Mae Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, yn esbonio sut mae’r bartneriaeth hon yn gyfle unigryw i ddramodwyr yng Nghymru:
“Dyma’r cynllun cyntaf o’i fath yng Nghymru. Rwy’n hynod falch ein bod yn cydweithio gyda National Theatre Wales a Theatr Clwyd ar arbrawf mor gyffrous. Gobeithiwn y bydd yn gyfle i ni rannu’r neges yn eang ac yn genedlaethol ynghylch y cyfleoedd sydd ar gael i’n dramodwyr gyflwyno eu gwaith yn y ddwy iaith i dri o’n prif gwmnïau cynhyrchu theatr, trwy ddull ‘siop-un-stop’. Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn gobeithio y bydd y fenter hon yn caniatáu i ni glywed gan leisiau amrywiol a dramodwyr newydd o bob oed, waeth beth yw eu profiad blaenorol.”
Yn ystod y broses, bydd y dramodwyr yn cael mynediad at banel eiddgar o ddarllenwyr llawrydd a mewnol, a ddewiswyd gan y tri phartner yn dilyn galwad agored a wnaed ym mis Awst 2021. Mae’r darllenwyr wedi eu penodi am 6 mis, a bydd cyfle arall i ymgeisio am y rôl. Am y 6 mis cyntaf, bydd y darllenwyr yn cynnwys Charles O’Rourke, sydd â chefndir mewn gwaith â llaw, cyfieithu llenyddol ac ymgyrchu cwiar, ac sy’n ddarllenydd sgriptiau i Everyman Playhouse, Lerpwl a Channel 4. Lowri Izzard, a hyfforddwyd yn RADA ac sydd newydd orffen gweithio ar ffilm gomedi nodwedd newydd, sef Brian and Charles, ar gyfer Film4 a BFI. Mary Davies, dramatwrg lawrydd, sydd newydd gwblhau ei Doethuriaeth yn Athrofa Shakespeare a’r RSC. Melangell Dolma, dramodydd, actor a Chydlynydd Datblygu Creadigol gyda’r Theatr Genedlaethol, a Yasmin Begum, o dras Cymreig-Pacistanaidd, sy’n ymgyrchydd, awdur ac ymarferydd creadigol. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio yn Gwasg Honno, y wasg annibynnol hynaf i fenywod yn y Deyrnas Gyfunol. Mae Rahim El Habachi, sy’n Gydymaith Creadigol gyda NTW, ac yn ymgyrchydd dros ffoaduriaid a cheiswyr lloches LHDT+, wedi gweithio gydag Opera Cenedlaethol Cymru a Theatr y Sherman; mae’n berfformiwr ac yn wneuthurwr theatr.
‘Mae’n wych i fod yn cyhoeddi’r rhaglen hon, sy’n agor llwybr newydd a hygyrch at gyfoeth, amrywiaeth a thalent anhygoel ym maes ysgrifennu dramâu yng Nghymru. Mae NTW, ynghyd â’n partneriaid, yn ymrwymo i agor sgyrsiau creadigol gydag awduron o’r llu o gyd-destunau a diwylliannau sy’n creu Cymru gynhwysol a modern. Mae dramodwyr Cymru yn gaffaeliad anhygoel i elfen storïol a hunaniaeth esblygol ein cenedl. Mae’n holl bwysig i sicrhau bod lleisiau profiadol a newydd fel ei gilydd yn cael llwybrau tryloyw a hygyrch i’w galluogi i rannu eu syniadau a gweithio gyda’r prif gwmnïau cynhyrchu.’ Lorne Campbell, National Theatre Wales.
Rhan gyffrous arall o’r cynnig yw’r cyfle i’r darllenwyr barhau i ddatblygu sgiliau dramatwrgaidd.
Mae’r ddramatwrg Ffion Emlyn yn Gymraes sydd wedi gweithio i’r BBC am dros ugain mlynedd, yn bennaf fel Cynhyrchydd Drama Radio i BBC Radio Cymru. Mae Ffion hefyd wedi gweithio fel Golygydd Sgript a Chynhyrchydd Straeon ar rai o raglenni eraill y BBC, megis Casualty a Pobol y Cwm, ac wedi mwynhau datblygu talentau ysgrifennu newydd dros y blynyddoedd.
Mae Theatr Clwyd wrth eu bodd o fod yn rhan o’r cynllun: “Rydyn ni, fel lleoliad, yn credu bod Am Ddrama yn gam pwysig tuag at sicrhau bod lleisiau newydd, amrywiol a thalentog yn cael eu clywed ar lwyfannau ledled Cymru. Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i weithio gyda’r Theatr Genedlaethol a National Theatre Wales ar y prosiect cyffrous hwn.” Tamara Harvey, Theatr Clwyd.
Galwad agored yw hon am sgriptiau sydd eisoes mewn bodolaeth, nad ydynt wedi cael eu cynhyrchu ar unrhyw adeg yn y gorffennol, na chwaith wedi eu cyflwyno’n flaenorol i’r un o’r tri sefydliad partner.
Gall y sgriptiau fod ar gyfer unrhyw grŵp oedran ond rhaid iddynt fod ar gyfer perfformiadau byw, yn cynnwys sioeau cerdd. Gwahoddir unrhyw ddramodydd 18 oed a throsodd i gyflwyno’u gwaith yn Gymraeg neu yn Saesneg, a/neu yn ddwyieithog. Darllenir pob sgript yn ddienw, a nodir y dylai sgriptiau fod yn 20 tudalen neu fwy. Bydd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sgriptiau yn cychwyn 16 Chwefror 2022 hyd at 31 Mawrth 2022. Cyhoeddir gwybodaeth bellach am sut i gyflwyno sgriptiau yn fuan.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi anfon ebost at post@amddrama-playon.cymru, neu cysylltwch trwy neges llais neu neges destun ar 07908 439417.