Ydych chi eisiau helpu i ysgogi newid yn y sector gelfyddydol yng Nghymru a mynd i'r afael â'r tangynrychiolaeth sy’n bodoli?
Dyma gyfle i helpu i lunio Newid Diwylliant |Culture Change: rhaglen gynhwysfawr sydd â’r nod o drawsnewid sector gelfyddydol Cymru fel ei bod yn wirioneddol gynrychioliadol o'i holl gymunedau.
Gyda ffocws ar gynrychiolaeth o’r mwyafrif byd-eang, mae Newid Diwylliant | Culture Change yn cydnabod y rhwystrau niferus sydd i gymryd rhan a gweithio o fewn y sector ac mae'n gyfle unigryw i herio a goresgyn y rhwystrau hynny.
Ni all y Celfyddydau a Diwylliant yng Nghymru fod yn wirioneddol gynrychioliadol o'r Gymru gyfoes heb gynyddu’r amrywiaeth ymhlith y sawl sy'n eistedd ar fyrddau a chyrff llywodraethu, y bobl sy'n arwain ac yn gweithio mewn sefydliadau, y gweithwyr llawrydd, yr artistiaid a'r bobl greadigol sy'n ymwneud â chreu gwaith, y cynulleidfaoedd a'r cyfranogwyr sy'n ymgysylltu â'r gwaith hwnnw, a'r bobl sy’n cael llwyfan i’w barn a’u lleisiau.
Er mwyn sicrhau bod llais y mwyafrif byd-eang wrth wraidd y prosiect hwn, byddwn yn sefydlu gweithgor o Gyfeillion Beirniadol, fydd yn dylanwadu, cwestiynu a monitro agweddau o’r rhaglen. Daw’r Cyfeillion Beirniadol (tua 8-10) o'r grwpiau targed allweddol (yn yr achos hwn pobl o’r mwyafrif byd-eang) o fewn a thu allan i'r sector celfyddydau. Gallwch fod yn unigolyn sy’n siarad dros eich hun, neu yn cynrychioli sefydliad neu gymuned.
Hoffem sicrhau bod cymryd rhan yn y grŵp hwn yn gyfle i gyfranogwyr ddysgu sgiliau a dysgu mwy am sut mae'r sector yn gweithio, sut i gymryd rhan mewn pwyllgorau ffurfiol a chael cyfle i rhoi eu barn, a bod hwnnw yn gallu dylanwadu ar y ffordd mae Newid Diwylliant | Culture Change yn gweithredu. Bydd cost eich amser a'ch treuliau yn cael ei ad-dalu, a bydd y gweithgor yn cwrdd yn rheolaidd (6 gwaith) yn ystod y 18 mis i fonitro ac adlewyrchu ar gynnydd, herio'r garfan o gwmnïau sy'n cymryd rhan a rhannu arbenigedd ac enghreifftiau o arfer gorau mewn mannau eraill. Bydd y grŵp yn cynnwys siaradwyr Cymraeg ac yn sicrhau dull cynhwysol o ymdrin â'r Gymraeg.
Byddwn i gyd yn gweithio fel grŵp i greu amgylchedd diogel i gynnal sgyrsiau.
Mae mwy o wybodaeth y prosiect a rôl y Cyfeillion Beirniadol yn y ddogfen Cylch Gorchwyl sydd wedi ei gynnwys isod.
Sut i wneud cais
Am drafodaeth anffurfiol am y rhaglen, cysylltwch â Della Rose Hill Katso – dellahill@nationaltheatrewales.org
Yn hytrach na CV, rydym yn gofyn i chi gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb yn egluro yn eich geiriau eich hun pam yr hoffech gael eich ystyried ar gyfer y cyfle hwn.
Rydym yn gofyn i chi wneud hyn drwy lenwi ffurflen Mynegi Diddordeb gan nodi’r wybodaeth ganlynol:
- Dweud wrthym pam mae gennych ddiddordeb mewn bod yn Ffrind Beirniadol
- Disgrifio'r wybodaeth a'r profiad penodol rydych chi'n teimlo y byddwch chi'n dod â nhw i'r gwaith a'r cyfle datblygu y gallai hyn ei gynrychioli i chi
- Amlinellu sut rydych chi'n gweld y Cyfeillion Beirniadol yn gweithio.
Ffurflen Mynegi Diddordeb: Cyfeillion Beirniadol | Critical Friends (office.com)
Os ydych chi'n rhannu ein huchelgais ac yn credu fod gennych chi'r potensial i wneud y rôl hon, cwblhewch y ffurflen erbyn 2pm ar 15 Mehefin 2023. Mae hefyd modd i chi gyflwyno’ch cais ar ffurf ffeil sain/fideo (sy'n para dim mwy na 6 munud) a’i anfon at Angharad Leefe Angharad.Leefe@theatr.com
Cysylltwch â ni os oes unrhyw addasiadau y gallem eu gwneud neu gymorth ychwanegol y gallem ei gynnig i'ch helpu i wneud cais. Gallwn adnabod opsiynau amgen addas gyda'n gilydd. Os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformatau eraill neu gymorth i wneud cais, cysylltwch â ni drwy'r cyfeiriad e-bost uchod.
Rydym yn parchu eiddo deallusol syniadau a fynegir yn ystod y broses ymgeisio ac ni fyddem byth yn gweithredu arnynt nac yn eu rhannu y tu allan i'r broses benodi.
Sylwch ein bod hefyd yn hysbysebu am Wasanaeth Rheoli Prosiect ar gyfer y prosiect hwn yma.