Newyddion 23/05/2023

Prosiect 40°C: Galw ar artistiaid i ymateb i’r argyfwng hinsawdd

Background of an upward perspective shot of trees with blue skies visible through the trees. In the centre is the logo for Prosiect 40°C which features the name of the project in upper case text, but instead of the '0' in '40' there is a small, graphic image of a green planet.

Ry'n ni'n falch iawn o lansio Prosiect 40°C - prosiect newydd hirdymor sy’n ymateb i'r argyfwng hinsawdd - gyda galwad am artistiaid i gymryd rhan mewn rhaglen breswyl yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen ym mis Awst.

Mae Prosiect 40°C yn ymateb i'r foment dyngedfennol y llynedd pan y mesurwyd y tymheredd uchaf erioed yn y DU gan y Swyddfa Tywydd. Bwriad y prosiect 4 mlynedd ac amlhaenog hwn yw i ddarganfod ffyrdd creadigol a gwahanol i herio’r hen ffyrdd o ymateb i drychinebau byd natur ac i archwilio sut gall cyfrwng theatr byw ehangu ein dealltwriaeth o’r argyfwng hinsawdd fel rhan annatod o fywyd yng Nghymru heddiw.

Dan arweiniad yr artist arweiniol a’r curadur Dylan Huw, bydd Prosiect 40°C yn cychwyn gyda cyfnod breswyl Gwreiddioli. Gyda chefnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, gwahoddir 5 artist i dreulio cyfnod o 4 diwrnod yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen ger Machynlleth i wrando, herio, cyd-ddychmygu a datblygu syniadau creadigol. Yn ystod rhaglen breswyl Gwreiddioli, bydd yr artistiaid yn cymryd rhan mewn sesiynau wedi'u harwain gan artistiaid ac arbenigwyr gwadd o feysydd amrywiol. Yna, bydd yr artistiaid yn ymgynnull i fyfyrio, trafod ac ymateb yn greadigol i’r themâu a’r hyn y maent wedi ei glywed heb y pwysau o orfod cyflwyno unrhyw beth ar ddiwedd y cyfnod.

Meddai’r artist arweiniol Dylan Huw:

“Dwi llawn cyffro i fod yn gweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru ar breswyliad Gwreiddioli, ac i groesawu mwy o artistiaid mewn i’r broses. Craidd y prosiect ers y dechrau yw ymgynnull grŵp o bobl i rannu, gwrando a dychmygu ar y cyd mewn gofod aml-ddisgyblaethol, agored, hael ac ymholgar, ynghylch rhai o faterion mwyaf hollbresennol (a llethol) ein hoes. Ry’n ni’n adeiladu ar waith arloesol sydd wedi bod yn digwydd ymysg artistiaid, mudiadau a chymunedau Cymru ers tro i ganoli gwaith y dychymyg fel arf i wynebu dyfodol heriol. Dwi methu aros i weld beth ddaw o’r haf hwn.”

Mae cyfnod preswyl Gwreiddioli yn gyfle trawsnewidiol i i grŵp o artistiaid fod yn uchelgeisiol am bosibiliadau eu gwaith, i wthio ffiniau theatr ac i herio rhagdybieithau cyffredin am yr argyfwng hinsawdd. Bydd y pum artist yn derbyn ffî o £1,000 yr un am gymryd rhan yn y prosiect.

Mae Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, yn credu’n gryf mewn cynnig gofod creadigol i artistiaid archwilio materion hanfodol fel hyn, ac edrychai ymlaen at ddod i adnabod amrywiaeth o artistiaid llawrydd hefyd ar hyd y ffordd. Meddai Steffan:

“Mae’n holl-bwysig ein bod yn cwestiynu sut mae theatr Gymraeg am ymateb i’r argyfwng hinsawdd, a sut ydyn ni fel cwmni am weithredu yn wyrddach. Rwy’n falch iawn o’n hymrwymiad pendant i weithredu yn wyrdd, ond mae mwy o waith i’w wneud. Mae’r prosiect yma yn gyfle i ni weithredu yn ymarferol, ac adeiladu ar y gwaith cyffrous mae Dylan Huw eisoes wedi bod yn rhan ohoni fel Cymrodyr Cymru’r Dyfodol gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Os ydych chi am ddatblygu syniadau creadigol, herio arferion y cwmni a’r sector, codi ymwybyddiaeth yn ein cymunedau, a phlethu actifyddiaeth a chelf - ymgeisiwch! Mae ymgynnull artistiaid amrywiol ac arbenigwyr ecolegol mewn un gofod yn gyfle hynod gyffrous a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau Prosiect 40°C.”

Mae cael cefnogaeth a chymorth Cyfoeth Naturiol Cymru wrth ddatblygu’r prosiect hwn wedi bod yn werthfawr i Theatr Genedlaethol Cymru, ac mae’r ddau gwmni wedi mwynhau’r cyfle i gydweithio. Meddai Joe Roberts, Prif Gynghorydd Arbenigol: Hamdden a Mynediad Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn falch iawn o gefnogi Prosiect 40°C. Mae ein cynllun corfforaethol newydd yn nodi gweledigaeth, sef ‘byd natur a phobl yn ffynnu gyda'n gilydd’, a'r camau y byddwn yn eu cymryd i helpu i gyflawni hyn. Yn sail i'n hymagwedd mae cydnabyddiaeth bod gan Gymru berthynas unigryw â natur trwy ei hiaith a'i diwylliant – perthynas y dylid ei gwerthfawrogi a'i dathlu. Mae'r prosiect hwn yn cynnig cyfle anhygoel i artistiaid o Gymru archwilio'r berthynas hon. Heb os, bydd y rhaglen a grëwyd gan Dylan Huw yn ysbrydoli trafodaeth heriol ynghylch hunaniaeth, iaith, cyfiawnder cymdeithasol a'r argyfyngau hinsawdd a natur."

Gwahoddir artistiaid sy’n gweithio trwy unrhyw gyfrwng i ymgeisio am y cyfle hwn. Gofynnir eu bod yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn, yn siarad Cymraeg neu’n awyddus i gynyddu eu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith, a’u bod yn artist sy’n weithiwr llawrydd celfyddydol. 

*Mae'r cyfnod mynegi diddordeb ar gyfer cyfnod preswyl Gwreiddioli bellach wedi dod i ben.*