**DIWEDDARIAD** 26.05.2023
Yn dilyn rhai ymholiadau ac adborth ar y wybodaeth a ddarparwyd yn y briff, darperir y pwyntiau canlynol er eglurhad.
- Amserlen y gwaith yw tua 18 mis – o fis Gorffennaf 2023 (neu'r cynharaf y gall y contractwr(wyr) llwyddiannus ddechrau) hyd at fis Rhagfyr 2023. Mae hyn yn ymestyn dros 2 flwyddyn ariannol – 2023/24 a 2024/25 ac mae'r ffi o £19,550 am tua 7 diwrnod o waith y mis ar gyfartaledd, am 9 mis. Mae hyn yn cyfateb i ffi o ychydig dros £300 y dydd.
- Daw mwyafrif y cyllid ar gyfer y rhaglen hon o Gronfa Gwrth-hiliaeth Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cymru, a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad ariannol i’r rhaglen Newid Diwylliant yn ei chyfanrwydd ac wedi cadarnhau union swm y cyllid grant sydd ar gael ar gyfer 2023/24. Ni all Llywodraeth Cymru gadarnhau’r union swm ar gyfer 2024/25 tan yn nes at yr amser. Fodd bynnag, byddem yn blaenoriaethu’r taliad am y gwasanaethau hyn, hyd yn oed os yw swm y grant yn llai na’r disgwyl ar gyfer 2024/25.
- Prif gyfrifoldeb y contractwr llwyddiannus yw cydlynu'r gwaith a'i wthio ymlaen, gan gydweithio gyda’r grŵp llywio, grŵp Cyfeillion Beirniadol a sefydliadau partner, a gweithredu fel pwynt cyswllt.
- Contract ar gyfer gwasanaethau rheoli prosiect yw hwn, nid contract cyflogaeth. Gallai’r gwasanaethau gael eu darparu gan unigolyn, partneriaeth neu gwmni.
- Mae cydweithio a chyd-ddylunio yn ganolog i'r rhaglen hon ac felly bydd y grŵp Cyfeillion Beirniadol yn gweithio gyda'r rheolwr/rheolwyr prosiect i hysbysu a dylanwadu ar wahanol elfennau'r rhaglen, gan gynnwys y rhaglen hyfforddi ac unrhyw gyfleoedd datblygu arweinyddiaeth.
- Nid rôl y rheolwr/rheolwyr prosiect yw trawsnewid y sefydliadau dan sylw, na'r sector. Bydd disgwyl i’r holl sefydliadau dan sylw ymrwymo i graffu ar arferion a diwylliant eu sefydliadau eu hunain a gweithredu newid gan ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd o’r rhaglen hon.
Ydych chi eisiau helpu i ysgogi newid yn y sector gelfyddydol yng Nghymru a mynd i'r afael â'r tangynrychiolaeth sy’n bodoli?
Dyma gyfle i berson, partneriaeth neu sefydliad i siapio, rheoli a chyflwyno Newid Diwylliant | Culture Change: rhaglen gynhwysfawr sydd â’r nod o drawsnewid sector gelfyddydol Cymru fel ei bod yn wirioneddol gynrychioliadol o'i holl gymunedau.
Gyda ffocws ar gynrychiolaeth o’r mwyafrif byd-eang, mae Newid Diwylliant | Culture Change yn cydnabod y rhwystrau niferus sydd i gymryd rhan a gweithio o fewn y sector ac mae'n gyfle unigryw i herio a goresgyn y rhwystrau hynny.
Ni all y Celfyddydau a Diwylliant yng Nghymru fod yn wirioneddol gynrychioliadol o'r Gymru gyfoes heb gynyddu’r amrywiaeth ymhlith y sawl sy'n eistedd ar fyrddau a chyrff llywodraethu, y bobl sy'n arwain ac yn gweithio mewn sefydliadau, y gweithwyr llawrydd, yr artistiaid a'r bobl greadigol sy'n ymwneud â chreu gwaith, y cynulleidfaoedd a'r cyfranogwyr sy'n ymgysylltu â'r gwaith hwnnw, a'r bobl sy’n cael llwyfan i’w barn a’u lleisiau.
Mae mwy o wybodaeth am y gwaith yma i’w weld yn y Brîff Rheolwr Prosiect.
Sut i wneud cais
Am drafodaeth anffurfiol am y rhaglen, cysylltwch ag Angharad Leefe yn Theatr Genedlaethol Cymru angharad.leefe@theatr.com
Rydym am i'r broses gynnig fod mor deg a theg â phosibl a byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol er mwyn cyflawni hyn. Gellid cyflawni'r gwaith yma mewn nifer o ffyrdd gwahanol, ac mewn partneriaeth, felly mae croeso i chi awgrymu opsiynau eraill yn eich ymateb.
Cysylltwch â ni os oes unrhyw addasiadau y gallem eu gwneud neu gymorth ychwanegol y gallem ei gynnig i'ch helpu i wneud cais. Gallwn adnabod opsiynau amgen addas gyda'n gilydd. Os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformatau eraill neu gymorth i wneud cais, cysylltwch â ni drwy'r cyfeiriad e-bost uchod.
Yn hytrach na phroses dendro, rydym yn gofyn i chi gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb yn egluro yn eich geiriau eich hun pam yr hoffech gael eich ystyried ar gyfer darparu'r gwasanaeth hwn. Rydym yn gofyn i chi wneud hyn drwy anfon llythyr atom sy'n cynnwys y wybodaeth ganlynol:
- Pam fod gennych ddiddordeb yn y gwaith hwn
- Y wybodaeth a'r profiad penodol y gallwch chi ei gynnig i'r gwaith hwn
- Eich argaeledd yn ystod y cyfnod a bennwyd
- Eich cyfradd ddyddiol a'ch lefel ffi gyffredinol
Os ydych chi'n rhannu ein huchelgais ac yn credu fod gennych chi'r potensial i gyflawni’r gwaith yma, anfonwch y llythyr (4 ochr A4 ar y mwyaf) neu ffeil sain/fideo (sy'n para dim mwy na 6 munud) atom erbyn 2pm ar ddydd Iau 8fed o Fehefin, wedi ei gyfeirio at Angharad Leefe angharad.leefe@theatr.com