Criw Creu

Cynllun cydweithredol gydag ysgolion ar gyfer disgyblion a chanddynt anghenion dysgu ychwanegol ydy Criw Creu. 

Os ydych yn ysgol neu’n rhiant, ac mae gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o gynllun Criw Creu 2023, gofynnwn i chi ddanfon mynegiad diddordeb drwy naill ai ebost, cyflwyniad fideo neu recordiad llais yn egluro pam eich bod yn dymuno cymryd rhan yn y cynllun. Bydd hyn yn ein galluogi ni i ddysgu ychydig amdanoch chi. 

Rydym wedi ymrwymo i wneud y cynllun yn hygyrch i bawb, ac mae hynny’n golygu trefniadau gwahanol i wahanol unigolion. Felly plis cysylltwch â ni i drafod eich gofynion. 

Danfonwch eich cais at sian.elin@theatr.com drwy ebost neu 07813539832 ar WhatsApp, erbyn 23 Rhagfyr 2022. Gall eich darnau ysgrifenedig fod hyd at 300 o eiriau, a gall eich fideos neu recordiadau llais fod hyd at 3 munud o hyd.