Newyddion 07/03/2022

Dechrau pennod newydd i Theatr Genedlaethol Cymru

Exterior shot of young man and woman. The man has short curly brown hair. He is wearing a light blue knitted jumper. He is smiling with his teeth and looks directly at the camera. The woman has shoulder length brown hair. She is wearing a brown and black leopard print jacket. She is smiling with her teeth and staring directly at the camera.

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi bod Steffan Donnelly wedi ei benodi fel Cyfarwyddwr Artistig nesaf y cwmni, i olynu Arwel Gruffydd. Bydd Steffan yn ymuno â’r Cyfarwyddwr Gweithredol Angharad Jones Leefe i weithio mewn partneriaeth fel cyd-Brif Weithredwyr o fis Mehefin 2022.

Fel actor, cyfarwyddwr a dramodydd, daw Steffan â chyfoeth o brofiad i’w swydd newydd yn arwain gweledigaeth artistig y cwmni. Yn wreiddiol o Lanfairpwllgwyngyll, ers iddo raddio o’r Guildhall School of Music and Drama mae Steffan wedi rhannu ei amser rhwng Cymru a Llundain. Sefydlodd Gwmni Theatr Invertigo yn 2012 – cwmni sydd wedi teithio ledled Cymru ac yn rhyngwladol gyda sawl cynhyrchiad megis Y Tŵr, My Body Welsh, My People, Derwen, a Gŵyl Rithiol Pererindod. Mae ei waith fel actor yn cynnwys cyfnodau yn y Barbican a Theatr Clwyd, a sawl tymor yn Shakespeare’s Globe. Fel dramodydd cyhoeddodd ddwy ddrama, ac mae’n rhedeg llyfrgell ddigidol dramau.cymru. Yn ddiweddar cyfarwyddodd y cynhyrchiad Gwlad yr Asyn i Theatr Genedlaethol Cymru, a ffilmiau byrion Monologau’r Maes i Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Roedd Steffan yn rhan o’r grŵp fu’n gyfrifol am sefydlu Llawryddion Celfyddydol Cymru (Tasglu Llawrydd Cymru gynt) a bu’n gyfrifol am lunio dau adroddiad ar gyflwr y sector ers y pandemig. Mae hefyd yn ymddiriedolwr National Theatre Wales a Cyswllt Celf.

Yn dilyn ei benodiad, dywedodd Steffan, “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â Theatr Genedlaethol Cymru. Mi fydd yn anrhydedd cydweithio efo’r tîm a llawryddion arbennig Cymru i ddatblygu rhaglen uchelgeisiol efo ac ar gyfer cymunedau ledled y wlad. Bydd cydweithio hirdymor, arloesi gyda ffurf a chynnwys, a gweithredu yn radical o gynhwysol wrth wraidd y gwaith.

Bwriadaf archwilio a dathlu gwahanol fathau o Gymreictod, ac adrodd ein stori i weddill y byd: stori gwlad fechan, ddeinamig ac amlieithog, mewn cyd-destun Ewropeaidd. Credaf y dylai’r Gymraeg fod yn iaith hyderus a chroesawgar, yn enwedig i ddysgwyr, ac rwy’n awyddus i adeiladu ar y gwaith da sydd wedi ei wneud eisoes i fod yn fwy hygyrch. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio efo Angharad a’r tîm i gyflwyno rhaglen ysbrydoledig yn 2023.”

Exterior shot of a young man. He has short curly brown hair. He is wearing a light blue knitted jumper with a black blazer on top. He is leaning against a slate wall. He is staring directly at the camera and smiling with his teeth showing.

Mae Angharad Jones Leefe, y Cyfarwyddwr Gweithredol, wedi gweithio i’r cwmni ers 2015, a chyn hynny bu’n gweithio i Gyngor Sir Gâr yn cynnig cymorth busnes a grantiau i fusnesau. A hithau’n hanu o Sir Gâr, mae hi’n frwd dros ei milltir sgwâr, gan wasanaethu fel Cynghorydd Tref Caerfyrddin a Llywodraethwr Ysgol Bro Myrddin. Mae hi hefyd yn ymddiriedolwr Creu Cymru ac Oriel Myrddin.

Dywedodd Angharad, “Rwy’n edrych ’mlaen yn fawr at gydweithio gyda Steffan i arwain Theatr Genedlaethol Cymru ym mhennod nesaf ei hanes. Mae tîm arbennig o bobl yma sydd wedi cynnal arlwy eithriadol yn ystod y pandemig, a byddant yn falch iawn o gydweithio gyda pherson amryddawn fel Steffan i gynnig profiadau cyffrous i’n cynulleidfaoedd a’n cyfranogwyr.”

Ychwanegodd Efa Gruffudd Jones, Cadeirydd Bwrdd Theatr Genedlaethol Cymru, “Rydym fel Bwrdd wedi’n cyffroi gan weledigaeth artistig a brwdfrydedd Steffan, ac edrychwn ymlaen yn fawr at gefnogi Steffan ac Angharad yn eu rolau newydd.  Hoffem gofnodi ein diolch hefyd i Arwel Gruffydd am ddatblygu Theatr Genedlaethol Cymru dros y cyfnod diwethaf ac am sicrhau bod seiliau cryf i adeiladu arnynt. Ry’n ni am weld Theatr Genedlaethol Cymru yn mynd o nerth i nerth wrth greu theatr gyfoes ac ardderchog trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, “Croeso cynnes i Steffan i’w rôl newydd fel Cyfarwyddwr Artistig y Theatr Genedlaethol. Fel y mae e’n ei nodi’n glir, mae cydweithio, arloesi a chynhwysiant yn allweddol i ddyfodol y celfyddydau ac i’n cymdeithas yng Nghymru. Mae ymrwymiad y cwmni i’r Gymraeg fel iaith groesawgar yn egnïol a chadarnhaol, fel sy’n cael ei fynegi’n glir drwy ddatblygiad yr Ap Sibrwd.

Dymunwn yn dda i Steffan ac Angharad wrth iddynt gyd-arwain y cwmni. Rwyf hefyd am fynegi diolch Cyngor Celfyddydau Cymru i Arwel am ei arweiniad artistig a’i weledigaeth dros y deng mlynedd diwethaf.”