Mae’n bleser gennym ni yn Theatr Genedlaethol Cymru ynghyd â’n cyd-gynhyrchwyr Music Theatre Wales gyhoeddi y bydd y ffilm o gynhyrchiad o’r opera Y Tŵr, gwaith sy’n torri tir newydd, ar gael i’w gwylio’n rhad ac am ddim fel rhan o raglen Theatr Gen Eto.
Mae ein prosiectau cyfranogi a datblygu sgiliau yn rhan annatod o’n gwaith fel cwmni. Dewch i wybod mwy am ein rhai diweddar yma.
NEWYDDION
Y Diweddaraf
Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi enwau’r pum artist sydd wedi eu dewis i dderbyn Bwrsari Artist a Chymuned. Yr artistiaid yw: Caitlin Lavagna, Wyn Mason, Rufus Mufasa, Elis Pari a Lis Parsons.
Heddiw, rydyn ni’n falch iawn o ddatgelu ein cynlluniau ar gyfer tymor 2021.
Yr wythnos hon, mae Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Torch a Dysgu Cymraeg Sir Benfro yn cydweithio â’i gilydd am y tro cyntaf i ddathlu Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau (8–14 Mawrth 2021).