Mae gan bob un ohonom ein seren arweiniol ddiwylliannol, y creawdwyr llyfrau, ffilmiau, cerddi, dramâu a cherddoriaeth sydd wedi ein swyno’n llwyr. Yn aml, mae atgof clir iawn gennym o’r tro cyntaf i ni ddod ar eu traws, y foment y taniwyd yr angerdd ynom i bara oes. Ddeugain mlynedd yn ôl, digwyddodd hyn i mi, gyda gwaith Eugène Ionesco.
Dechreuodd gyda La Cantatrice Chauve, ei ddrama gyntaf a’r un fwyaf adnabyddus, a gyflwynwyd i mi gan athro Ffrangeg arbennig o cŵl yn yr ysgol yn Swydd Gaerwrangon. Cefais fy hudo’n syth gan y modd roedd Ionesco yn chwarae ar eiriau a’i ffraethineb anarchaidd, ac yna finiogrwydd ei gymeriadu. Gan fy mod wedi fy magu ar ddeiet o glasuron trwm ‘Middle England’, roedd y cipolwg hwn ar fydoedd newydd wedi fy ngwefreiddio. Ers hynny, pryd bynnag rydw i wedi gweld bod drama gan Ionesco yn cael ei llwyfannu yn rhywle, rydw i wedi mynd i’w gweld, a byth wedi cael fy siomi.
Fel myfyriwr drama ym Mhrifysgol Llundain, llwyfannais fersiwn o Rhinoceros ar gyfer fy asesiad terfynol. Doedd hi ddim yn dda iawn, ond roeddwn i wrth fy modd yn dod i adnabod y ddrama’n well. Roedd dychan Ionesco ar y modd roedd cydymffurfiaeth gymdeithasol yn lledaenu, a chroen a meddyliau yn caledu, yn tarddu o’i ieuenctid ei hun ddechrau’r 1930au, pan ddychwelodd ei deulu o Ffrainc i Rwmania, gwlad enedigol ei dad, ac roedd wedi gweld drosto’i hun y cynnydd mewn Natsïaeth, yn enwedig ymhlith ei gyfoedion yn y Brifysgol. Fel y dywedodd mewn cyfweliad yn 1970:
“O bryd i’w gilydd, byddai un o’r grŵp yn datgan ‘Dydw i ddim yn cytuno o gwbl gyda nhw [y Ffasgwyr], wrth gwrs, ond ar rai pwyntiau, mae’n rhaid i mi gyfaddef, er enghraifft yr Iddewon...’ Ac roedd y math yna o sylw yn symptom. Dair wythnos yn ddiweddarach, byddai’r person hwnnw’n dod yn Natsi. Cafodd ei ddal mewn mecanwaith, roedd yn derbyn popeth, roedd wedi troi’n Rhinoseros.”