Newyddion 25/11/2021

Cyhoeddi PETULA – sioe amlieithog ac arallfydol ar gyfer pobl ifanc Cymru

Black background. Cut out black and white image chest up of a person in a hoodie, with their arms up, holding a pink pair of binoculars up to their eyes. Behind this there is white, grey and pink smoke. Scattered around the person there are various other cut-up images such as a planet, garlic cloves, a pink grapefruit, an astronaut, toaster, space shuttle. Text on the image is pink and reads ‘Petula’.
  • Y cysyniad a’r cyfarwyddo gan Mathilde Lopez, yn seiliedig ar ddrama Fabrice Melquiot
  • Comedi swreal am gariad, colled a’r heriau sy’n wynebu pobl ifanc wrth dyfu i fyny
  • Ar daith ledled Cymru yn ystod gwanwyn 2022

Yn ystod gwanwyn 2022, bydd y ddau gwmni theatr cenedlaethol – National Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru – ar y cyd gydag August012 yn teithio theatrau Cymru benbaladr gyda PETULA, addasiad newydd sbon o WANTED PETULA, drama anhygoel gan Fabrice Melquiot

Sbardunwyd y cynhyrchiad gan y Cyfarwyddwr Ffrengig Mathilde Lopez, sy’n rhedeg ei chwmni theatr August012 yng Nghaerdydd. Mae Mathilde wedi cydweithio gyda National Theatre Wales droeon, ac un o’r uchafbwyntiau gyda’r cwmni oedd y cyfle i gyfarwyddo Tonypandemonium gan Rachel Trezize yn 2013. Mae hi newydd gael ei phenodi’n Gyfarwyddwr Cyswllt gyda’r cwmni ac roedd yn falch o’r cyfle i gydweithio gyda’r awdur poblogaidd Daf James ar yr addasiad unigryw hwn o PETULA, sy’n gyfuniad difyr o Gymraeg, Saesneg a hyd yn oed rhywfaint o Ffrangeg. 

 A hithau’n gyfuniad tywyll a swreal o gomedi ac antur, mae’r sioe yn rhannu stori Pwdin Evans, bachgen yn ei arddegau sydd wedi cael llond bol ar ei rieni a’i lys-rieni gwallgof, a’r holl bwysau o fod yn berson ifanc yn y byd. Mae’n dianc ar antur i’r gofod, i chwilio am atebion ac i geisio dod o hyd i’w gyfnither goll, PETULA. Gyda’r cynnwys yn cyffwrdd â nifer o’r heriau sy’n wynebu pobl ifanc ledled y byd – byw mewn teuluoedd cymysg, cartrefi dwyieithog, delwedd y corff a pherthnasoedd – bydd llawer o bobl ifanc ac oedolion yng Nghymru’n siŵr o uniaethu â’r sioe unigryw hon, fydd yn wledd i’r llygad. 

Meddai Mathilde: “Dwi wrth fy modd yn cael twrio i fyd anhygoel Melquiot gyda chriw mor wych o actorion a gwneuthurwyr theatr, a mynd i’r afael â hud ac arswyd blynyddoedd yr arddegau. A dyna hyfryd yw cael caniatâd i archwilio’r cyfnodau bregus hyn yn eu holl brydferthwch, ffolineb a chymhlethdod, a gwneud hynny gydag ymddiriedaeth lawn a chefnogaeth National Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru.

Dewi Wykes fydd yn chwarae rhan Pwdin Evans, a’r gantores Kizzy Crawford fydd yn chwarae rhan PETULA, gyda Tom Mumford, Sion Pritchard, Clêr Stephens a Rachel Summers yn chwarae’r rhieni a’r llys-rieni. 

Dyma’r ail gydgynhyrchiad gan National Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru, yn dilyn {150} yn 2015; perfformiad aml-blatfform oedd hwnnw, yn archwilio bywydau’r Cymry a ymfudodd i Batagonia.

Meddai Arwel Gruffudd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru: “Pleser o’r mwyaf yw cael cydgynhyrchu efo National Theatre Wales unwaith eto, a chael y cyfle y tro hwn i gydweithio efo cwmni August 012, sy’n dod â’u gweledigaeth unigryw i gynhyrchiad theatr tra gwahanol! Bydd yn braf cydweithio gyda’r dramodydd Daf James eto hefyd, yntau’n dod â’i arddull chwareus at y prosiect lliwgar ac annisgwyl yma. Rydym yn falch o’r cyfle i gyflwyno cynhyrchiad lle mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn rhannu llwyfan mewn modd sy’n adlewyrchu profiad bywyd pobl yng Nghymru heddiw, a phobl ifanc yn enwedig – er bod y ddrama hon yn mynd â ni i fyd sy’n bell iawn o’n realiti daearol!

Mae sicrhau bod pobl ifanc Cymru wrth galon y cynhyrchiad, ac yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau creadigol, yn hollbwysig i’r ddau gwmni cenedlaethol. Fel rhan o’r ymgyrch farchnata, mae timau marchnata National Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru wedi bod yn cydweithio gydag 11 o ddisgyblion ifanc o bob cwr o Gymru er mwyn sicrhau bod y ddelwedd a’r ymgyrch farchnata yn berthnasol i’r gynulleidfa. Yn yr un modd, mae Timau Creadigol y ddau gwmni’n cydweithio gyda chriw arall o bobl ifanc sy’n bwydo syniadau ar yr elfennau gweledol a’r llwyfannu.

Meddai Lorne Campbell, Cyfarwyddwr Artistig National Theatre Wales: “Mae adeiladu cynulleidfaoedd newydd ar gyfer y theatr yng Nghymru, a’i gwneud yn berthnasol i ragor o bobl – yn enwedig pobl ifanc – yn holl bwysig. Mae ymgysylltu, ymgynghori a grymuso pobl ifanc fel rhan o’r broses i greu theatr nid yn unig yn cyfoethogi ein gwaith, ond hefyd yn cynhyrchu llwybrau creadigol newydd i gefnogi eu llesiant, ac efallai hyd yn oed yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr theatr.” Yn ogystal ag adeiladu’r timau newydd hyn i roi cyngor ar y sioe a’r marchnata, bydd tocynnau i rai dan 25 oed ar werth am £10 yr un drwy gydol y daith.

Bydd PETULA yn agor yn Theatr y Sherman, Caerdydd ganol mis Mawrth 2022, ac yn teithio i Aberystwyth, Bangor, Llanelli, Aberdaugleddau a Chasnewydd cyn dod â’r daith i ben yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu ar yr 8fed o Ebrill. Mae’r sioe yn addas i bobl ifanc **12+** ac oedolion.

Dyma’r tro cyntaf i’r holl bartneriaid fabwysiadu egwyddorion Llyfr Gwyrdd y Theatr, sef cynllun gan y diwydiant theatr i ysgogi ffordd gynaliadwy o weithio, ac i annog cwmnïau i ddewis safonau gwyrdd ym mhob agwedd o’r broses greadigol.