Helo bawb! Sian Elin ydw i, a dwi eisiau rannu’r gwaith diweddar rwy ‘di bod yn gwneud fel Cydlynydd Cyfranogi Theatr Gen.
Ddiwedd 2022, aeth griw o dîm Theatr Gen ac arbenigwyr cefn llwyfan ar daith ledled Cymru – o Landudno i Rhydywaun – yn cynnal gweithdai hyfforddi i athrawon. Roedd y gweithdai yma, ar y cyd â CBAC, yn ymateb i alw’r sector addysg am hyfforddiant yn y meysydd technegol, fel golau a sain, ac roedd hi mor hyfryd gweld 60 o athrawon yn ymuno â ni. Diolch i chi gyd ac edrych ‘mlaen at eich gweld eto’r flwyddyn nesaf.
Mae clybiau drama a gweithgareddau yn y gymuned yn rhan bwysig o’n gwaith ni. Rwy’ ‘di bod yn cynnal sesiynau gyda chriw Sgiliau Bywyd Ysgol Bro Pedr, sesiynau iechyd a lles yn Ysgol Plasmawr, arwain ein clybiau drama wythnosol ar y cyd â Menter Gorllewin Sir Gâr, a chyfarfod â nifer fawr ohonoch wrth gadeirio sgyrsiau o gwmpas ein cynhyrchiad diwethaf, Tylwyth. Daeth llwythi i’n gweld – dioooolch! A ges i gyfle i fwynhau cwmni brwd côr plant a phobl ifanc ABC Caerdydd ym mherfformiadau Theatr y Sherman hefyd – am fraint!
A sôn am bobl frwd, ry’n ni’n ymgynnull criw o bobl ifanc 16 – 25 mlwydd oed fel ein Hymgynghorwyr Ifanc i’n cynghori ni ar ein rhaglen artistig a’n gwaith cyfranogi, marchnata a datblygu artistig. Fel criw, ni’n cyfarfod 4 gwaith y flwyddyn ac yn rhoi lle diogel i bawb leisio barn, cynnig adborth ac, wrth gwrs, chwilio am gyfleoedd i fentora’r bobl ifanc dalentog ‘ma a rhannu sgiliau theatr. Diolch o galon i’r criw – mae pob sgwrs yn dod â syniadau a safbwyntiau newydd i’n helpu i wella a datblygu ein gwaith ac ry’ ni wrth ein boddau yn eich cwmni. Os oes diddordeb ‘da chi ymuno â ni, mae croeso mawr i chi gysylltu.
Ond beth sy’ nesa’?
Bydda i, yr actores Kimberley Abodunrin a’r gyfarwyddwraig Carli de la Hughes yn datblygu ac yn cynnig gweithdai creadigol fel dilyniant i thema sioe Betty Campbell gan Mewn Cymeriad.
Bydd ein prosiect Criw Creu yn ôl, gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru. A’r tro hwn, byddwn yn gweithio gyda disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol o ardal Sir Gâr er mwyn darn o waith i’w berfformio yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
Drwy gefnogaeth grant mawr gan dîm Datblygu Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru, ry’ ni’n ail-gychwyn ein prosiect cenedlaethol iechyd a lles Ar y Dibyn a fydd yn rhedeg hyd at fis Mawrth 2024 – mwy o wybodaeth i ddilyn.
Ac wrth gwrs, bydda i'n cydlynu gweithdai addysg a sgyrsiau dysgwyr i gyd-fynd â Pijin / Pigeon, ein cynhyrchiad gwych nesaf ar daith rhwng 27 Chwefror a 25 Mawrth. Os ydych chi’n dysgu Cymraeg, byddwch yn derbyn gwers genedlaethol drwy eich Tiwtor Dysgu Cymraeg, ac os yn athro neu’n ddisgybl/myfyriwr, mae gennym weithdai perffaith ar eich cyfer chi. Wir nawr, dewch i weld y sioe hon – mae’r stori mor afaelgar o’r dechrau i’r diwedd.
Edrych ‘mlaen yn fawr at eich gweld chi gyd cyn hir.
Sian Elin