau newydd cyffrous ar gyfer cynyrchiadau theatr i’r dyfodol, a allai gynnwys elfennau aml-lwyfan hefyd.

Meddai Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C:

“Mae S4C yn falch iawn o gefnogi Theatr Genedlaethol Cymru gyda’r cynllun cyffrous ac arloesol hwn. Mae gennym ni rôl fel darlledwr cyhoeddus i ddenu a datblygu talent i’r sector greadigol yng Nghymru ac ry’n ni’n gwbl angerddol ac ymrwymedig i roi cyfleoedd i artistiaid sy’n cael eu tangynrychioli ac sydd ddim bob amser yn cael cyfle i fynegi eu lleisiau a’u syniadau. Ry’n ni’n edrych mlaen yn fawr at ddatblygu sgiliau amryw o artistiaid – fydd yn gallu gweithio ar draws gwahanol lwyfannau – a dilyn siwrne’r cynllun hwn gan ymfalchïo yng nghreadigrwydd y Pair.”

Bydd 12 o artistiaid yn cael cyfle i gymryd rhan yn Pair a phob un yn derbyn taliad o hyd at £1,500 ynghyd â chostau cynhaliaeth am eu hamser a’u hymrwymiad i’r prosiect. Bydd pawb yn dechrau’r siwrne greadigol ym mis Mai yn y Llwyfan yng Nghaerfyrddin, sef cartref Theatr Gen, lle bydd cyfle i fwynhau wythnos o hyfforddiant a gweithdai er mwyn dysgu sgiliau ymchwil, dulliau dyfeisio a sgiliau creu ar y cyd. Byddant wedyn yn ffurfio tri grŵp, gyda phob grŵp yn cynnwys artistiaid o wahanol ddisgyblaethau.

Yn ôl Dr Rhiannon Mair, gafodd y syniad gwreiddiol am y prosiect:

Dw i’n llawn cyffro am arwain prosiect Pair, ac i weld y cyfoeth theatraidd gaiff ei greu wrth ddefnyddio technegau dyfeisio, gan uno amryw artistiaid i rannu a chyd-ddarganfod ffyrdd unigryw o gyflwyno straeon a themâu. Mae creu theatr drwy ddyfeisio yn greiddiol i’m gweledigaeth fel ymarferydd ac ymchwilydd. Credaf fod yr arddull hwn yn ein galluogi i ddatgelu straeon nad ydynt efallai’n cael eu hadrodd, neu’n caniatáu adrodd stori o safbwyntiau gwahanol. Mae’n bwysig i genedl fel Cymru ganfod ffyrdd creadigol o adlewyrchu ac adnewyddu ein naratifau unigol a thorfol, a chredaf y bydd bwrlwm Pair yn gyfle i wneud hyn.

Yn ystod yr haf, bydd pob un o’r grwpiau unigol yn treulio wythnos mewn gofod creadigol yn datblygu dau syniad yr un cyn eu rhannu gyda chynrychiolwyr o Theatr Gen ac S4C, gan dderbyn adborth ar bob syniad. Y gobaith yw y bydd rhai o’r syniadau a gyflwynir yn arwain at gomisiynau gan Theatr Gen i greu cynyrchiadau theatr byw dyfeisiedig, a allai gynnwys elfennau digidol hefyd. Bydd hefyd yn fodd i artistiaid a chrewyr cynnwys dramataidd o bob math ddatblygu perthynas greadigol a phroffesiynol gyda Theatr Gen ac S4C.

Mae Pair ar agor i unrhyw artist yng Nghymru, sy’n weithiwr llawrydd ac sydd dros 18 mlwydd oed. Mae croeso i artistiaid ar ddechrau gyrfa ac artistiaid profiadol, ac i’r rheini sydd eisiau cynyddu eu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith.

Mae Theatr Genedlaethol Cymru ac S4C wedi ymrwymo i wneud y cynllun hwn mor gynhwysol a hygyrch â phosib. Os oes unrhyw rwystr y tybiwch chi ei fod yn eich atal rhag ymgeisio neu os oes angen unrhyw gefnogaeth neilltuol arnoch, cysylltwch â Theatr Gen i drafod.

I fynegi diddordeb mewn bod yn rhan o Pair, ewch i dudalen Datblygu Creadigol ar theatr.cymru/datblygu-creadigol i gwblhau’r ffurflen mynegi diddordeb ar-lein, neu gallwch fynegi diddordeb ar ffurf fideo hyd at 2 funud o hyd, a’i anfon at creu@theatr.com neu drwy WhatsApp at 07908439417. Y dyddiad cau yw 5.00yh, 22 Mawrth. Bydd rhestr fer o ymgeiswyr yn cael eu gwahodd a’u talu i gyflwyno cais llawn i’w ystyried gan banel allanol a fydd hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o Theatr Gen ac S4C. Os oes gennych gwestiwn am y cynllun neu’r broses ymgeisio, cysylltwch â Gavin Richards yn Theatr Gen ar: Gavin.richards@theatr.com

Am ymholiadau’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Heulwen Davies, Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru ar Heulwen.Davies@theatr.com / 07817591930.

– DIWEDD –