Newyddion 14/10/2021

Castio: PETULA

Dark blue background with text which reads Petula in white on top

Mae National Theatre Wales, Theatr Genedlaethol Cymru ac August 012 yn cyflwyno addasiad newydd sbon o ddrama ryfeddol Fabrice Melquiot, Wanted Petula.

Wedi’i gyfarwyddo gan Mathilde Lopez, gyda sgript drawiadol gan Daf James yn cyfuno Cymraeg, Saesneg ac ychydig o Ffrangeg, mae’r cynhyrchiad hwn yn addo bod yn stori dylwyth teg hudolus ac yn wledd weledol swrrealaidd.

Sioe dywyll, chwareus a threiddgar am dyfu i fyny, teulu a chariad yw Petula.

Yn teithio ledled Cymru yn ystod Gwanwyn 2022.

 

Rydym yn castio’r rolau canlynol i gwblhau ein cwmni o berfformwyr anturus, hyblyg a chwareus. 

 

Pwdin, bachgen, oed perfformio 12–16 (rhaid i’r oed go iawn fod yn 17+, h.y. heb fod ag angen trwydded perfformiwr ifanc)

Mae’n hanfodol bod yr actor hwn yn gallu siarad Cymraeg.

 

Bachgen ifanc sy’n cael trafferth i ymdopi ar ôl colli ei gyfnither annwyl. Mae ei alar yn ei anfon i chwilio amdani, ar daith sy’n ymadael â realiti.

Rydym yn croesawu awgrymiadau ar gyfer perfformwyr anabl a pherfformwyr o bob cefndir ethnig ar gyfer y rôl hon.

 

Amethyst Crappp, menyw, oed perfformio 35–50 

Nid oes angen i'r perfformiwr yma allu siarad Cymraeg.

 

Rydyn ni’n castio menyw groenliw yn y rôl hon, felly byddem wrth ein bodd yn derbyn awgrymiadau am actorion o dreftadaeth Affricanaidd a Charibïaidd, o dreftadaeth De Asiaidd neu Ddwyrain Asiaidd neu Dde-ddwyrain Asia, y rhai sydd â threftadaeth y Dwyrain Canol neu Ogledd Affrica, ac actorion o dreftadaeth gymysg neu o gymunedau lleiafrifoedd ethnig eraill.

 

Llys-fam i Pwdin, mae hi’n gyn-fampir, neu roedd hi’n arfer bod yn enwog am chwarae rhan fampir mewn sioe lwyfan yn Llundain. Mae hi hefyd yn chwarae rhannau The Little Prince ac Amy Winehouse.

Rydym yn croesawu awgrymiadau am berfformwyr anabl ar gyfer y rôl hon.

 

Mam, menyw, oed perfformio 35–50

Mae’n hanfodol bod yr actor yma’n gallu siarad Cymraeg.

 

Mam gariadus ac annhrefnus Pwdin. Mae hi hefyd yn chwarae rhannau Gillian Anderson/Jean Millburn.

Rydym yn croesawu awgrymiadau am berfformwyr anabl a pherfformwyr o bob cefndir ethnig ar gyfer y rôl hon.

 

Clyweliadau

Cynhelir cyfarfodydd ar gyfer y rolau hyn ddiwedd mis Hydref 2021. Cysylltwch nawr i fynegi diddordeb neu i awgrymu eich cleient.

 

Dyddiadau'r gwaith

7 Chwefror 2022 – 10 Ebrill 2022 

 

Tâl 

£ 590.85/ wythnos.  

Yn ôl yr angen, darperir lwfansau teithio, adleoli a/neu gymudo yn unol â chyfraddau Equity.

  

Mynediad

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ofynion mynediad a byddwn yn ymdrechu i gwrdd â hwy. Mae hyn yn cynnwys hyblygrwydd ar gyfer pobl â chyfrifoldebau gofalu.

 

Am gysylltu?

Rhannwyd y manylion hyn drwy Spotlight â holl asiantau’r DU, a gwahoddir hwy i gyflwyno eu cleientiaid i’w hystyried. Byddwn yn gweithio gyda gweithwyr creadigol arweiniol y cynhyrchiad i ddewis actorion i’w gwahodd i glyweliad.

Os ydych chi’n actor proffesiynol heb gynrychiolaeth a/neu os hoffech siarad yn uniongyrchol â ni am y prosiect hwn, gofynnir i chi gysylltu â Mawgaine, yn eich dewis o Saesneg neu Gymraeg: mawgaine@nationaltheatrewales.org