Ers ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint, dw i wedi bod yn reit brysur i ddweud y gwir. Gydag arholiadau Lefel A yn syth ar ôl yr Eisteddfod roedd yn anodd dod o hyd i amser i ddathlu’r wobr! Ond, yn ystod gwyliau’r haf rydw i wedi cael digon o amser i ymlacio ac ailafael â fy ngwaith ‘sgwennu.
Mi ddois i lawr i Gaerfyrddin ddiwedd Awst am gyfarfod efo Arwel yn Y Llwyfan gan mai rhan o fy ngwobr oedd cael gweithio efo’r Theatr Genedlaethol i ddatblygu fy ngwaith, ac mi wnes i wir fwynhau’r profiad.
Roedd yn braf cael ail-edrych ar fy ngwaith a gallu trafod y gwaith efo rhywun arall a gweld efallai bod rhyw linell neu’i gilydd yn gwneud perffaith synnwyr i mi, ond yn swnio’n gwbl hurt i rywun arall. Felly roedd yn dda cael Arwel yno i saernïo’r gwaith efo fi.
Ro’n i’n teimlo bod y cyfarfod wedi fy helpu i ddod i adnabod fy nghymeriadau’n well wrth ystyried pethau fel: ‘fyddai hi’n dweud hynna go-iawn?’ Neu: ‘ddylai o ei hateb hi’n ôl yn fan’ma?’ ac wrth ddod i adnabod y cymeriadau’n well dw i’n meddwl fy mod i wedi cyfoethogi’r sgript a bod mwy o hygrededd i’r ddrama.
Erbyn hyn rydw i’n barod i fynd ati i ddatblygu’r sgript ac mae’r cyfarfod wedi rhoi ‘head-start’ da iawn imi fedru gwneud hynny ar fy mhen fy hun yn yr wythnosau nesaf.
gan Lois Llywelyn Williams.