Cefnogwch ni
Caiff Theatr Genedlaethol Cymru ei hadnabod fel un o gwmnïau theatr mwyaf blaenllaw Cymru, ond efallai nad ydych yn ymwybodol o’r ffaith ein bod yn elusen gofrestredig. Gallwch gyfrannu at ddyfodol y cwmni mewn sawl ffordd:

Noddi
Mae modd noddi cynhyrchiad neu elfennau amrywiol o waith y cwmni. Os ydych yn gwmni neu fusnes, beth am ystyried noddi rhan o’n gwaith? Mae sawl pecyn ar gael; am ragor o wybodaeth, cysylltwch â thgc@theatr.com
Hysbysebu
Rydym yn cynhyrchu rhaglenni a dogfennau’n ymwneud â’n cynyrchiadau, a chaiff y rhain eu gwerthu neu eu dosbarthu i’r cyhoedd. Ceir cyfleoedd hysbysebu ar gyfer busnesau amrywiol am bris cystadleuol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â angharad.leefe@theatr.com
Cyfrannu
Mae Theatr Genedlaethol Cymru, yn ogystal â chreu cynyrchiadau o safon drwy gydol y flwyddyn, hefyd yn gweithio i ddatblygu’r sector theatr Gymraeg yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys datblygu sgiliau pobl ifanc sydd â diddordeb ym maes y theatr, cynnal gweithdai o fewn y sector ac i’r cyhoedd, a rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu gyrfa yma yng Nghymru. Os ydych yn mwynhau gwaith y cwmni, ac yn awyddus i weld hwnnw’n parhau a datblygu, yna mae modd i chi gyfrannu’n ariannol at ddyfodol y cwmni. Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch thgc@theatr.com