Rydyn ni wedi cynnig 5 bwrsari Artist a Chymuned i artistiaid weithio’n greadigol gyda chymuned arbennig – boed hynny’n gymuned ddaearyddol, proffesiynol, ar-lein neu’n gymuned sy’n rhannu nodweddion o ran hunaniaeth – a rhoi cyfle i bobl yn y gymuned honno brofi effaith drawsnewidiol creadigrwydd ar eu bywydau. Bydd y gwaith cymunedol hwn yn cymryd ffurfiau gwahanol – sgyrsiau gydag aelodau’r gymuned am theatr a’r celfyddydau, rhannu sgiliau gyda’r gymuned neu gychwyn ymchwilio syniad creadigol gyda chymuned.

Isod cewch wybodaeth am y 5 artist sydd wedi derbyn ein Bwrsari Artist a Chymuned:

Caitlin Lavagna

Fel rhan o’r bwrsari hwn, bydd Caitlin yn gweithio ar gynhyrchiad theatr gair-am-air sy’n seiliedig ar Drychineb Aberfan, yn cynrychioli lleisiau o gymuned arbennig yng Nghymru ac yn ceisio cysur trwy gerddoriaeth i  gymuned dosbarth gweithiol neilltuol sydd wedi dioddef trawma.

Mae Caitlin yn actor-gerddor cyffrous sydd newydd raddio o Goleg Rose Bruford. Mae hi’n 24 oed ac yn dod o’r Porth yng Nghwm Rhondda. Mae ei hyfforddiant wedi caniatáu iddi ddatblygu ei chrefft – nid yn unig fel actor-gerddor ond hefyd fel gwneuthurwr theatr amryddawn ac artist cydweithredol. Mae Caitlin yn gantores ac offerynwraig dalentog ac mae cyfansoddi a chreu cerddoriaeth wrth galon ei gwaith.

Mae Caitlin yn edrych ymlaen at ymchwilio ac ysgrifennu ei chynhyrchiad cyntaf fel actor-gerddor ers iddi raddio, gyda chefnogaeth Theatr Gen yn hybu ei hangerdd dros greu gwaith theatrig sydd wedi’i wreiddio yn y gymuned.

 

Wyn Mason

Fel rhan o’r bwrsari hwn, mae Wyn yn bwriadu datblygu drama sy’n ymwneud â’r profiad o atal dweud, wedi ei llunio’n benodol ar gyfer perfformwyr sydd ag atal dweud.

Daw Wyn yn wreiddiol o gefndir ffilm a theledu. Yn 2012/13, ymgymerodd â chynllun hyfforddi cyfarwyddwyr theatr a drefnwyd gan Theatr y Sherman, Living Pictures a Theatr Gen. Cafodd ei ysbrydoli gan y cwrs i sgwennu ei ddrama lwyfan gyntaf, Rhith Gân, a enillodd Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol 2015. Ers hynny, mae wedi cwblhau doethuriaeth mewn Ysgrifennu Creadigol, cael ei ddewis i fod yn Awdur Preswyl yn Theatr Clwyd, ac wedi sefydlu cwmni theatr (Os Nad Nawr) ar y cyd gyda Branwen Davies. Dros yr haf eleni, bydd ei ddrama Gwlad yr Asyn yn teithio Cymru fel cyd-gynhyrchiad gyda Theatr Genedlaethol Cymru.

 

Rufus Mufasa

Mae straeon hynafol merched wedi’u dwyn a fframweithiau’r theatr yn wrywaidd; fel rhan o’r bwrsari hwn, bydd Rufus yn ymchwilio i ail-osod hyn trwy anrhydeddu’r fframweithiau matriarchaidd sydd wedi bod ar y rheng flaen yn ystod y pandemig, a’r ffydd a’r cyfeillgarwch y mae pawb wedi’u canfod yn ystod y cyfnod hwn.

Mae Rufus Mufasa yn artist cyfranogol arloesol, actifydd llenyddol, bardd, rapiwr, cantores-gyfansoddwraig, gwneuthurwraig theatr, ac yn fam. O fod yn Gymrawd y Barbican, i Fardd Preswyl cyntaf Cenedlaethau’r Dyfodol, mae Rufus hefyd yn gweithio’n rhyngwladol, gan sicrhau cyfnodau preswyl llenyddol mewn lleoliadau’n amrywio o Ŵyl Lenyddiaeth y Gelli, i Sweden, y Ffindir, Indonesia, ac yn fwyaf diweddar, Zimbabwe. Fodd bynnag, mae bob amser yn dychwelyd i People Speak Up yn Llanelli, gan hyrwyddo addysg hip hop, barddoniaeth perfformio, a gwaith datblygu rhwng cenedlaethau; yn ddiweddar fe’i penodwyd yn Fardd ar Bresgripsiwn gyda nhw. Bu’n artist Hull ’19 ar y cyd â BBC Contains Strong Language, ac mae ar fin rhyddhau ei llyfr Flashbacks and Flowers, gyda’i hail albwm hefyd ar y ffordd. Mae gwaith Rufus yn archwilio mamolaeth, ysbrydolrwydd llinach, dosbarth, anhrefn hinsawdd, ffeministiaeth a ffydd, a thrawma traws-genhedlaeth neu gaeth.

 

Elis Pari

Fel rhan o’r bwrsari hwn, bydd Elis yn datblygu taith o amgylch Bodnithoedd, sef fferm ei daid a’i nain, yn adrodd eu hanesion, eu ffordd o fyw a’u hymrwymiad i’w cymdogaeth.

Magwyd Elis ar fferm yng ngogledd-orllewin Cymru. Treuliodd dair blynedd yng Nghaerdydd yn astudio Theatr a Drama ym Mhrifysgol De Cymru, ac mae bellach yn byw gartre tra’n astudio ar gyfer gradd Meistr drwy Ymchwil (Drama). Fel rhan o’i astudiaethau, mae Elis yn ymchwilio i’r posibiliadau o ddefnyddio’r celfyddydau i geisio mynd i’r afael â’r broblem o ddirywiad yn lles meddyliol amaethwyr cefn gwlad Cymru.

 

Lis Parsons

Gwraidd prosiect Lis oedd meddwl am y tebygrwydd rhwng y “Welsh Not” a’r dulliau ymddygiadol sy’n cael eu defnyddio heddiw i orfodi plant awtistig i ymddwyn fel petaen nhw’n ‘normal’. Fel rhan o’r bwrsari hwn, mae Lis yn gweithio gydag oedolion awtistig i greu straeon am eu hunaniaeth o’u safbwyntiau nhw, mewn dulliau sy’n addas i bawb.

Chwedleuwr awtistig ac anneuaidd yw Lis Parsons. Mae ganddyn nhw MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe. Athro ydyn nhw, fel eu mam a’u nain: dwy fenyw gref, ddeallus ac ystyfnig. Garddwyr brwd, mwyn eu natur, roedd eu tad a’u ddau daid, y tad yn beiriannydd a’r teidiau’n lowyr. Cafodd eu magu ar hen straeon o bedwar ban byd, ac maen nhw wedi creu eu chwedlau eu hunain trwy gydol eu hoes. Ar ôl byw mewn dinasoedd yn ne Cymru a chanolbarth Lloegr, symudodd Lis i gefn gwlad Gwynedd yn 2019.