Newyddion 10/01/2022

Cyhoeddi Prosiect Cenedlaethol Criw Creu

Graphic illustration. Green background with light pink dome shape in the centre of the image with text on top. Text reads (translated): Creative Crew. Different illustrations around the text include music notes, a yellow crown, a directors board, yellow squiggles, a piece of paper and two spotlights

LANSIO CRIW CREU I ALLUOGI POBL IFANC CYMRU I GAEL MYNEDIAD I’R CELFYDDYDAU.

Mae Criw Creu yn brosiect newydd sbon sy’n cael ei arwain gan Theatr Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth gan Llenyddiaeth Cymru ac Urdd Gobaith Cymru. Nod y prosiect arbennig yma yw sicrhau bod cyfle gan bobl ifanc i gael mynediad i’r Celfyddydau, drwy greu gwaith gwreiddiol dan arweiniad artistiaid profiadol ac ysbrydoledig.

Sbardunwyd Criw Creu gan gynllun peilot a gefnogwyd gan Western Power Distribution, a Chelfyddydau a Busnes Cymru, yn ôl ym mis Mehefin 2021. Yn ystod y prosiect a arweiniwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru, bu’r artist Siôn Tomos Owen yn cydweithio gydag 16 o ddisgyblion o adran anghenion dysgu ychwanegol Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan i greu darn o waith celf oedd wedi’i ysbrydoli gan nodweddion arbennig yr ardal.

Meddai Sian Elin, Cydlynydd Cyfranogi Theatr Genedlaethol Cymru: “Daeth y prosiect i fodolaeth drwy sgwrs gydag Ysgol Bro Pedr, a’r cyfle i ateb angen yn yr Ysgol honno. Hwn oedd y tro cyntaf i nifer o’r bobl ifanc yno ymwneud yn uniongyrchol ac yn rhyngweithiol gyda’r celfyddydau, ac roedd gweld y mwynhad a’r datblygiad personol a phroffesiynol yn tanlinellu’r angen am fwy o ddarpariaeth fel hyn. Drwy gydweithio gyda Llenyddiaeth Cymru ac Urdd Gobaith Cymru, a drwy estyn y prosiect yn un cenedlaethol, byddwn yn gallu rhoi syniadau a gwaith pobl ifanc ledled Cymru yn ganolog i’r creu, ac mae hynny’n hollbwysig i ni fel cwmni.”

Eleni, bydd disgyblion o dair ysgol uwchradd yn rhan o brosiect Criw Creu: Criw Hwb o Ysgol Tryfan Bangor, disgyblion Sgiliau Bywyd Ysgol Penweddig Aberystwyth a chriw o Ysgol Plasmawr, Caerdydd. Dyma’r tro cyntaf i nifer o’r disgyblion hyn gael y cyfle i gydweithio gydag artistiaid a pherfformwyr proffesiynol. Mae pawb yn edrych ymlaen yn fawr, fel yr esbonia’r disgyblion a’r athrawon:

“Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd inni fel disgyblion, felly mae'n braf cael cyfle i wneud rhywbeth newydd a gwahanol sy’n ein cyffroi. Rydym yn edrych ymlaen i ddysgu sgiliau newydd a gweld ein gwaith ni ar y sgrin fawr”. Criw Hwb, Ysgol Tryfan.

“Mae’r disgyblion i gyd wedi eu cyffroi yn lân gan y prosiect hwn, yn enwedig ar ôl sesiwn cyflwyniad i’r prosiect ar gychwyn mis Rhagfyr. Roedd yn hyfryd gweld grŵp o ddisgyblion yn gweithio gyda'i gilydd ac yn cael cyfle i gael profiad newydd a chynrychioli ein hysgol. Mae hwn yn gyfle anhygoel i'n dysgwyr fagu hyder a gweithio ar sgiliau allweddol wrth greu ffilm sydd wedi deillio o'u syniadau. Rwyf wedi derbyn adborth hyfryd gan rieni a disgyblion ac edrychaf ymlaen i’r prosiect gychwyn yn iawn ym mis Ionawr”. Stephanie Williams, Ysgol Plasmawr.

“Mae ein disgyblion ni ym Mhenweddig yn awyddus iawn i gymryd rhan yn y cynllun, oherwydd mae’r gweithgareddau wedi cael eu creu yn benodol iddynt ac mae hynny’n gyfle arbennig”. Angharad Evans, Ysgol Penweddig.

Yn ffodus, ni fydd rhaid i’r disgyblion aros yn hir, oherwydd cynhelir gweithdai cyntaf Criw Creu ddydd Mercher yma, y 12fed o Ionawr. Diolch i gefnogaeth Llenyddiaeth Cymru, bydd y disgyblion yn cael cyfle i gydweithio gyda neb llai na Casi Wyn, Bardd Plant Cymru i greu darnau gwreiddiol o farddoniaeth.

Yn hwyrach yn y mis ac yn ystod mis Chwefror, bydd y disgyblion yn cael amrywiaeth o weithdai pellach: gweithdai animeiddio gyda Sioned Medi Evans o gwmni SMEI, a gweithdai drama gyda Sian Elin o Theatr Genedlaethol Cymru. Diolch i Urdd Gobaith Cymru, bydd y disgyblion hefyd yn cael cyfle i gydweithio a recordio cerddoriaeth gyda cherddorion gwych fel Marged Gwenllian, Osian Rhys, Caryl Griffiths, Seimon Thomas a Lewys Wyn Jones.

Bydd yr holl waith sy’n cael ei ddatblygu gan y bobl ifanc fel rhan o brosiect Criw Creu yn cael ei arddangos ar ffurf tair ffilm fer, mewn dangosiad arbennig yn yr ysgolion unigol, ac ar-lein yn ystod tymor yr haf eleni.