Ry’n ni fel cwmni yn falch iawn i fedru cefnogi ysgolion ac felly yn gallu cynnig gweithdai arbennig i gefnogi profiad disgyblion i ddod i wylio ein cynyrchiadau. Mae croeso mawr i chi gysylltu â Sian Elin am fwy o wybodaeth; sian.elin@theatr.com

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi dysgwyr o bob oed I fwynhau theatr Gymraeg ac eisiau gwahodd ysgolion cynradd (lle’n addas), ysgolion uwchradd, sefydliadau addysg bellach a phrifysgolion i gydweithio gyda ni a chymryd rhan mewn amryw weithdai. 

 

Casgliad Dysgu

Rydyn ni’n awyddus i sicrhau bod theatr iaith Gymraeg ar gael i ysgolion, sefydliadau addysg uwch, addysg bellach a’r sector addysg ehangach.

Bwriad ein Casgliad Dysgu yw rhoi cyfle i ddarlithwyr, athrawon, myfyrwyr, disgyblion addysgwyr a dysgwyr i wylio, astudio a mwynhau theatr Gymraeg.