Prosiect 40°C
Mae Prosiect 40°C yn brosiect hirdymor ac uchelgeisiol sy’n ymateb i'r argyfwng hinsawdd.
Wrth i ni frwydro am blaned well i genedlaethau’r dyfodol, mae’n rhaid i ni herio’r hen ffyrdd o ymateb i drychinebau byd natur. Mae’n rhaid i ni edrych y tu hwnt i’r brif ffrwd, gan wreiddio ein syniadau yng ngwirioneddau cyfoes Cymru - yn ein tir a’n cymunedau amrywiol.
Y cwestiwn mawr? Sut gall cyfrwng theatr byw ehangu ein dealltwriaeth o’r argyfwng hinsawdd, i’w deall nid fel rhywbeth sy’n bodoli mewn gwlad neu oes bell, ond fel rhan annatod o fywyd yng Nghymru heddiw?