Ry’n ni wedi ymrwymo i wneud ein sioeau, ein prosiectau, a’n gwaith bob dydd mor hygyrch ag sy’n bosib. Mae pawb yn haeddu profi theatr Gymraeg byw, ac mae’n rhan annatod o’n gwaith i geisio goresgyn y rhwystrau all effeithio ar hynny.

 

I geisio gwneud ein cynyrchiadau mor hygyrch â phosibl, ry’n ni’n:

  • Cydweithio gydag Ymgynghorydd Hygyrchedd Creadigol ar ein cynyrchiadau
  • Teithio i leoliadau a chanolfannau sy’n rhan o gynllun hygyrchedd HYNT lle bo’n bosibl
  • Cynnal perfformiadau wedi’u dehongli trwy Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar bob cynhyrchiad teithiol
  • Darparu hysbysebion hygyrch ar gyfer pob un o’n cynyrchiadau
  • Defnyddio capsiynau creadigol dwyieithog neu ap mynediad iaith Sibrwd ym mhob un o’n perfformiadau i sicrhau fod dysgwyr Cymraeg a chynulleidfaoedd b/Byddar yn cael mynediad i’n cynyrchiadau
Two young friends sit on top of a climbing frame looking out at the world. Their legs hang over the edge. Both are wearing jeans and trainers. He has a skinhead and wears a drak grey, zip-up jacket. She wears her hair in a ponytail and wears a brightly coloured shellsuit top.

Ry’n ni’n ceisio gwneud ein gwaith bob dydd mor hygyrch a phosib hefyd. Ry’n ni’n ymdrechu i sicrhau nad oes rhwystrau i unrhyw staff y cwmni neu artistiaid allanol i gydweithio gyda ni, a’i bod hi’n hawdd i bawb gael mynediad i wybodaeth am ein gwaith a’n cynyrchiadau. Fel rhan o’n hymrwymiad, ry’n ni’n:

 

  • Darparu hyfforddiant rheolaidd i’n staff er mwyn iddynt ddatblygu eu hymwybyddiaeth o brosesau gweithio hygyrch a dysgu mwy am y rhwystrau mae rhai pobl yn eu wynebu yn y gwaith ac wrth gael mynediad i’r celfyddydau
  • Darparu Ffurflen Mynediad i weithwyr llawrydd i ddysgu mwy am eu gofynion a’r hyn y gallwn ei wneud i sicrhau ein bod yn ymateb i unrhyw ofynion hanfodol sydd ganddynt ac i hwyluso eu hamser yn gweithio gyda’r cwmni
  • Gweithio gydag ymgynghorwyr marchnata hygyrch i sicrhau bod ein gwaith cyfathrebu yn agored a hygyrch i bawb
Two young women sit next to each other on a table. One woman is talking and the other is looking at ther. A man is sat beside them also looking at the woman who is talking.

Wrth edrych i’r dyfodol, ry’n ni’n awyddus i ddatblygu’n dealltwriaeth o arferion hygyrch ac adeiladu ar y gwaith ry’n ni eisoes yn ei wneud. Os hoffech fwy o wybodaeth am ein hymrwymiad i hygyrchedd neu i rannu eich syniadau ar sut y gallwn ni wella’n hymdrechion, cysylltwch â ni