Blog 08/02/2023

Creadigrwydd, Gweithdai ac Ymgysylltu | Blog Sian Elin

Two women sat on the floor. Both are smiling and looking towards each other. There is a purple piece of paper between them and one is holding a pen in her hand.

Helo bawb! Sian Elin ydw i, a dwi eisiau rannu’r gwaith diweddar rwy ‘di bod yn gwneud fel Cydlynydd Cyfranogi Theatr Gen.

Ddiwedd 2022, aeth griw o dîm Theatr Gen ac arbenigwyr cefn llwyfan ar daith ledled Cymru – o Landudno i Rhydywaun – yn cynnal gweithdai hyfforddi i athrawon. Roedd y gweithdai yma, ar y cyd â CBAC, yn ymateb i alw’r sector addysg am hyfforddiant yn y meysydd technegol, fel golau a sain, ac roedd hi mor hyfryd gweld 60 o athrawon yn ymuno â ni. Diolch i chi gyd ac edrych ‘mlaen at eich gweld eto’r flwyddyn nesaf.

Groups of people sat around two tables. They are looking off camera. One woman is very much in focus, and she is smiling. There are pieces of paper, pens and coffee cups on the table in front of them. Text on image reads "Thank you very much as a company for the GREAT provision.... The day was so useful and I'm really looking forward to bringing these ideas to the classroom - with every year, not just GCSE and A Level
Woman stands in a darkened room in front of a projector screen. Presentation slide on the screen behind her reads 'Stage Lighting Workshop'. She is holding a phone above her face and the torch is on, illuminating her face. She is looking out in front of her, not into the camera. People are sat around her on chairs.

Mae clybiau drama a gweithgareddau yn y gymuned yn rhan bwysig o’n gwaith ni.  Rwy’ ‘di bod yn cynnal sesiynau gyda chriw Sgiliau Bywyd Ysgol Bro Pedr, sesiynau iechyd a lles yn Ysgol Plasmawr, arwain ein clybiau drama wythnosol ar y cyd â Menter Gorllewin Sir Gâr, a  chyfarfod â nifer fawr ohonoch wrth gadeirio sgyrsiau o gwmpas ein cynhyrchiad diwethaf, Tylwyth. Daeth llwythi i’n gweld – dioooolch!  A ges i gyfle i fwynhau cwmni brwd côr plant a phobl ifanc ABC Caerdydd ym mherfformiadau Theatr y Sherman hefyd – am fraint!

Mix of young people and adults in a classroom. Everyone is wearing a blue mask covering their mouths. The young people wear school uniforms and the older adults are wearing more formal clothing. A woman is crouching on the floor writing on a large piece of paper.
Three people in a room, one woman has her back to the camera. One of the women facing the camera is smiling and is wearing a plastic crown on her head. The other woman facing the camera is putting an accessory in her hair and is also smiling.

A sôn am bobl frwd, ry’n ni’n ymgynnull criw o bobl ifanc 16 – 25 mlwydd oed fel ein Hymgynghorwyr Ifanc i’n cynghori ni ar ein rhaglen artistig a’n gwaith cyfranogi, marchnata a datblygu artistig. Fel criw, ni’n cyfarfod 4 gwaith y flwyddyn ac yn rhoi lle diogel i bawb leisio barn, cynnig adborth ac, wrth gwrs, chwilio am gyfleoedd i fentora’r bobl ifanc dalentog ‘ma a rhannu sgiliau theatr. Diolch o galon i’r criw – mae pob sgwrs yn dod â syniadau a safbwyntiau newydd i’n helpu i wella a datblygu ein gwaith ac ry’ ni wrth ein boddau yn eich cwmni. Os oes diddordeb ‘da chi ymuno â ni, mae croeso mawr i chi gysylltu.

Screenshot of a Zoom call with 9 individuals. All cameras are on and the screen is split into three rows across and downwards with 9 rectangles containing each person's video feed

Ond beth sy’ nesa’?

Bydda i, yr actores Kimberley Abodunrin a’r gyfarwyddwraig Carli de la Hughes yn datblygu ac yn cynnig gweithdai creadigol fel dilyniant i thema sioe Betty Campbell gan Mewn Cymeriad.

Bydd ein prosiect Criw Creu yn ôl, gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru. A’r tro hwn, byddwn yn gweithio gyda disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol o ardal Sir Gâr er mwyn darn o waith i’w berfformio yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Drwy gefnogaeth grant mawr gan dîm Datblygu Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru, ry’ ni’n ail-gychwyn ein prosiect cenedlaethol iechyd a lles Ar y Dibyn a fydd yn rhedeg hyd at fis Mawrth 2024 – mwy o wybodaeth i ddilyn.

Ac wrth gwrs, bydda i'n cydlynu gweithdai addysg a sgyrsiau dysgwyr i gyd-fynd â Pijin / Pigeon, ein cynhyrchiad gwych nesaf ar daith rhwng 27 Chwefror a 25 Mawrth. Os ydych chi’n dysgu Cymraeg, byddwch yn derbyn gwers genedlaethol drwy eich Tiwtor Dysgu Cymraeg, ac os yn athro neu’n ddisgybl/myfyriwr, mae gennym weithdai perffaith ar eich cyfer chi. Wir nawr, dewch i weld y sioe hon – mae’r stori mor afaelgar o’r dechrau i’r diwedd.

 

Edrych ‘mlaen yn fawr at eich gweld chi gyd cyn hir.


Sian Elin