Newyddion 27/09/2021

Llygoden yr Eira

A small plush mouse sits on a piece of gingham fabric. He is wearing corduroy blue dungarees with tan leather straps. Next to him there is a small white flask, and next to this there is a red cup.

Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo yn dychwelyd gyda sioe Nadolig

Yn dilyn llwyddiant y sioe blant Llygoden yr Eira, yn 2019, mae Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo wrth eu bodd yn cyhoeddi y bydd y cynhyrchiad yn teithio eto eleni yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig. Mae Llygoden yr Eira yn addasiad Cymraeg o’r sioe Saesneg boblogaidd Snow Mouse a grëwyd yn wreiddiol gan the egg a Travelling Light.

Mae Llygoden yr Eira yn stori aeafol a hudolus ar gyfer plant dan 5 oed a’u teuluoedd – yn llawn dop o chwarae, pypedau a cherddoriaeth. Mae’r sioe yn dilyn plentyn ifanc wrth iddo ddod o hyd i lygoden fach yn cysgu’n sownd dan yr eira mewn coedwig hudol.  Gan lithro, cwympo a chwerthin, mae’r ddau ffrind bach newydd yn mwynhau archwilio pob twll a chornel o’r tirlun gaeafol gyda’i gilydd. Yn sioe sy’n llawn cymeriadau bywiog yn cyflwyno stori weledol, mae Llygoden yr Eira yn wledd Nadoligaidd i’r teulu, yn siaradwyr Cymraeg a dysgwyr fel ei gilydd.

Small plush mouse wears blue corduroy dungarees with tan leather straps. He stands on a textured white block and the background is white. Below him there is a white cone also covered in textured white fabric, with white pom poms stuck to it.

Dywedodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru: “Rydym yn falch iawn o weithio unwaith eto gyda Theatr Iolo ar y sioe hyfryd hon ar gyfer y plant lleiaf a’u teuluoedd. Mae’n bleser hefyd cael mynd â’r cynhyrchiad i leoliadau bychan ledled Cymru yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig. I lawer, hwn fydd y tro cyntaf iddynt ddychwelyd i’r theatr ar ôl dwy flynedd heriol iawn, a byddwn yn gweithio gyda’r lleoliadau i wneud y profiad hwnnw mor ddiogel a phleserus â phosib. Wedi ei osod mewn tirlun gaeafol llawn hud a lledrith, mae hwn yn brofiad theatr cyfareddol a hygyrch lle mae iaith, cerddoriaeth a chwarae yn cyfuno i greu cyflwyniad hyfryd.”

Yn dilyn ymlaen o’i lwyddiannau diweddar gyda HOOF!, cynhyrchiad awyr-agored Theatr Iolo gyda Kitsch a Sync, a Christmas Carol yn y Bristol Old Vic, Lee Lyford, Cyfarwyddwr Artistig Artistic Theatr Iolo, fydd unwaith eto’n cyfarwyddo Llygoden yr Eira. Dywedodd Lee:

“Rydyn ni wrth ein bodd yn gweithio eto gyda Theatr Genedlaethol Cymru i ddod â Llygoden yr Eira yn ôl i lwyfannau ledled Cymru. Mae Llygoden yr Eira yn gyfle perffaith i deuluoedd fwynhau naws hudol y gaeaf gyda’i gilydd, a chefnogi eu canolfannau lleol wrth iddynt ailagor yn raddol ar ôl dwy flynedd heriol. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at rannu’r stori hyfryd hon, wedi ei hailddychmygu yn yr iaith Gymraeg, gyda chymunedau a lleoliadau ym mhob cwr o Gymru.”

Iwan Garmon fydd yn serennu yn Llygoden yr Eira eto eleni. Actor wedi’i leoli yng ngogledd Cymru yw Iwan, a bu’n gweithio gyda’r ddau gwmni yn y gorffennol. Mae e hefyd wedi gweithio i’r RNIB a Chwmni Mega.

Ffion Wyn Bowen o Aberystwyth, yw’r Cyfarwyddwr Cyswllt ar gyfer Llygoden yr Eira. A hithau’n gyfarwyddwr ac actores brofiadol mewn cynyrchiadau ar gyfer plant a phobl ifanc, Ffion oedd y Cyfarwyddwr Cyswllt ar gyfer y cynhyrchiad yn 2019, a bydd yn dychwelyd eto ar gyfer taith 2021. 

Bydd Llygoden yr Eira yn ymweld â chanolfannau ledled Cymru yn ystod misoedd Tachwedd a Rhagfyr 2021. Gweler isod am restr lawn o ddyddiadau’r daith.

 

 

Y Daith:

Ffwrnes, Llanelli

18.11.21 – 20.11.21

Theatrau Sir Gâr

Theatr Brycheiniog, Aberhonddu

23.11.21

Hafan | Theatr Brycheiniog

Chapter, Caerdydd

25.11.21 – 27.11.21

Chapter

Canolfan Celfyddydau Pontardawe

30.11.21

Pontardawe Arts Centre

Canolfan y Celfyddydau Memo, Y Barri

01.12.21 + 02.12.21

Home-New - Memo Arts Centre, Barry

Y Neuadd Les, Ystradgynlais

03.12.21

Hafan - The Welfare (yneuaddlesystradgynlais.cymru)

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

04.12.21 + 5.12.21

Aberystwyth Arts Centre

Theatr Clwyd, Yr Wyddgug

09.12.21 – 11.12.21

Theatr Clwyd

Theatr Derek Williams, Y Bala

13.12.21

Galeri, Caernarfon

16.12.21 – 18.12.21

Galeri Caernarfon 

 

Categorïau: Newyddion