Ein Gweledigaeth

Creu theatr Gymraeg fel man i ddod ynghyd, i gysylltu’r adnabyddus a’r annisgwyl, Cymreictod a’r byd, i drafod yn ddwys ac i godi’r galon.

Ein Cenhadaeth

Theatr deithiol genedlaethol sy'n rhoi Cymru a’i phobl ar y map, yn agored ac yn groesawgar i bawb, gan sicrhau dyfodol disglair i’n hiaith a’n diwylliant.

Theatr Genedlaethol Cymru (Theatr Gen) yw’r cwmni theatr cenedlaethol iaith Gymraeg.

Ry’n ni’n creu theatr i Gymru, yn teithio profiadau theatr beiddgar ledled y wlad a thu hwnt, i ddiddanu ac ysbrydoli pobl o bob oed. Ein gweledigaeth yw creu man i ddod ynghyd, i gysylltu’r adnabyddus a’r annisgwyl, i Gymreictod a’r byd, i drafod yn ddwys ac i godi’r galon.

Dydyn ni byth yn aros yn ein hunfan. Mae ein cynyrchiadau – sydd wedi’u creu ar gyfer ac mewn cydweithrediad â phobl Cymru – yn ymateb i’r byd o’n cwmpas ac yn adlewyrchu profiadau bywyd yng Nghymru heddiw, trwy roi llwyfan i amrywiaeth o leisiau a straeon.

Ry’n ni’n cofleidio’r clasuron ac ysgrifennu newydd, gwaith dyfeisiedig ac arbrofol, sioeau cerdd a phartneriaethau annisgwyl, a theatr i blant a phobl ifanc. Ry’n ni hefyd yn cynnal prosiectau addysg, lles a chyfranogi i roi’r cyfle i bobl ym mhob cwr o Gymru brofi effaith trawsnewidiol creadigrwydd ar eu bywydau.

Ry’n ni’n credu bod y Gymraeg yn perthyn i bawb. Mae dyfodol yr iaith yn treiddio trwy popeth y wnawn. Ry’n ni am weld diwylliant Cymraeg cyfredol a chroesawgar yn ffynnu. Wrth feithrin talent, denu pobl i’r iaith, ac archwilio Cymreictod rydym yn cyfrannu at ddyfodol yr iaith a hyder ei defnydd.

Mae Theatr Gen yn perthyn i chi.

Enwebwyd fel Cynhyrchydd y Flwyddyn - Gwobrau'r Stage 2024 

BBC Front Row

"One of the most exciting theatre companies in the UK"

Buzz Magazine

"Theatr Genedlaethol Cymru has given us hope for a better theatrical future for Wales”

The Guardian

Theatr Genedlaethol Cymru… brilliantly dramatises Wales’ tussle of languages and identities – and its ambitions stretch far beyond its own borders.