Ar ôl 11 mlynedd yn arwain Theatr Genedlaethol Cymru, bydd Arwel Gruffydd yn camu i lawr fel Cyfarwyddwr Artistig y cwmni ym mis Mai 2022.
Dywedodd Arwel Gruffydd:
“Heb or-ddweud o gwbl, mae arwain Theatr Genedlaethol Cymru dros y ddeng mlynedd a rhagor diwethaf wedi bod yr anrhydedd fwyaf y gallwn i fod wedi’i dychmygu erioed ac yn uchafbwynt gyrfa i mi. Mae wedi bod yn heriol ar adegau, wrth reswm – nid lleiaf felly dros y flwyddyn ddiwethaf – ond mae hefyd wedi bod yn bleser pur. Rwyf wedi cael y fraint o wireddu sawl uchelgais bersonol tra’n gweithio ochr yn ochr â lliaws o artistiaid anhygoel a chyd-weithwyr talentog ac ymroddedig, ac wedi cael fy herio hefyd i edrych o’r newydd ar sawl agwedd o’r gwaith a’m gweledigaeth innau. Mae digon i’w wneud dros y naw mis sy’n weddill o fy amser gyda’r cwmni, wrth i ni ymdrechu i oresgyn yr argyfwng sy’n parhau i’r diwydiant, ond wrth inni hefyd, gobeithio, weld pethau’n dod yn ôl i drefn, a gweld cynulleidfaoedd yn dychwelyd i’n theatrau; ac rwy’n edrych ymlaen at rannu’r rhaglen o waith uchelgeisiol sydd i ddod gan y cwmni yn y cyfnod hwnnw. A thu hwnt i hynny, ar nodyn mwy personol, rwy’n edrych ymlaen at ystod o gynlluniau a chyfleoedd newydd ac amrywiol i’r dyfodol, a fydd yn fy herio ac yn fy ysbrydoli, a lle medraf roi ar waith y sgiliau ’rwyf wedi’u datblygu a’r profiadau ’rwyf wedi’i mwynhau yn ystod fy amser gyda Theatr Gen."
Dywedodd Efa Gruffydd Jones, Cadeirydd Theatr Genedlaethol Cymru:
“Yn ddi-os mae dyled y cwmni yn fawr i Arwel am ei arweinyddiaeth a’i weledigaeth dros y degawd diwethaf. Mae ei angerdd dros ddatblygu Theatr Gymraeg o ansawdd yn amlwg i bawb, a hoffwn ddymuno’n dda iddo gyda’i heriau nesaf. Mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi ei gosod ar seiliau cadarn iawn i’r dyfodol, diolch i ymrwymiad a brwdfrydedd Arwel.”
Ymunodd Arwel â Theatr Genedlaethol Cymru fel Cyfarwyddwr Artistig a Phrif Weithredwr yn 2011. Yn wreiddiol o Danygrisiau ger Blaenau Ffestiniog, graddiodd Arwel o Brifysgol Bangor ac yna hyfforddi fel actor yng ngholeg drama Webber Douglas, Llundain. Bu’n actor proffesiynol am ddeunaw mlynedd cyn ymuno â Sgript Cymru fel Rheolwr Llenyddol yn 2005 ac yna mynd ymlaen i fod yn Gyfarwyddwr Cyswllt gyda Sherman Cymru rhwng 2008 a 2011. Yn 2002, enillodd ddwy wobr nodedig, sef gwobr Actor Gorau BAFTA Cymru am ei waith ar y gyfres Treflan i S4C, a Gwobr D.M. Davies yng Ngŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Cymru am ei waith fel awdur a chyfarwyddwr y ffilm Cyn Elo’r Haul.
Mae ei waith cyfarwyddo ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnwys rhai o uchafbwyntiau’r cwmni dros y ddeng mlynedd ddiwethaf: Y Tad, Macbeth, Chwalfa, Y Fenyw Ddaeth o’r Môr, Y Bont, Blodeuwedd a Sgint. Hefyd, mewn cyd-gynhyrchiad â Theatr y Sherman, Arwel oedd cyfarwyddwr Llwyth ac yna, yn fwy diweddar, Tylwyth gan Daf James – dau gynhyrchiad arloesol a welodd ddathliad o straeon a chymeriadau LHDT ar lwyfannau’r theatr Gymraeg fel na welwyd erioed o’r blaen.
Yn ystod ei amser gyda’r cwmni, mae Arwel wedi cyflwyno rhaglen gyson o waith amrywiol sydd wedi diddanu cynulleidfaoedd ledled Cymru ac sy’n aml wedi gwthio ffiniau’r theatr Gymraeg o ran ffurf a chynnwys; yn ogystal, cyflwynodd raglen o weithgareddau cyfranogol anturus a chynlluniau nodedig i ddatblygu sgiliau o fewn y sector theatr yng Nghymru. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd, gwelwyd nifer o gyd-gynyrchiadau cofiadwy gyda chwmnïau theatr eraill, ac mae’r cwmni wedi sefydlu nifer o bartneriaethau strategol dylanwadol gyda sawl sefydliad arall, fel Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac S4C. Mae’r cwmni hefyd wedi arwain wrth ddatblygu adnoddau technegol ym myd y theatr, yn fwyaf nodedig yr adnodd mynediad iaith arloesol, Sibrwd.
Yn ddiweddar, mae Arwel wedi arwain Theatr Genedlaethol Cymru trwy un o’r cyfnodau anoddaf yn ei hanes, sef cyfnod y pandemig byd-eang. Gyda rhaglen eang o gynyrchiadau theatr byw wedi’i chanslo, aeth y cwmni ati i gyflwyno rhaglen ddigidol helaeth er mwyn cefnogi artistiaid a gweithwyr theatr Cymru yn ystod yr argyfwng COVID-19, ac i gynnig arlwy amrywiol i gynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt. Yn ystod y cyfnod diweddar, heriol hwn mae’r cwmni hefyd wedi creu cyfleoedd amrywiol i ddatblygu sgiliau’r gweithlu theatr yng Nghymru, ac i fynd i’r afael â diffygion o ran cynrychiolaeth a chynhwysiant ym myd y theatr Gymraeg.
Newyddion + blogiau diweddaraf
-
21/08/2024 NewyddionDal Gafael | Hold On: Perfformwyr ifanc disglair o bob cwr o Gymru
Ry'n ni'n falch o weithio mewn partneriaeth gyda Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Fio i gyflwyno'r cynhyrchiad arloesol hwn, fydd yn arddangos doniau eithriadol rhai o berfformwyr ifanc disgleiriaf Cymru.
-
17/07/2024 NewyddionDawns y Ceirw: Casi Wyn yn arwain gwledd o stori, dawns a cherddoriaeth
Mae Theatr Genedlaethol Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn llawn cyffro i gydweithio y gaeaf hwn.