Bwrsari Datblygu Syniad

Cynllun newydd yw’r Bwrsari Datblygu Syniad sy’n rhoi cyfle i artistiaid sy’n uniaethu â nodweddion penodol ac a gafodd eu tangynrychioli yn ein gwaith, ddechrau datblygu syniad ar gyfer drama neu gynhyrchiad theatr newydd gyda chefnogaeth y cwmni. Mae’r cynllun hwn yn gyfle i ni ddod i adnabod a rhoi cyfleoedd i artistiaid sy’n newydd i’r cwmni, ac i adlewyrchu cymunedau amrywiol Cymru yn well yn ei waith.

Isod cewch wybodaeth bellach am y 6 artist sydd wedi derbyn y bwrsari:

Mared Jarman

Fel rhan o’r bwrsari hwn, bydd Mared yn gweithio ar gomedi drasig am berthynas dau ffrind gorau sy’n ceisio darganfod a deall eu hunaniaeth fel pobl ifanc anabl mewn byd sy’n addoli a blaenoriaethu’r brif ffrwd. Mae Mared Jarman yn actores ac awdur o Gaerdydd. Bydd yn graddio eleni o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gydag MA mewn actio. Derbyniodd ysgoloriaeth a chefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru. Mae Mared yn aelod sefydlol o’r cwmni celfyddydol UCAN Productions, sydd wedi ennill sawl gwobr am eu gwaith theatr gyda phlant a phobl ifanc â nam ar eu golwg. Derbyniodd Mared ddiagnosis o’r cyflwr Stargadt’s pan oedd yn ddeg oed. Fel artist ac awdur, mae hi’n ymdrechu i ‘normaleiddio’ anabledd o fewn ein cymdeithas a rhoi platfform i’r lleisiau coll hynny sy’n haeddu cael eu clywed. Mae ei gwaith theatr yn cynnwys: Double Vision (Gagglebabble mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru ar gyfer Gŵyl y Llais 2018); Theatr Unnos (Neontopia a Theatr Genedlaethol Cymru ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2018); Bachu (Melangell Dolma, Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Clwyd, mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru). Yn ddiweddar bu’n creu ffilm fer Cardiff, I Love You gyda’r BBC a Ffilm Cymru Wales, ac ar hyn o bryd mae’n ffilmio Yr Amgueddfa, cyfres newydd Fflur Dafydd a BOOM Cymru i S4C.

Bev Lennon

Fel rhan o’r bwrsari hwn, mae Bev yn gweithio ar ddrama am gwpwl rhyngdras (interracial) a’u siwrnai hunan-holi ynglŷn â pherthnasau, hil a hunaniaeth. Magwyd Bev Lennon yn Llundain ar aelwyd Garibïaidd. Treuliodd gyfnod fel perfformiwr comedi, ac ym 1987 symudodd i’r Barri, lle dysgodd Gymraeg. Roedd hi’n ddysgwr ar Catchphrase (BBC Radio Wales) cyn cael ei sioe ei hun, Bev (BBC Radio Cymru). Daeth yn Athrawes Gymraeg a Swyddog Cydraddoldeb ym 1997. Mae ei gwaith ysgrifennu yn cynnwys sgets comedi teledu i The Real McCoy (BBC), a cherdd ‘The Consultation’ yn y gyfrol Allan o’r Golwg (Disability Arts Cymru). Cafodd ei derbyn i Orsedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2019. Yn 2020, derbyniodd gyfraniad o Gronfa Gymorth Llenyddiaeth Cymru er mwyn helpu iddi barhau i ysgrifennu ei llyfr ei hun. Hoffai ddatblygu ei gwaith fel sgriptiwr.

Ifan Pleming

Fel rhan o’r bwrsari hwn, mae Ifan yn gweithio ar ddarn sy’n edrych ar anabledd mewn ffordd ysgafn a dychanol sy’n adlewyrchu ei ffordd ef, fel unigolyn anabl, o edrych ar y stereoteipio sy’n digwydd yn ein cymdeithas mewn perthynas ag anableddau. Ar ôl derbyn addysg yn Ysgol Pentreuchaf, Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, a Choleg Meirion Dwyfor, symudodd Ifan i Gaerdydd yn 2005 i astudio’r Gymraeg a’r Gyfraith, cyn mynd ymlaen i dderbyn gradd MA mewn Ysgrifennu Creadigol. Bu’n aelod o dîm Aberhafren ar Dalwrn y Beirdd am rai blynyddoedd. Mae wedi cael llwyddiant mewn eisteddfodau lleol ac ennill gwobrau yn Eisteddfod yr Urdd, yn cynnwys tlws Jennie Eirian, a chipio’r Goron yn yr Eisteddfod Ryng-golegol. Mae bellach yn byw yn ôl yn Llithfaen, ei bentref genedigol, ac yn gweithio fel cyfieithydd i Lywodraeth Cymru.

Emma Daman Thomas

Fel rhan o’r bwrsari hwn, bydd Emma yn datblygu gwaith newydd i’w berfformio a fydd yn cysylltu cerddoriaeth, iaith a phrofiad diasporig. Mae Emma Daman Thomas yn artist a pherfformiwr aml-ddisgyblaethol sy’n byw yn Sir Faesyfed. Mae hi’n un o aelodau gwreiddiol y band cydweithredol Islet, lle mae’n canu gwahanol offerynau ac yn canu. Fe ymddangosodd drydedd albwm y band ‘Eyelet’ yn 2020 ar label Fire Records. Mae ei gwaith blaenorol i’r theatr yn cynnwys perfformio fel actor-canwr ar gyfer naill Candylion (NTW, 2015) ac Enough is Enough gan Be Aware Productions (2016); a gwaith ymchwil ar gyfer Sisters gan NTW (2017), a oedd yn archwilio hunaniaethau a phrofiadau menywod De Asia yn India ac yng Nghymru. Ymhlith ei phrosiectau cyfredol y mae cyfansoddiad cerddorol arbrofol newydd a gefnogir gan Tŷ Cerdd, a cherddoriaeth ar gyfer Freya Dooley yn arddangosfa Jerwood Arts. Mae Emma hefyd yn creu gwaith celf ar gyfer cerddoriaeth ac mae ei gwaith gweledol yn plethu drwy ei cherddoriaeth, sain, a’i gwaith perfformio. Ar hyn o bryd, mae hi’n dysgu siarad Cymraeg ac yn cael gwersi canu’r delyn.

Kallum Weyman

Fel rhan o’r bwrsari hwn, mae Kallum yn gweithio ar ddrama hunllef ddirfodol, ôl-apocalyptaidd. Mae Kallum Weyman yn ddramodydd a chyfarwyddwr anneuaidd, awtistig. Ar hyn o bryd, maen nhw’n astudio cwrs Meistr trwy gyfrwng y Gymraeg ym maes cyfarwyddo theatr gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Ysgrifennodd Kallum eu drama ddiweddar, Train Track Issues, dros y flwyddyn ddiwethaf fel rhan o Gynllun Egin Awduron The Other Room. Cymraeg yw ail iaith Kallum ac felly maen nhw’n edrych ymlaen at y cyfle i wella eu hysgrifennu yn y Gymraeg. Maen nhw’n mwynhau gweithio ym mhob cyfrwng creadigol ac yn ceisio ysgrifennu darnau hollol wahanol ar gyfer pob prosiect maen nhw’n gweithio arnynt.

Dr Sara Louise Wheeler

Fel rhan o’r bwrsari hwn, mae Sara yn gweithio ar Opera Bildungsroman o’r enw ‘Y Dywysoges Arian’, am gymeriad o’r enw Glesni, sy’n dysgu byw yn ei chroen wrth i’r croen hwnnw trawsffurfio, wrth i bopeth newid, ac wrth iddi ddisgyn rhwng dwy stôl: y byd clywedol a’r byd Byddar. Mae gan Dr Sara Louise Wheeler Syndrom Waardenburg Math 1, sef cyflwr genetig prin sy’n effeithio ar ymddangosiad corfforol a’r clyw. Mae Sara wrthi’n archwilio ei phrofiadau corfforedig, a’u goblygiadau cymdeithasol, gwleidyddol a meddygol, a hynny trwy nifer o gyfryngau ysgolheigaidd a chreadigol, gan gynnwys barddoniaeth, ysgrifau, a gwaith celf. Mae ei hymchwil ar hyn o bryd yn cynnwys meistroli’r gynghanedd a barddoniaeth arwyddiaith; bydd y rhain yn rhan allweddol o’r opera ‘Y Dywysoges Arian’. Yn 2020, sefydlodd Sara ‘Gwasg y Gororau’ a chyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o gerddi ‘Rwdlan a bwhwman’, sydd bellach ar gael i’w lawr-lwytho am ddim o wefan Gwasg y Gororau.

Artistiaid Bwrsari Artist a Chymuned

Bwrsari Artist a Chymuned

Rydyn ni wedi cynnig 5 bwrsari Artist a Chymuned i artistiaid weithio’n greadigol gyda chymuned arbennig – boed hynny’n gymuned ddaearyddol, proffesiynol, ar-lein neu’n gymuned sy’n rhannu nodweddion o ran hunaniaeth – a rhoi cyfle i bobl yn y gymuned honno brofi effaith drawsnewidiol creadigrwydd ar eu bywydau. Bydd y gwaith cymunedol hwn yn cymryd ffurfiau gwahanol – sgyrsiau gydag aelodau’r gymuned am theatr a’r celfyddydau, rhannu sgiliau gyda’r gymuned neu gychwyn ymchwilio syniad creadigol gyda chymuned.

Isod cewch wybodaeth am y 5 artist sydd wedi derbyn ein Bwrsari Artist a Chymuned:

Caitlin Lavagna

Fel rhan o’r bwrsari hwn, bydd Caitlin yn gweithio ar gynhyrchiad theatr gair-am-air sy’n seiliedig ar Drychineb Aberfan, yn cynrychioli lleisiau o gymuned arbennig yng Nghymru ac yn ceisio cysur trwy gerddoriaeth i  gymuned dosbarth gweithiol neilltuol sydd wedi dioddef trawma.

Mae Caitlin yn actor-gerddor cyffrous sydd newydd raddio o Goleg Rose Bruford. Mae hi’n 24 oed ac yn dod o’r Porth yng Nghwm Rhondda. Mae ei hyfforddiant wedi caniatáu iddi ddatblygu ei chrefft – nid yn unig fel actor-gerddor ond hefyd fel gwneuthurwr theatr amryddawn ac artist cydweithredol. Mae Caitlin yn gantores ac offerynwraig dalentog ac mae cyfansoddi a chreu cerddoriaeth wrth galon ei gwaith.

Mae Caitlin yn edrych ymlaen at ymchwilio ac ysgrifennu ei chynhyrchiad cyntaf fel actor-gerddor ers iddi raddio, gyda chefnogaeth Theatr Gen yn hybu ei hangerdd dros greu gwaith theatrig sydd wedi’i wreiddio yn y gymuned.

Wyn Mason

Fel rhan o’r bwrsari hwn, mae Wyn yn bwriadu datblygu drama sy’n ymwneud â’r profiad o atal dweud, wedi ei llunio’n benodol ar gyfer perfformwyr sydd ag atal dweud.

Daw Wyn yn wreiddiol o gefndir ffilm a theledu. Yn 2012/13, ymgymerodd â chynllun hyfforddi cyfarwyddwyr theatr a drefnwyd gan Theatr y Sherman, Living Pictures a Theatr Gen. Cafodd ei ysbrydoli gan y cwrs i sgwennu ei ddrama lwyfan gyntaf, Rhith Gân, a enillodd Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol 2015. Ers hynny, mae wedi cwblhau doethuriaeth mewn Ysgrifennu Creadigol, cael ei ddewis i fod yn Awdur Preswyl yn Theatr Clwyd, ac wedi sefydlu cwmni theatr (Os Nad Nawr) ar y cyd gyda Branwen Davies. Dros yr haf eleni, bydd ei ddrama Gwlad yr Asyn yn teithio Cymru fel cyd-gynhyrchiad gyda Theatr Genedlaethol Cymru.

Rufus Mufasa

Mae straeon hynafol merched wedi’u dwyn a fframweithiau’r theatr yn wrywaidd; fel rhan o’r bwrsari hwn, bydd Rufus yn ymchwilio i ail-osod hyn trwy anrhydeddu’r fframweithiau matriarchaidd sydd wedi bod ar y rheng flaen yn ystod y pandemig, a’r ffydd a’r cyfeillgarwch y mae pawb wedi’u canfod yn ystod y cyfnod hwn.

Mae Rufus Mufasa yn artist cyfranogol arloesol, actifydd llenyddol, bardd, rapiwr, cantores-gyfansoddwraig, gwneuthurwraig theatr, ac yn fam. O fod yn Gymrawd y Barbican, i Fardd Preswyl cyntaf Cenedlaethau’r Dyfodol, mae Rufus hefyd yn gweithio’n rhyngwladol, gan sicrhau cyfnodau preswyl llenyddol mewn lleoliadau’n amrywio o Ŵyl Lenyddiaeth y Gelli, i Sweden, y Ffindir, Indonesia, ac yn fwyaf diweddar, Zimbabwe. Fodd bynnag, mae bob amser yn dychwelyd i People Speak Up yn Llanelli, gan hyrwyddo addysg hip hop, barddoniaeth perfformio, a gwaith datblygu rhwng cenedlaethau; yn ddiweddar fe’i penodwyd yn Fardd ar Bresgripsiwn gyda nhw. Bu’n artist Hull ’19 ar y cyd â BBC Contains Strong Language, ac mae ar fin rhyddhau ei llyfr Flashbacks and Flowers, gyda’i hail albwm hefyd ar y ffordd. Mae gwaith Rufus yn archwilio mamolaeth, ysbrydolrwydd llinach, dosbarth, anhrefn hinsawdd, ffeministiaeth a ffydd, a thrawma traws-genhedlaeth neu gaeth.

Elis Pari

Fel rhan o’r bwrsari hwn, bydd Elis yn datblygu taith o amgylch Bodnithoedd, sef fferm ei daid a’i nain, yn adrodd eu hanesion, eu ffordd o fyw a’u hymrwymiad i’w cymdogaeth.

Magwyd Elis ar fferm yng ngogledd-orllewin Cymru. Treuliodd dair blynedd yng Nghaerdydd yn astudio Theatr a Drama ym Mhrifysgol De Cymru, ac mae bellach yn byw gartre tra’n astudio ar gyfer gradd Meistr drwy Ymchwil (Drama). Fel rhan o’i astudiaethau, mae Elis yn ymchwilio i’r posibiliadau o ddefnyddio’r celfyddydau i geisio mynd i’r afael â’r broblem o ddirywiad yn lles meddyliol amaethwyr cefn gwlad Cymru.

Lis Parsons

Gwraidd prosiect Lis oedd meddwl am y tebygrwydd rhwng y “Welsh Not” a’r dulliau ymddygiadol sy’n cael eu defnyddio heddiw i orfodi plant awtistig i ymddwyn fel petaen nhw’n ‘normal’. Fel rhan o’r bwrsari hwn, mae Lis yn gweithio gydag oedolion awtistig i greu straeon am eu hunaniaeth o’u safbwyntiau nhw, mewn dulliau sy’n addas i bawb.

Chwedleuwr awtistig ac anneuaidd yw Lis Parsons. Mae ganddyn nhw MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe. Athro ydyn nhw, fel eu mam a’u nain: dwy fenyw gref, ddeallus ac ystyfnig. Garddwyr brwd, mwyn eu natur, roedd eu tad a’u ddau daid, y tad yn beiriannydd a’r teidiau’n lowyr. Cafodd eu magu ar hen straeon o bedwar ban byd, ac maen nhw wedi creu eu chwedlau eu hunain trwy gydol eu hoes. Ar ôl byw mewn dinasoedd yn ne Cymru a chanolbarth Lloegr, symudodd Lis i gefn gwlad Gwynedd yn 2019.