Pryd Mae'r Haf?

“Bydd e’n gwd. Ti a fi. New start.”

Pryd Mae’r Haf?

gan Chloë Moss

Trosiad gan Gwawr Loader

Cynhyrchiad Criw Brwd a Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â The Other Room a Theatr Soar

 

“Bydd e’n gwd. Ti a fi. New start.”

Mae Luke a Christie yn ffrindiau gorau sy’n joio gwersylla, yfed cans a siarad am Julie Bridges.

Ond gyda’u dyddiau ysgol yn dod i ben a haf hir o’u blaenau, a fydd Luke, Christie a Julie yn dewis llwybrau gwahanol? A yw tyfu’n hŷn yn golygu tyfu ar wahân?

Mewn trosiad newydd i’r Gymraeg wedi’i osod yng nghymoedd y de ym 1989, dyma ddrama dyner am gyfeillgarwch, gobeithion ac ofnau pobl ifanc ym mhob oes.

Roedd Sibrwd – ein ap mynediad iaith – ar gael ym mhob perfformiad.

 

Yn sgîl argyfwng COVID-19 (Coronafirws), ochr yn ochr â’n cyd-gynhyrchwyr a phartneriaid, Criw Brwd, Theatr Soar a The Other Room, canslwyd taith genedlaethol Pryd Mae’r Haf? oedd wedi’i threfnu rhwng 20 Ebrill – 8 Mai 2020. Roedd y daith wedi’i threfnu i’r canolfannau canlynol: Ffwrnes (Llanelli); Canolfan Garth Olwg (Pentre’r Eglwys); Pontio (Bangor); Theatr Twm o’r Nant (Dinbych); Glanyrafon (Casnewydd); Canolfan S4C Yr Egin (Caerfyrddin); Theatr Mwldan (Aberteifi); Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth; Galeri (Caernarfon).

Dyddiadau’r Daith

  • 06 Chw 2020
    7pm
    Live performance with pre-show talk for Welsh learners
    Theatr Soar, Merthyr
  • 07 Chw 2020
    7pm
    Live performance with pre-show talk for Welsh learners
    Theatr Soar, Merthyr
  • 11 Chw 2020
    7pm
    Live performance
    The Other Room, Cardiff
  • 12 Chw 2020
    7pm
    Live performance
    The Other Room, Cardiff
    British sign langauged performance icon
  • 13 Chw 2020
    7pm
    Live performance
    The Other Room, Cardiff
  • 14 Chw 2020
    7pm
    Live performance
    The Other Room, Cardiff
  • 15 Chw 2020
    7pm
    Live performance
    The Other Room, Cardiff
Cast

Luke Aron Cynan
Julie Ella Peel
Christie Cellan Wyn 

Tîm Creadigol

Awdur: Chloë Moss

Awdur y Trosiad: Gwawr Loader

Cyfarwyddwr: Sion Pritchard

Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Luned Gwawr Evans

Cynllunydd Goleuo: Elanor Higgins

Cynllunydd Sain a Chyfansoddwr: Tic Ashfield

Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Elin Phillips (aelod o Gynllun Awenau, a gefnogir gan Gronfa Goffa Elinor Wyn Roberts a Chronfa Goffa Graham Laker)

Cyfarwyddwr Corfforol: Eddie Ladd

Cyfarwyddwr Llais: Nia Lynn

Awdur a Gweithredydd Sibrwd: Chris Harris

Rheolwr Cynhyrchu: Ceri James

Rheolwr Llwyfan: Ffen Evans

Dirprwy Reolwr Llwyfan: Ffion Rebecca Evans

Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol: Cerys John

Rheolwr Llwyfan Technegol: Angharad Evans

Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain: Cathryn McShane

Adeiladwyr y Set: Telgwen

Gwybodaeth Ychwanegol

Canllaw oed: 14+

Yn cynnwys iaith gref a themâu aeddfed.

Clodrestr

Cynhyrchiad Criw Brwd a Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â The Other Room a Theatr Soar

 

Newyddion

Cyd-gynhyrchiad Newydd: Pryd Mae’r Haf?

Cyhoeddi Cast: Pryd Mae’r Haf?

Adolygiadau

“stori oesol … cynhyrchiad i’w groesawu”

Ion Thomas ar ran BBC Radio Cymru (bbc.co.uk/sounds/play/m000f757)

“perfformiadau cryf a stori diddorol iawn”

Kirsty Alexander, Theatre and Tea (theatreandtea.wordpress.com/)

Pryd mae'r haf
Pryd mae'r haf
Pryd mae'r haf

Dyma Mirain Fflur, un o'r artistiaid ar y prosiect