Newyddion 21/08/2024

Dal Gafael | Hold On: Perfformwyr ifanc disglair o bob cwr o Gymru

Dal Gafael | Hold On

Ry'n ni'n falch o weithio mewn partneriaeth gyda Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Fio i gyflwyno'r cynhyrchiad theatr arloesol, Dal Gafael / Hold On gan Mared Llywelyn a Steven Kavuma. Bydd y cynhyrchiad deinamig hwn wedi’i gyfarwyddo gan Dr. Sita Thomas yn arddangos doniau eithriadol y cast o 22 aelod, sy'n cynrychioli'r perfformwyr ifanc disgleiriaf o bob cwr o Gymru.

Wedi'i gomisiynu'n benodol ar gyfer ensemble ieuenctid 2024 ThCIC, mae'r ddrama ddwyieithog yn plethu teithiau dau berson gyda’i gilydd, wrth iddyn nhw frwydro heriau personol yng nghanol cefndir argyfwng hinsawdd a byd sy'n newid yn gyflym.

Mae'r tîm ysgrifennu wedi defnyddio dull ysgrifennu arloesol, gan ddod â dau lais gwahanol ynghyd a chyfuno'r ddau drwy gydweithio ar-lein ac yn bersonol. Mae Mared, o Ben Llŷn a Steven, sydd wedi’i eni yn Uganda a’i fagu Abertawe, wedi creu archwiliad cymhellol o ddiwylliant Cymru a materion byd-eang cyfoes gan gynnwys themâu hunaniaeth, cyfeillgarwch, galar, a'r argyfwng hinsawdd.

O dan gyfarwyddyd artistig Dr. Sita Thomas a chefnogaeth creadigol Steffan Donnelly, y ddau eu hunain yn gyn-fyfyrwyr ThCIC, mae'r cast talentog wedi bod drwy broses clyweliadau yn gynharach eleni a byddant yn ymgymryd â chwrs preswyl ymdrochol yn ystod mis Awst. Mae'r cwrs preswyl a thaith y perfformiad nid yn unig yn canolbwyntio ar ymarferion ond mae wedi'i ddylunio i wella lles cymdeithasol a datblygiad proffesiynol. Mae'n sicrhau bod pob cyfranogwr yn ffynnu o fewn cymuned gefnogol sy’n cael ei harwain yn broffesiynol. Mae arwyddocâd arbennig i natur ddwyieithog y cynhyrchiad, gan roi cyfle amhrisiadwy i bobl ifanc gydweithio, hyfforddi, a rhannu eu profiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg, a thrwy hynny ddyfnhau eu cysylltiad â'u treftadaeth ddiwylliannol cyffredin.

Mynegodd Dr. Sita Thomas, cyfarwyddwr ”Dal Gafael / Hold On” ei brwdfrydedd: "Fel cyn-aelod o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn 2006, mae'n anrhydedd gwirioneddol dychwelyd i gyfarwyddo cynhyrchiad eleni. Mae'r cydweithrediad hwn yn nodi cynghrair bwerus ymhlith ein tair sefydliad, gan amlygu ein hymrwymiad ar y cyd i feithrin doniau ac egni cenhedlaeth nesaf actorion a gwneuthurwyr theatr Cymru. Gyda'n gilydd, rydym ni’n cychwyn ar daith i dynnu sylw at straeon, diwylliannau a gwleidyddiaeth y Mwyafrif Byd-eang a'r iaith Gymraeg. Bydd ein hymrwymiad ar y cyd i roi llwyfan i'r naratifau hyn yn amlwg wrth i ni fynd i'r afael ag archwilio mytholegau diwylliannol ac ymdrin â materion pwysig ein hoes fel cyfiawnder hinsawdd.”

Ychwanegodd Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru: “Mae'n gyffrous iawn i Theatr Gen gydweithio gyda Fio a ThCIC ar ysgrifennu dwyieithog newydd sy'n archwilio'r argyfwng hinsawdd ac yn canolbwyntio ar leisiau ifanc yng Nghymru gyfoes. Mae'r cynhyrchiad hwn yn cynnig profiadau a llwybrau i bobl ifanc i mewn i'r celfyddydau sy'n bwysig iawn i ni. Yn ôl yn 2009 roeddwn i'n aelod o Theatr Ieuenctid Genedlaethol ac roedd yn brofiad ffurfiannol anhygoel - dysgais gymaint ac rwy'n dal i fod yn ffrindiau gyda llawer o'r artistiaid y cwrddais â nhw yno - felly mae bod yn rhan o'r prosiect hwn yn teimlo'n arbennig o ystyrlon.”

Amlygodd Megan Childs, Cynhyrchydd ThCIC, bwysigrwydd y prosiect:
""Drwy ddod â phartneriaid creadigol ac artistiaid rhagorol at ei gilydd, amcan ThCIC yw amlygu straeon a phrofiadau pobl ifanc Cymru a sicrhau bod ein cwmni ifanc talentog yn cael disgleirio ar lwyfan"

Mae'r cynhyrchiad hwn nid yn unig yn arddangos talent ieuenctid Cymru ond hefyd yn cynnig llwyfan hanfodol ar gyfer trafodaethau am ein dyfodol cyffredin. Gallwch weld Dal Gafael / Hold On yn Theatr y Sherman, Caerdydd, ac yn Galeri, Caernarfon, fis Medi hwn.