Pryd Mae'r Haf (Ar-lein)

“Bydd e’n gwd. Ti a fi. New start.”

Pryd Mae’r Haf? (Christmas is Miles Away)

gan Chloë Moss

Trosiad gan Gwawr Loader

Cynhyrchiad Criw Brwd a Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â The Other Room a Theatr Soar

Perfformiadau wedi’u ffrydio'n fyw ar-lein.

“Bydd e’n gwd. Ti a fi. New start.”

Mae Luke a Christie yn ffrindiau gorau sy’n joio gwersylla, yfed cans a siarad am Julie Bridges.

Ond gyda’u dyddiau ysgol yn dod i ben a haf hir o’u blaenau, a fydd Luke, Christie a Julie yn dewis llwybrau gwahanol? A yw tyfu’n hŷn yn golygu tyfu ar wahân?

Mewn trosiad newydd i’r Gymraeg wedi’i osod yng nghymoedd y de ddiwedd y 1980au, dyma ddrama dyner am gyfeillgarwch, gobeithion ac ofnau pobl ifanc ym mhob oes.

Perfformiadau byw, yn cael eu ffrydio’n ddigidol:
13 Mai 2021, 8pm
14 Mai 2021, 8pm

Perfformiad wedi’i recordio:
20 Mai 2021, 1.30pm

Perfformiad gyda Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL):
20 Mai 2021, 8pm

Perfformiad gydag Isdeitlau Saesneg:
21 Mai 2021, 8pm

Cast

Cast:
Aron Cynan –Luke
Ella Peel – Julie
Cellan Wyn – Christie

Tîm Creadigol

Timoedd Creadigol a Chynhyrchu:

Awdur: Chloë Moss
Awdur y Trosiad: Gwawr Loader
Cyfarwyddwr: Sion Pritchard
Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Luned Gwawr Evans
Cynllunydd Goleuo: Elanor Higgins
Cynllunydd Sain a Chyfansoddwr: Tic Ashfield
Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Elin Phillips
Cyfarwyddwr Corfforol: Eddie Ladd
Cyfarwyddwr Llais: Nia Lynn

Gwybodaeth Ychwanegol

Canllaw oed: 14+

Yn cynnwys iaith gref a themâu aeddfed. Ceir rhestr o’r sbardunau posib isod.

Roedd Theatr Gen a Criw Brwd yn falch o’r cyfle i weithio ochr yn ochr â lleoliadau partner ledled Cymru i hyrwyddo’r perfformiadau digidol byw hyn:

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth; Galeri; Glanyrafon; Pontio; Theatr y Sherman; The Other Room; Theatr Brycheiniog; Theatr Clwyd; Theatr Hafren; Theatr Mwldan; Theatr Soar; Theatr y Torch; Canolfan Gelfyddydol Taliesin; Theatrau Sir Gâr

Clodrestr

Roedd Theatr Gen a Criw Brwd yn falch o’r cyfle i weithio ochr yn ochr â lleoliadau partner ledled Cymru i hyrwyddo’r perfformiadau digidol byw hyn:

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth; Galeri; Glanyrafon; Pontio; Theatr y Sherman; The Other Room; Theatr Brycheiniog; Theatr Clwyd; Theatr Hafren; Theatr Mwldan; Theatr Soar; Theatr y Torch; Canolfan Gelfyddydol Taliesin; Theatrau Sir Gâr.

Julie (Ella Peel), Luke (Aron Cynan) + Christie (Cellan Wyn)
Luke (Aron Cynan) + Christie (Cellan Wyn)
Luke (Aron Cynan) + Julie (Ella Peel)

Rhaglen Pryd Mae'r Haf?