Newyddion 02/06/2023

Cyhoeddi Ysgogwyr Prosiect 40°C

An image of a background with forest trees pointing up towards the sky. There are three headshots in front of the background of the trees with three different headshots of artists including Eddie Ladd, Marva Jackson and Becca Voelcker.

Heddiw, ry’n ni’n falch o gyhoeddi rhai o’r ysgogwyr gwadd fydd yn cymryd rhan yn ein cyfnod preswyl Gwreiddioli fel rhan o Brosiect 40°C, ein prosiect hirdymor ac uchelgeisiol sy’n mynd i‘r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Bydd Eddie Ladd, Marva Jackson Lord a Becca Voelcker yn arwain sesiynau gyda’r artistiaid preswyl yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen ym mis Awst eleni - ac mae mwy o siaradwyr i'w cyhoeddi cyn hir. Gyda phob un yn dod ag arbenigeddau a safbwyntiau gwahanol, bydd y siaradwyr gwadd yma yn trafod eu gwaith a sbarduno’r artistiaid i ystyried safbwyntiau amrywiol ar groestoriadau’r argyfwng hinsawdd gyda phob dim arall sy’n diffinio bywyd heddiw.

Dan arweiniad yr artist arweiniol Dylan Huw a chyda chefnogaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru, mae cyfnod preswyl Gwreiddioli yn cynnig cyfle trawsnewidiol i 5 artist fod yn uchelgeisiol am bosibiliadau eu gwaith, i wthio ffiniau theatr ac i herio rhagdybieithau cyffredin am yr argyfwng hinsawdd. Os hoffech fynegi diddordeb, cewch ragor o wybodaeth fan hyn – mae’r dyddiad cau yn prysur agosau, sef 12pm ar 5 Mehefin.

Dyma ragor o wybodaeth am ein gwestai gwych:

Mae Eddie Ladd yn berfformiwr theatr gorfforol sy’n llunio darnau ar gyfer safleoedd arbennig a theatrau cyffredin a’u dwyn ar daith ledled y byd. Yn ystod Clo Mawr 2020 cyflwynodd ddarn ffurf-arlein newydd am ei ffarm a’i hardal, Fy Ynys Las, a chael y pleser o gydweithio â phobl Llandysul i greu sinema fychan ar safle arbennig y flwyddyn wedyn, cywaith sy’n parhau fis Medi eleni. Mae’n un o dri aelod cwmni dawns Light/Ladd/Emberton ac mae gwaith diweddaraf y cwmni, ffilm o’r enw Amser|Time, yn ymwneud â’r argyfwng hinsawdd. Nid yw’n gofyn bywyd moethus.

Artist Jamaicaidd-Canadaidd yw Marva Jackson Lord sy’n byw ym Mannau Brycheiniog. Mae hi’n awdur ac yn greawdwr digidol sy’n gweithio ym maes barddoniaeth, sain, a’r cyfryngau digidol yn archwilio tirwedd a naratifau rhyfeddol. Mae ei gwaith wedi’i wreiddio yn ei phrofiad helaeth ym myd radio cymunedol, sy'n cynnig collage sain gyda cherddoriaeth, sain archif ac wedi’i ganfod, barddoniaeth a chwedleua. Mae ei gwaith gweledol Ecosystem a Meditation on Multilingualism, yn adlewyrchu llais, iaith a’r gwirioneddau o fod yn fenyw Ddu yn byw yng nghefn gwlad Cymru. Wedi’i gomisiynu gan Peak a Pegwn, mae’r gweithiau yma yn amlinellu hanesion cysylltiedig a gwaddol trefedigaethol, archwiliad hirdymor o iaith, cof emosiynol a chysylltiad personol dwfn gyda’r tir.

Mae Becca Voelcker yn hanesydd ffilm a beirniad diwylliannol sy'n ysgrifennu ar ffilm, celf a diwylliant gweledol, yn enwedig mewn perthynas â gwleidyddiaeth ac ecoleg. Enillodd ei PhD ym Mhrifysgol Harvard yn 2021, gan ysgrifennu hanes byd-eang o ffilm eco-wleidyddol. Mae hi wedi byw a gweithio yng Nghymru, Lloegr, UDA a Japan. Mae Becca yn cyfrannu at BBC Radio 3 Free Thinking, Film Comment Podcast a mould.earth. Mae ei hysgrifennu wedi ymddangos yn Screen, MIRAJ, Sight & Sound, Frieze, Film Comment, ac Art Asia Pacific.

Dywedodd artist arweiniol a churadur y cyfnod preswyl, Dylan Huw:

“Mae pob un o'r ysgogwyr bydd yn ymuno â ni yn CAT yn dod â phrofiad helaeth o archwilio croestoriadau rhwng anferthedd yr argyfyngau hinsawdd a natur, bywyd bob dydd yng Nghymru heddiw, a photensial y celfyddydau i agor meddyliau a chreu newid. Maen nhw'n cwmpasu pob math o feysydd, arbenigeddau a chefndiroedd, a dwi methu aros i barhau i sgwrsio gyda nhw dros yr haf i baratoi sesiynau bydd yn ysbrydoli ac ysgogi artistiaid Gwreiddioli.”