Swyddog Gweithrediadau
Ry’n ni’n chwilio am Swyddog Gweithrediadau i ymuno â’r cwmni.

Yn dilyn ymddeoliadau o fewn yr Adran Gyllid a Gweithrediadau cynhaliwyd adolygiad o waith yr adran a chrëwyd tair swydd newydd – Rheolwr Cyllid a Gweithrediadau, Swyddog Cyllid a Swyddog Gweithrediadau.  

Bydd y Swyddog Gweithrediadau yn gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Cyllid a Gweithrediadau i sicrhau fod prosesau a gweithdrefnau’r cwmni mewn perthynas ag Adnoddau Dynol, rheoli asedau, TG a gweinyddiaeth gyffredinol yn cael eu gweithredu’n effeithiol.  

Ry’n ni’n edrych am unigolyn sydd yn drefnus a chwilfrydig, ac sy’n barod i gynnig syniadau am sut i wella ein systemau a phrosesau. Yn ddelfrydol, byddai gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o ddelio â materion yn ymwneud ag Adnoddau Dynol ond byddem yn hapus i ddarparu hyfforddiant a chefnogi’r ymgeisydd llwyddiannus i geisio am gymhwyster perthnasol.  

Mae gwaith y cwmni wedi esblygu’n helaeth dros y blynyddoedd diwethaf ac mae pwyslais cynyddol ar hygyrchedd a chynhwysiant ein gwaith, ar leihau effaith ein gweithgaredd ar yr amgylchedd a chynyddu ymwybyddiaeth o’r argyfwng hinsawdd, ac ar ofalu am les ein gweithwyr ac artistiaid. Mae’n bwysig fod pawb sy’n gweithio i’r cwmni yn gweld pwysigrwydd yr holl agweddau hyn o’n gwaith ac yn rhannu gwerthoedd y cwmni.  

Cyflog: £21,742 y flwyddyn (£27,177 pro rata) 

Cyfnod: Parhaol 

Oriau: Rhan amser (30 awr yr wythnos) 

Am fwy o wybodaeth am y swydd a’r cwmni, darllenwch y pecyn recriwtio isod. Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg – ar lafar ac yn ysgrifenedig – yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae’r cwmni yn cynnig cyfleoedd i ymgeiswyr llwyddiannus i fynychu hyfforddiant gloywi iaith os ydynt am ddatblygu eu hyder yn eu sgiliau iaith Gymraeg.   

Mae fersiwn Saesneg o’r pecyn recriwtio ar gael mewn fformat Microsoft Word er mwyn hwyluso’r defnydd o ddarllenydd sgrin. Gellir dod o hyd i hwn drwy ddilyn y ddolen isod: 

Dolen i’r pecyn Saesneg 

I gael sgwrs anffurfiol am y swydd – neu i drafod unrhyw rwystrau’n eich atal rhag ymgeisio - cysylltwch ag Angharad Jones Leefe ar angharad.leefe@theatr.com neu 07903 842554. 

Dyddiad cau: 22 Mehefin 2023 5pm 

Cyfweliadau: wythnos yn cychwyn 3 Gorffennaf 2023 

 

Mae gofyn i bob ymgeisydd i gwblhau'r ffurflen monitro cydraddoldeb: https://forms.office.com/e/nd5MgVfbW5