Mae Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Clwyd wedi bod wrthi’n chwilio am awduron Cymraeg doniol i fod yn rhan o’r prosiect newydd, Ha/Ha. Yn dilyn cyfnod ymgeisio cystadleuol iawn, y pedwar awdur ddaeth i’r brig oedd:
Caryl Burke, Mari Elen, Geraint Lewis a Gruffydd Siôn Ywain.
Bydd syniadau’r pedwar awdur llwyddiannus yn cael eu datblygu i greu ddramâu comedi 10 munud o hyd fydd yn cael eu llwyfannu gyda’i gilydd mewn awr wyllt o lol a laffs ar faes Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni.
Ar ôl galwad agored am awduron, gwahoddwyd rhestr fer o ddramodwyr i gyflwyno syniadau i banel o staff y ddau gwmni a’r beirniad gwadd, y comediwraig Leila Navabi. Cytunwyd ar y pedwar awdur llwyddiannus ac maen nhw eisoes wedi dechrau datblygu eu dramâu ac wedi mwynhau’r cyfle o fynychu gweithdy ysgrifennu gyda’r dramodydd a sgriptiwr ffilmiau, James Graham.
Yn adeiladu ar lwyddiant cyd-gynhyrchiad diwethaf Theatr Gen a Theatr Clwyd, sef Rŵan/Nawr yn Eisteddfod Genedlaethol 2023, bydd y cyfarwyddwyr Daniel Lloyd a Rhian Blythe yn ôl eleni gyda chast penigamp a cherddoriaeth fyw yn dod â’r holl ddramâu i’r llwyfan.
Mae’r cyfarwyddwyr yn edrych ymlaen at ddod â noson wyllt arall i’r Eisteddfod eleni. Dywedodd Daniel Lloyd, Cyfarwyddwr Cyswllt Theatr Clwyd:
“Yn dilyn llwyddiant ysgubol Rŵan/Nawr y llynedd ma’n bleser i mi, ar ran Theatr Clwyd gydweithio unwaith eto gyda Theatr Genedlaethol ar Ha/Ha eleni. Yn fwy nag erioed, da ni angen laff tydan?! A da ni gyd yn gwybod sut all gomedi ymafael mewn rhai o’r pynciau a themau dwysaf sy’n ein herio ni a’n ffordd o fyw. O’r dychan i’r abswrd - o’r chwerw-felys i’r slapstick, mae lleisiau gwreiddiol a syniadau doniol gan y pedwar awdur a bydd rhywbeth yna i apelio at chwaeth gomedi pawb. Methu aros i rannu HaHa gyda chi gyd yn fuan!”
Ychwanegodd Rhian Blythe, Cyfarwyddwr Cyswllt Theatr Gen:
“Mae’n debyg, yn wyddonol fod gan chwerthin y gallu i adfywio gwahanol organau’r corff. Eu cosi nhw nôl i fodolaeth, os leciwch chi. Mae’n gwneud i’r galon bwmpio’n gynt ac yn lleihau pwysau gwaed. Mae’n gallu gwella system imiwnedd y corff, gweddnewid tymer ddrwg a hyd yn oed lleihau poen! Oes angen deud mwy? Welwn ni chi yna ta ia?”
Mae Ha/Ha yn ddechrau ar bartneriaeth hir-dymor newydd rhwng y ddau gwmni, gyda’r nod o ddatblygu a chynhyrchu dramâu comedi newydd Cymraeg i gynulleidfaoedd o bob oed.
Bydd mwy o fanylion am y cast, y tîm creadigol, a'r perfformiadau yn cael eu cyhoeddi yn fuan.
Newyddion + blogiau diweddaraf
-
21/08/2024 NewyddionDal Gafael | Hold On: Perfformwyr ifanc disglair o bob cwr o Gymru
Ry'n ni'n falch o weithio mewn partneriaeth gyda Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Fio i gyflwyno'r cynhyrchiad arloesol hwn, fydd yn arddangos doniau eithriadol rhai o berfformwyr ifanc disgleiriaf Cymru.
-
17/07/2024 NewyddionDawns y Ceirw: Casi Wyn yn arwain gwledd o stori, dawns a cherddoriaeth
Mae Theatr Genedlaethol Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn llawn cyffro i gydweithio y gaeaf hwn.