Newyddion 12/07/2022

Dod â Pigeon, nofel arobryn Alys Conran, yn fyw ar y llwyfan. 

Exterior shot. The sky is grey and there are mountains in the background, unfocused. In front and in focus there is a pink and white small model ice cream van placed on a pile of small slates. Behind it out of focus a boy is sitting down with his back to the camera. Text on image reads ‘Pijin Pigeon’

Yn dilyn llwyddiant y nofel arobryn Pigeon gan yr awdures Gymraeg Alys Conran, mae Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo wrth eu bodd yn cyflwyno Pijin | Pigeon, addasiad Cymraeg i’r llwyfan gan y dramodydd Bethan Marlow wedi’i gyfarwyddo gan Lee Lyford, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Iolo. Bydd y ddrama, a gyflwynir mewn cydweithrediad â Pontio, yn teithio i ganolfannau ledled Cymru yn y gwanwyn 2023. 

Wedi’i gosod yn ardal chwareli llechi gogledd Cymru yn yr 1990au cynnar, mae Pijin | Pigeon yn dilyn hynt bachgen sy’n dyheu am gyfle i osgoi ei fywyd gartref. Trwy ddefnyddio’i ddychymyg, straeon a geiriau mae’n brwydro am ei einioes ond, un diwrnod, dyw geiriau bellach ddim yn ddigon; mae ei waliau’n syrthio i lawr a bywyd yn newid am byth.  

Mae Pijin | Pigeon yn stori afaelgar ynghylch tyfu i fyny, a pha mor bell mae pobl yn fodlon mynd yn enw cariad. Cafodd Cyfarwyddwr y ddrama, Lee Lyford, ei ysbrydoli gan y defnydd pwerus a chlyfar o iaith: 

“Pan ddarllenais i ‘Pigeon’ am y tro cyntaf, cefais fy swyno gan farddoniaeth yr iaith a’m cyffwrdd â chymhlethdod a chalon y cymeriadau. Gwyddwn ar unwaith y byddai’n gwneud drama deimladwy a phwerus. Mae Bethan wedi dal hanfod y nofel yn ei sgript, gan blethu Cymraeg a Saesneg yn hyfryd i’w gilydd i adlewyrchu perthynas ac arwyddocâd y ddwy iaith yn y stori. Mae ei haddasiad graenus yn cynnig cymaint o sgôp ar gyfer archwiliad creadigol, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddod â’i sgript hi, a chymeriadau Alys, yn fyw.” Lee Lyford, Cyfarwyddwr  

Er bod y rhan fwyaf o’r nofel wreiddiol wedi’i hysgrifennu yn Saesneg, mae Alys Conran yn disgrifio cymuned sydd â’r iaith Gymraeg yn agos at ei chalon. Mae’r iaith yn elfen mor bwysig yn y stori nes bod yr addasiad Cymraeg ohoni, Pijin gan Sian Northey, wedi ei gyhoeddi yr un diwrnod yn 2016. Aeth Pigeon, a gyhoeddwyd gan Parthian Books, yn ei blaen i ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2017 ac roedd hi ar y rhestr fer ar gyfer y wobr glodfawr Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas 

Mae Alys Conran yn teimlo’n hynod gyffrous wrth weld ei gwaith yn cael ei addasu ar gyfer y llwyfan am y tro cyntaf:

“I mi, mae Pigeon – prif gymeriad fy nofel – wastad wedi byw y tu hwnt i’r dudalen. Ac er mai hwn yw’r tro cyntaf i ’ngwaith gael ei addasu ar gyfer y llwyfan, mae’r cyfan yn teimlo’n gwbl naturiol – cyfrwng a chanddo ofod creadigol i adael i’w adenydd ymestyn, yn enwedig dan ofal y tîm creadigol cyffrous sydd wedi dod at ei gilydd i droi stori Pigeon yn chwip o ddrama gyfoes a fydd, fel y bachgen ei hun, yn sefyll yn gadarn ar ei dwy droed ei hun.” 

Ysgrifennodd Alys ei nofel Pigeon tra oedd hi’n byw yng ngogledd Cymru, yn rhan annatod o gymuned debyg iawn i’r un y gosodir y nofel ynddi. Wrth ddechrau ar y prosiect, roedd Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo yn awyddus i weithio gyda dramodydd oedd hefyd â chysylltiad â’r ardal – a Bethan Marlow oedd y dewis perffaith! Mae hi eisoes wedi gweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru ac wedi ysgrifennu dwy ddrama lwyddiannus iawn i’r cwmni – Nyrsys a Sgint. Hwn oedd ei phrofiad cyntaf o addasu nofel ar gyfer y llwyfan, ac roedd hi wrth ei bodd yn cael y cyfle:  

“Roedd darllen nofel Alys yn fy sugno’n ôl i flynyddoedd fy arddegau, gartref yn y ’90au, yn cael laff yn yr hen chwareli, yn sgwrsio a snogio, yn trio dod o hyd i’m lle yn y byd a gwneud synnwyr o’r byd hwnnw. Dwi’n credu bod pawb wedi tyfu i fyny efo ‘Pijin’ yn byw i lawr y ffordd; mi wnes i, ac mae ysgrifennu’r ddrama hon wedi rhoi cyfle i mi ystyried sut y gall plentyndod pawb fod mor wahanol i’w gilydd, hyd yn oed a chithau’n byw yn yr un tirlun rhyfeddol a gwyllt. Dyma’r tro cyntaf i mi addasu nofel ar gyfer y llwyfan, ac mae’n fraint cael y fath stori anhygoel a geiriau clyfar i chwarae efo nhw.”  

Mae Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo yn gyfarwydd â gweithio gyda’i gilydd, ar ôl iddynt gyfareddu llu o blant dan 5 oed ym mhob cornel o Gymru gyda’u cyd-gynhyrchiad gaeafol poblogaidd Llygoden yr Eira yn 2018, ac eto yn 2021. Mae eu partneriaeth yn parhau gyda’r bartneriaeth Pijin | Pigeon, eu cyd-gynhyrchiad ar gyfer pobl ifanc 13+ ac oedolion, mewn cysylltiad â Pontio 

Ac yntau newydd ddechrau yn ei swydd fel Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, mae Steffan Donnelly yn teimlo’n gyffrous ynghylch y cydweithrediad hwn, ac yn credu bod cynnal a meithrin perthynas artistig rhwng cwmnïau theatr yng Nghymru yn holl bwysig.  

“Caiff cynulleidfaoedd eu swyno gan y stori bwerus dod-i-oed hon a gyflwynir i’r llwyfan gan dîm gwych. Mae’r tîm yn Theatr Genedlaethol Cymru yn teimlo’n angerddol dros ddatblygu perthnasoedd artistig, a rhannu syniadau ac adnoddau, i deithio gyda gwaith hygyrch ac o safon uchel ledled Cymru; dwi wrth fy modd ein bod yn adeiladu ar lwyddiant cydweithrediadau a gafwyd yn y gorffennol gyda Theatr Iolo a Bethan Marlow.”  

Sicrhau bod theatr o ansawdd uchel yn hygyrch i bawb sydd wrth galon cenhadaeth Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo fel ei gilydd. Mae’r sgript ddwyieithog nid yn unig yn adlewyrchu datblygiad yr ieithoedd a’u perthynas â’r naill a’r llall, ond hefyd yn sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau’r perfformiadau. Dangosir capsiynau dwyieithog integredig ar y llwyfan ym mhob perfformiad, a chynhelir nifer o berfformiadau hygyrch yn ystod y daith, gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydain a sain-ddisgrifiad dwyieithog. Cynhelir sgyrsiau cyn-sioe ar gyfer dysgwyr y Gymraeg cyn rhai o’r perfformiadau, a chynigir gweithdai gydag Alys Conran a Bethan Marlow i ysgolion a grwpiau eraill.