Theatr Genedlaethol Cymru a BBC Cymru Fyw yn cydweithio ar gyfres ddrama ddigidol fel rhan o Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg 2021
Yn dilyn llwyddiant y ddrama ddigidol Enfys gan Melangell Dolma, mae Theatr Genedlaethol Cymru a BBC Cymru Fyw yn falch o gyhoeddi bod y bartneriaeth yn parhau, gydag Enfys bellach wedi ei datblygu i fod yn gyfres o bedair ddrama ddigidol fer. A hithau’n ddrama sy’n dathlu dysgu Cymraeg, rydym falch o gyhoeddi bod y penodau unigol yn cael eu darlledu’n ddyddiol ar BBC Cymru Fyw, ac ar Facebook BBC Cymru Fyw a Theatr Genedlaethol Cymru, yn ystod wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg BBC Radio Cymru, 10–15 Hydref.
Meddai Dafydd Meredydd, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru: “Mae croesawu dysgwyr i gymuned BBC Radio Cymru a BBC Cymru Fyw, a dathlu eu cyfraniad i gelfyddydau Cymru, yn holl bwysig. Dwi’n falch iawn ein bod yn cydweithio gyda’r Theatr Genedlaethol, a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ar y prosiect arbennig yma er mwyn cynnig cynnwys blaengar a pherthnasol, nid yn unig i bobl sy’n dysgu Cymraeg, ond i bawb sy’n medru’r iaith.”
Yn y bennod wreiddiol a ddarlledwyd ar lein ym Mehefin 2020, cafodd y gynulleidfa rithiol gyfle i gwrdd â’r cymeriad Nick. Fel nifer o bobl oedd ar ffyrlo ar y pryd, aeth Nick ati i ddysgu Cymraeg gan fynychu gwersi ar-lein gyda’i diwtor, Enfys. Yr actor Richard Nichols o Borthcawl oedd yn portreadu Nick. Mae Richard ei hun yn ddysgwr, ac mae wedi ymddangos mewn cyfresi yn cynnwys Doctor Who, Pobol y Cwm a nifer o ddramâu radio. Yn y tair pennod newydd cawn gyfle i weld ei berthynas gydag Enfys yn datblygu, gyda sawl tro trwstan a doniol ar hyd y daith!
Yr actores Catrin Fychan o Fro Ddyfi sy’n chwarae rhan Enfys. Mae’n wyneb cyfarwydd ar gyfresi teledu fel Pobol y Cwm, 35 Diwrnod a Y Gwyll/Hinterland ac wedi perfformio mewn dramâu gyda Bara Caws a’r Frân Wen.
Meddai’r awdur, Melangell Dolma: “Roeddwn i mor falch o’r ymateb gafodd y bennod gyntaf y llynedd. Rydw i wrth fy modd yn cael y cyfle i ailymweld â’r cymeriad hoffus Nick, ac i gyflwyno cymeriadau newydd i’r gyfres, yn cynnwys Enfys – yr athrawes Gymraeg sydd hefyd yn ceisio cadw dau o blant yn ddifyr ar ei phen ei hun drwy’r cyfnod clo – a Julie, sy’n ei gweld ei hun fel tipyn o ‘matchmaker’! Mae’n amlwg bod galw am fwy o waith sy’n adlewyrchu profiad dysgwyr. Fel dywed Enfys, “Dyna i chi rwbath dwi o hyd yn barod i ddathlu!”
Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru: “Diolch i nawdd uniongyrchol oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru, a chydweithrediad y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Nant Gwrtheyrn, bu’r cynllun unigryw hwn yn fodd i gefnogi artistiaid llawrydd i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg pan fo dirfawr angen cynyddu’r gweithlu sy’n medru gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mewn cyfnod pan fo’r gweithlu llawrydd wedi gorfod wynebu heriau eithriadol yn sgil y pandemig.”
Un o’r actorion a noddwyd i dderbyn y sesiynau Cymraeg Gwaith oedd Rhiannon Oliver o Gaerdydd. Wedi ei hyfforddi yn RADA a gweithio gyda Shakespeare’s Globe, y National Theatre, y Theatre Royal yng Nghaerfaddon, ac ar gyfresi teledu poblogaidd fel Torchwood, mae’r cyfle i ddefnyddio ei Chymraeg trwy’r cynllun hwn gyda Theatr Genedlaethol Cymru wedi agor drysau iddi. Roedd hi’n falch o’r cyfle i actio yn y Gymraeg am y tro cyntaf yn y gyfres Enfys – Rhiannon sy’n chwarae cymeriad Julie, un o’r dysgwyr direidus yn nosbarth Enfys!
“Dwi mor ddiolchgar am y siawns i fod yn rhan o Enfys. Dwi wedi gweithio’n galed iawn i ddysgu Cymraeg ac mae’n deimlad anhygoel i gael y cyfle i ddefnyddio fy Nghymraeg mewn prosiect fel hwn. Dysgais i gymaint yn ystod y broses, yn enwedig oherwydd bod y tîm cyfan yn gefnogol iawn ac yn hapus i helpu pan nad o’n i’n gwybod gair neu ymadrodd.”
Er mwyn ymestyn y profiad o ddefnyddio’r iaith, cafodd Rhiannon gyfle i aros ymlaen ar y set i gysgodi’r criw yn ystod gweddill y ffilmio. Meddai: “Roedd mor fuddiol i fod mewn gweithle Cymraeg – erbyn diwedd yr wythnos, dechreuais i feddwl yn Gymraeg am y tro cyntaf ac roedd yn deimlad cyffrous iawn! Rhoddodd gymaint o hyder i fi, a dwi’n benderfynol o barhau i ddatblygu fy sgiliau Cymraeg. Dwi’n gallu gweld dyfodol i fy hunan nawr wrth ddefnyddio mwy a mwy o Gymraeg – yn fy mywyd personol ac yn fy ngyrfa. Dwi’n teimlo mor lwcus fy mod wedi cael help gan Theatr Genedlaethol Cymru.”
Diolch i gefnogaeth gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, mae tair dysgwraig arall wedi cael cyfle i chwarae rhannau’r dysgwyr yn Enfys. Roedd cael bod yn rhan o gast Enfys yn gyfle i Becca, Sian a Judi gamu i mewn i fyd y theatr broffesiynol am y tro cyntaf, a dysgu Cymraeg mewn ffordd gwbl wahanol i’r arfer.
Meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg yn hapus iawn i fod yn rhan o’r prosiect yma. Cafwyd ymateb cynnes iawn i bennod cyntaf Enfys, ac mae cryn edrych ymlaen at weld beth yw hanes Nick ac Enfys. Mae’n wych bod y Theatr wedi rhoi cyfle i dair dysgwraig fod yn rhan o’r profiad.”
Bydd y gyfres Enfys ar gael yn Gymraeg, ac yn Gymraeg gyda chapsiynau Cymraeg a Saesneg. Bydd fersiwn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) hefyd ar gael ar YouTube Theatr Genedlaethol Cymru. Edrychwn ymlaen at rannu’r gyfres gyda chi ar dudalennau Facebook Theatr Genedlaethol Cymru a BBC Cymru Fyw ac ar Gylchgrawn Cymru Fyw yn ddyddiol am 19:00, yn ystod Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg BBC Radio Cymru, rhwng 11–15 o Hydref.
Newyddion + blogiau diweddaraf
-
21/08/2024 NewyddionDal Gafael | Hold On: Perfformwyr ifanc disglair o bob cwr o Gymru
Ry'n ni'n falch o weithio mewn partneriaeth gyda Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Fio i gyflwyno'r cynhyrchiad arloesol hwn, fydd yn arddangos doniau eithriadol rhai o berfformwyr ifanc disgleiriaf Cymru.
-
17/07/2024 NewyddionDawns y Ceirw: Casi Wyn yn arwain gwledd o stori, dawns a cherddoriaeth
Mae Theatr Genedlaethol Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn llawn cyffro i gydweithio y gaeaf hwn.