Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r panel fydd yn ymuno â ni i drafod ceisiadau ar gyfer ein Bwrsari Artist a Chymuned: Jalisa Andrews, Dan Jones a Gwennan Mair Jones.
Croeso!
Rhoi theatr Gymraeg wrth galon y genedl yw gweledigaeth Theatr Genedlaethol Cymru. Rydym yn creu a chyflwyno cynyrchiadau theatr gyda’r nod o gyffroi, diddanu a thanio dychymyg ein cynulleidfaoedd. Rydym hefyd yn creu cyfleoedd sy’n fodd i feithrin ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o artistiaid theatr Cymraeg ynghyd â chyfleoedd i bobl ledled Cymru brofi effaith drawsnewidiol creadigrwydd yn eu bywydau.

Cynllun Dramodwyr Ifanc
Ydych chi’n hoffi sgwennu? Mae Theatr Genedlaethol Cymru, Urdd Gobaith Cymru a S4C yn lansio Cynllun Dramodwyr Ifanc i bobl 17 – 25 oed.
Cymryd Rhan
Eisiau gyrfa ym myd y theatr? Eisiau gwybod mwy am y cyfleon sydd ar gael? Rydym yn cynnig cyfleon amrywiol i chi gymryd rhan…
NEWYDDION
Y Diweddaraf
Theatr Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn hybu sgiliau iaith gweithwyr llawrydd.
Mae Theatr Genedlaethol Cymru, Urdd Gobaith Cymru ac S4C yn galw am ddramodwyr ifanc i fod yn rhan o gynllun ysgrifennu cenedlaethol newydd sbon. Dyma’r tro cyntaf i’r tri chwmni cenedlaethol ddod â’u gwahanol arbenigeddau at ei gilydd i weithio gyda phobl ifanc, gyda’r bwriad o ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddramodwyr Cymraeg.
Sêr ifanc Cymru! Mae Clwb Theatr Cymru yn dychwelyd y Nadolig hwn gyda llond sach o hwyl a sbri. Yn ystod gwyliau’r haf eleni, daeth 118 o blant ledled Cymru at ei gilydd dros Zoom i berfformio, dawnsio a joio. Nawr, ry’n ni wrthi’n cynllunio gweithdai newydd Nadoligaidd i roi cyfle i berfformwyr ifanc ledled […]
- Want to say hello? 👋 We’re always excited to meet new artists, theatre-makers, producers, directors, designers and… https://t.co/ayur1pyZlA 11:01 23/01/2021

Mynediad i berfformiad – beth bynnag fo’r iaith
Gallwch ddysgu mwy am ddefnyddio’r ap yma
