Mae Theatr Gen wedi symud i gartref newydd yng Nghanolfan S4C yr Egin, Caerfyrddin!
Yn dafliad carreg i ffwrdd o’n cyn-gartref yn Y Llwyfan, ry’n ni’n falch iawn o ddechrau pennod newydd i'r cwmni ac ymuno â’r gymuned o gwmnïau creadigol yn yr adeilad arbennig hwn.
Mae’r newid mawr hwn yn mynd law yn llaw ag ymdrech i gyflawni ein gwaith mewn ffyrdd mwy cynaliadwy a lleihau ôl-troed carbon y cwmni. Ein nod yw bod yn sefydliad sero net erbyn 2030, yn unol â tharged Sector Gyhoeddus Llywodraeth Cymru. Mae ymgartrefu yn yr Egin yn gam mawr tuag at gyrraedd y nod hwn oherwydd cymwysterau gwyrdd yr adeilad, sydd wedi cyrraedd safon Ardderchog BREEAM. Mae’r swyddfa newydd agored hefyd yn cynnig gofod cydweithio gwerthfawr i ni, sy’n gweddu i batrymau gwaith hybrid ein tîm yn sgil y pandemig.
Wrth gwrs, wrth bacio’n swyddfeydd yn y Llwyfan ar ôl 15 mlynedd, daethom o hyd i dipyn o drysorau, yn cynnwys sgriptiau o gynyrchiadau’r gorffennol sydd wedi cael eu rhannu gydag ysgolion a llyfrgelloedd ledled Cymru, a hefyd hen bropiau a gwisgoedd fydd yn cael eu hail-bwrpasu ar gyfer ein cynyrchiadau nesaf.
Diolch o galon i bawb yn yr Egin am y croeso cynnes. Ry’n ni’n edrych ymlaen i’r dyfodol wrth setlo yn ein cartref newydd a methu aros i groesawu artistiaid, cwmniau a chydweithwyr – os ‘chi yn yr Egin, dewch draw i ddweud helo.
Eisiau darllen mwy am ein hymrwymiad i gynaliadwyedd a’r amgylchedd? Ewch i'n tudalen Cynaliadwyedd.
Newyddion + blogiau diweddaraf
-
27/09/2024 NewyddionEnwebiad UK Theatre am Wobr Rhagoriaeth Mewn Teithio
Mae’n fraint i ni gael ein henwebu gan UK Theatre ar gyfer gwobr Rhagoriaeth Mewn Teithio.
-
19/09/2024 NewyddionCyhoeddi Fy Enw i yw Rachel Corrie a phrosiect creadigol newydd gydag ASHTAR Theatre
Yr hydref hwn, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnal pecyn o waith sy’n codi ymwybyddiaeth am yr argyfwng dyngarol presennol yn Gaza ac yn creu cysylltiadau creadigol newydd rhwng pobl ifanc yng Nghymru a Phalesteina.