Ro’dd yna gynnwrf yn fy mol a gwên fawr ar fy wyneb wrth i mi weld y babell binc â’r bwrlwm yn ei amgylchyni wrth yrru tuag at faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd wythnos yr eisteddfod wedi cyrraedd a minnau yn barod i gychwyn ar fy wythnos yn gweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru yn yr wŷl.
Man cychwyn y daith i mi oedd yng Nghaffi’r Theatrau. Roedd y tegell wedi berwi a’r seddau cyfforddus wedi eu gosod ac felly’r cam cyntaf oedd cyfarfod â’r eisteddfodwyr brwd a oedd yn ymlwybro i’r Pentref Drama. Mae Caffi’r Theatrau yn ganolbwynt i’r Pentref Drama ac yn fenter ar y cyd rhwng y cwmnïau cynhyrchu theatr Cymraeg a chanolfannau cyflwyno yng Nghymru ac felly ro’n i’n gyffrous iawn i gyfarfod a chydweithio â phobl broffesiynol diwydiant y theatr yn ystod yr wythnos hefyd. Dwi’n dwli ar y syniad o gael y fath gaffi wedi ei osod yng nghanol maes yr Eisteddfod; caffi’n cynnig cyfle i gael clonc a thrafodaeth dros baned am y cynyrchiadau theatr ddiweddaraf i lanio ar lwyfannau ar draws Cymru.
Ynghyd â chlebran y caffi, cafwyd wythnos lawn o weithgareddau yn y Pentref Drama gan gynnwys dramâu, sgyrsiau a darlithoedd i blant ac i’r teulu. O fewn y caffi, roeddwn o fewn cyffwrdd i’r Cwt Drama a Theatr y Maes ac felly yn y lleoliad perffaith i fedru hawlio fy sedd yng nghynulleidfa’r amryw o sioe oedd i’w gweld yn ystod yr wythnos. La Primera Cena gan Dewi Wyn Williams, a oedd prif ddrama’r wythnos a dyma lwyfaniad cyntaf gwaith buddugol y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol llynedd. Roedd hi’n gynhyrchiad gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru a dyma’r ddrama gyntaf cefais gyfle i’w wylio. Janet Aethwy oedd yn cyfarwyddo, gyda Siân Beca, John Glyn, Martin Thomas a Delyth Wyn yn actorion. Wnes i fwynhau’n arw ac roedd hi’n wych cael y cyfle i weld cynhyrchiad o’r fath safon arbennig. Ro’n i’n enwedig yn hoff o’r syniad fod ymwelwyr i’r maes yn gallu ychwanegu ymdeimlad o noson allan yn y theatr i’w diwrnod yn yr Eisteddfod drwy ymweld â’r Pentref Drama.
Ar ôl diwrnod prysur yn yr Eisteddfod, draw i Lanfair Caereinion i weithio fel aelod o griw blaen tŷ’r cynhyrchiad Nansi oedd fy nhynged. Dyma ddrama newydd gan Angharad Price a chynhyrchiad gan Theatr Genedlaethol Cymru, yn adrodd hanes telynores enwocaf Cymru, Nansi Richards. Y Stiwt oedd cartref y cynhyrchiad am yr wythnos, ac fe werthwyd pob un tocyn i’r pum sioe a berfformiwyd. Dwi’n meddwl fod hyn yn arwydd o boblogrwydd y delynores, ac yn rhoi argraff o natur hynod gefnogol eisteddfodwyr a thrigolion Maldwyn a’r Gororau. O’r eiliad agorwyd drysau’r Stiwt, roedd egni cyffrous y gynulleidfa yn heintus, a chefais cymaint o hwyl yn cynorthwyo a sgwrsio gyda phawb wnaeth ymweld â’r sioe. Roedd e’n brofiad greodd naws cartrefol i’r cynhyrchiad a oedd yn dathlu bywyd a llwyddiannau Nansi Richards ac yn un fydd yn aros gyda mi.
Daeth Sadwrn olaf yr Eisteddfod i fodolaeth yn llawer rhy gyflym, ac wrth bacio’r bocs olaf o fagiau tê i mewn i gefn y car, cefais ryw deimlad o ddiflastod gan feddwl fod fy mhrofiad eisteddfodol yn dod i ben. Ac wedyn ddaeth yna sylweddoliad. Sylweddoliad mod i wedi cael yr wythnos fwyaf anhygoel, yn cydweithio gyda thîm ffantastig y Theatr Genedlaethol ag amryw o staff gwych sefydliadau ar draws y wlad ac wedi gweld ystod eang o gyfoeth theatr Cymru. Ac felly, un ffordd sydd i ddelio gyda’r ‘Eisteddfod blues’ – i edrych ymlaen at y wledd sydd gan Sir Fynwy a’r Cyffiniau i’w gynnig yn 2016. Tan flwyddyn nesaf…
Catrin Reynolds