Deffro'r Gwanwyn

‘Wel, 'sdim dwywaith am hyn... dwi’n f****d...’

Deffro'r Gwanwyn (Addasiad Cymraeg o 'Spring Awakening'

Llyfr a geiriau gan Steven Sater
Cerddoriaeth gan Duncan Sheik

Mae Melchior wedi cael digon o’r celwydd, Moritz yn cael ei boenydio gan freuddwydion brwnt, a Wendla bron â marw eisiau deall y gwir am fabis.

Mewn byd lle mae ar yr oedolion ofn wynebu’r gwir, mae Melchior yn herio’r system gyda chanlyniadau brawychus a bythgofiadwy.

Dyma addasiad Cymraeg Dafydd James o’r sioe gerdd roc wefreiddiol ‘Spring Awakening’. Ers iddi agor am y tro cyntaf ar Broadway yn 2006, derbyniwyd canmoliaeth fyd-eang iddi ac enillodd llu o wobrau, gan gynnwys Gwobrau Tony ac Olivier.

Mae’r sioe, sy’n seiliedig ar ddrama ddadleuol Frank Wedekind, yn ymdrin â gormes rhywiol ac yn cael ei hadrodd mewn ffordd onest a miniog fydd yn siŵr o ysgogi trafodaeth.

Aeth Deffro’r Gwanwyn ar ddwy daith yng Nghymru, yn 2010 ac yn 2011.

Cast

2010:

Ffion Dafis
Zoë George
Owain Gwynn
Iddon Jones
Daniel Lloyd
Elain Lloyd
Ellen Ceri Lloyd
Elin Llwyd
Berwyn Pearce
Aled Pedrick
Lynwen Haf Roberts
Dyfed Thomas
Meilir Rhys Williams

2011:

Iddon Jones
Zoë George
Ellen Ceri Lloyd
Elain Lloyd
Elin Llwyd
Berwyn Pearce
Meilir Rhys Williams
Aled Pedrick
Nia Ann
Victoria Pugh
Tomos Eames
Siôn Ifan
Dyfed Thomas

Tîm Creadigol

Cyfieithiad gan: Dafydd James
Cyfarwyddwr: Elen Bowman
Cyfarwyddwr Cerdd: Dyfan Jones

Gwybodaeth Ychwanegol

Yn cynnwys iaith gref a themau sy'n anaddas i blant. 

merched
dosbarth
marchnad
pawb