Yn dilyn ymddeoliadau o fewn yr Adran Gyllid a Gweithrediadau cynhaliwyd adolygiad o waith yr adran a chrëwyd tair swydd newydd – Rheolwr Cyllid a Gweithrediadau, Swyddog Cyllid a Swyddog Gweithrediadau.
Bydd y Swyddog Cyllid yn gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Cyllid a Gweithrediadau i sicrhau fod prosesau a gweithdrefnau cyllid y cwmni yn briodol ac yn cael eu gweithredu’n effeithiol. Bydd y Swyddog Cyllid hefyd yn cefnogi aelodau staff ar draws y cwmni i fonitro a rheoli cyllidebau.
Ry’n ni’n edrych am unigolyn sydd â phrofiad ym maes cyllid a phrofiad o ddefnyddio meddalwedd cyfrifyddu. Yn ddelfrydol, byddai gan yr ymgeisydd llwyddiannus gymhwyster cyllid, megis AAT, ond nid yw hyn yn angenrheidiol os oes ganddynt brofiad perthnasol. Byddem yn hapus i gefnogi’r ymgeisydd llwyddiannus i geisio am gymhwyster cyllid perthnasol.
Mae gwaith y cwmni wedi esblygu’n helaeth dros y blynyddoedd diwethaf ac mae pwyslais cynyddol ar hygyrchedd a chynhwysiant ein gwaith, ar leihau effaith ein gweithgaredd ar yr amgylchedd a chynyddu ymwybyddiaeth o’r argyfwng hinsawdd, ac ar ofalu am les ein gweithwyr ac artistiaid. Mae’n bwysig fod pawb sy’n gweithio i’r cwmni yn gweld pwysigrwydd yr holl agweddau hyn o’n gwaith ac yn rhannu gwerthoedd y cwmni.
Cyflog: £27,177
Cyfnod: Parhaol
Oriau: Llawn amser (37.5 awr yr wythnos)
Am fwy o wybodaeth am y swydd a’r cwmni, darllenwch y pecyn recriwtio isod. Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg – ar lafar ac yn ysgrifenedig – yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae’r cwmni yn cynnig cyfleoedd i ymgeiswyr llwyddiannus i fynychu hyfforddiant gloywi iaith os ydynt am ddatblygu eu hyder yn eu sgiliau iaith Gymraeg.
Mae fersiwn Saesneg o’r pecyn recriwtio ar gael mewn fformat Microsoft Word er mwyn hwyluso’r defnydd o ddarllenydd sgrin. Gellir dod o hyd i hwn drwy ddilyn y ddolen isod:
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd – neu i drafod unrhyw rwystrau’n eich atal rhag ymgeisio - cysylltwch ag Angharad Jones Leefe ar angharad.leefe@theatr.com neu 07903 842554.
Dyddiad cau: 22 Mehefin 2023 5pm
Cyfweliadau: wythnos yn cychwyn 3 Gorffennaf 2023