Cyflwyno sgript neu syniad
Rydym yn awyddus iawn i dderbyn ac i ystyried sgriptiau a syniadau gennych chi.
E-bostiwch eich sgript neu fraslun o syniad at: creu@theatr.com. Byddwn yn gyrru e-bost i gydnabod ein bod wedi ei dderbyn ac yn anelu i ymateb o fewn tri mis i ddyddiad yr e-bost hwnnw. Mae mwy o wybodaeth am ein ffocws comisiynu isod.
Gweld eich gwaith
Gadewch i ni wybod petai yna gyfle i ni weld eich gwaith. Pe medrech chi roi gwybod i ni o leiaf mis ymlaen llaw, fe geisiwn sicrhau bod cynrychiolydd o’r cwmni ar gael i fynychu unrhyw gyflwyniad. Ebostiwch creu@theatr.com gyda’r manylion.
Drws Agored
Ffansi sgwrs am fyd y theatr?
Mae Drws Agored yn gyfle i chi gael sgyrsiau anffurfiol un wrth un dros Zoom, galwad ffôn neu sgwrs destun gydag aelod o staff yn Theatr Gen i bownsio a thrafod syniadau, cyflwyno’ch hun a’n holi ni. Boed yn chwilio am ragor o wybodaeth ynghylch sgriptio, cyflwyno syniadau, cynhyrchu, actio, cyllidebu, cyfarwyddo, rheoli llwyfan, marchnata, cyfleoedd profiad gwaith neu faterion technegol, mae Drws Agored yn gyfle i chi siarad gydag aelod o’n tîm (ceir rhestr lawn o’r staff yma). Mae’r sesiynau hyn ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn creu theatr yn y Gymraeg.
Cysylltwch â ni gan nodi mewn cwpl o frawddegau pam yr hoffech chi sgwrs gyda ni. Bydd hynny’n ein helpu ni i ddewis aelod priodol o’r tîm i sgwrsio gyda chi.
Os hoffech chi drefnu sgwrs drwy’n cynllun Drws Agored, mae croeso i chi ebostio creu@theatr.com
Ffocws Comisiynu ar gyfer Gwaith Newydd
Er mwyn sicrhau amrywiaeth, amlygrwydd a dyfeisgarwch, ry'n ni wedi gosod ffocws comisiynu newydd ar gyfer gwaith gwreiddiol. Y prif ffocws yw:
- Lleisiau newydd neu lleisiau sydd wedi eu tangynrychioli, gan gynnwys artistiaid o’r Mwyafrif Byd-eang, o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol isel, ac artistiaid anabl, Byddar a/neu niwroamrywiol
- Artistiaid adnabyddus sydd heb greu gwaith gwreiddiol i’r cwmni o’r blaen
- Gwaith cydweithredol ac amlddisgyblaethol
Ry'n ni wedi ymrwymo i gefnogi a datblygu awduron newydd a phrofiadol ac yn ceisio creu piblinell o ysgrifennu Cymraeg newydd sy’n onest, dyfeisgar, ac sy’n sbarduno sgyrsiau. Byddwn yn annog awduron i ofyn cwestiynau heriol i’r cyfnod heriol hwn, a byddwn yn cynnig hyfforddiant a chyfleoedd datblygu.
Rydym hefyd yn cwestiynu pwy all fod yn ‘awdur theatr’ wrth i ni ddarparu cyfleoedd hyfforddi a chomisiynu i artistiaid sy’n creu gan ddefnyddio eu harbenigedd mewn disgyblaethau eraill - er enghraifft nofelwyr a digrifwyr adnabyddus neu addawol.
Yn gyffredinol yn ein comisiynau, ry'n ni'n ceisio sicrhau nad oes rhywun o’r mwyafrif yn ysgrifennu o safbwynt rhywun o leiafrif, neu am brofiadau sy’n benodol berthnasol i leiafrif, oni bai bod rheswm cryf dros wneud. Ry'n ni'n credu mewn pŵer dychymyg i greu cymeriadau a thrafod materion, ond rydym hefyd yn ymwybodol bod profiad bywyd (‘lived experience’) yn dod â deinameg pwysig ac awthentig i waith creadigol. Rydym yn ceisio sicrhau fod gan ddramodydd gyswllt cryf â’r themâu, cefndir a hunaniaeth y prif gymeriad, a phrofiad agos neu gyfagos o’r prif faterion. Pan mae hyn yn amhosib rydym yn ystyried cyd-ysgrifenwyr a/neu chefnogaeth ymchwilio ac ymgynghorwyr.