Parti Priodas

Dyma’ch gwahoddiad i barti priodas Dafydd a Samantha... Ar daith ledled Cymru: Ebrill a Mai 2024

Emynau, tensiynau, a dawnsio ar ben byrddau! Dyma’ch gwahoddiad i barti priodas Dafydd a Samantha… 

Ond pwy arall sy’ ar y rhestr westeion? Mae Lowri yn benderfynol o oroesi diwrnod priodas ei brawd. Ond gyda hwnnw ar drothwy pennod newydd cyffrous yn ei fywyd, ydi dyfodol Lowri a’r fferm deuluol ar fin cael ei chwalu’n rhacs? Mae Idris yn hiraethu am ei hen ffrind gorau ac yn dychwelyd i Lŷn ar gyfer y diwrnod mawr. Ond a fydd cyfrinachau’r gorffennol yn difetha diwrnod pawb?

Yn dilyn llwyddiant ysgubol yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd y llynedd, ymunwch gyda ni am wledd o ddrama gomedi gan Gruffudd Owen wedi’i chyfarwyddo gan Steffan Donnelly, ac yn serennu Mared Llywelyn a Mark Henry Davies.

Bydd hwn yn barti i’w gofio!

Bydd capsiynau Cymraeg a Saesneg ar gael yn y perfformiadau yng Nghaerdydd a Gŵyl Gomedi Machynlleth – a bydd Sibrwd, ein ap mynediad iaith, ar gael ym mhob berfformiad arall.

Canllaw Oed: 16+

Yn cynnwys iaith gref, themâu aeddfed, taniadau a goleuadau strôb

Ceir rhestr llawn o'r themâu all beri gofid yn y ddogfen hon.

Dyddiadau’r Daith

Cast

Idris Mark Henry Davies

Lowri Mared Llywelyn

Tîm Creadigol

Dramodydd Gruffudd Owen

Cyfarwyddwr Steffan Donnelly

Cynllunydd Set a Gwisgoedd Luned Gwawr

Cynllunydd Golau Jane Lalljee

Cyfarwyddwr Symud Cêt Haf

Cyfansoddwr Sam Humphreys

Clodrestr

Ffotograffi Prif Ddelwedd Kristina Banholzer

Dylunio Graffeg Kelly King Design