Eto eleni, rydym ni’n falch iawn o fod yn rhan o Wythnos Prentisiaethau Cymru, a gynhelir rhwng 8–14 Chwefror 2021.
Wedi’i threfnu gan Lywodraeth Cymru, mae’r wythnos hon yn gyfle i dynnu sylw at yr ystod eang o gyfleoedd creadigol sydd ar gael, a’r gwerth maent yn ei roi i gyflogwyr a dysgwyr ar draws Cymru. Mae hefyd yn gyfle gwych i ni yn Theatr Genedlaethol Cymru godi ymwybyddiaeth am brentisiaethau yn y celfyddydau yng Nghymru a’r amrywiaeth o swyddi creadigol sydd ar gael.
Dyma’r eildro i ni gefnogi’r dathliadau a rhoi chwyddwydr ar gyfleoedd yn y celfyddydau ar ôl blwyddyn lwyddiannus y llynedd. Yn 2020, darparwyd cyflwyniad technegol i ysgolion yng Nghymru. O ganlyniad i gyfyngiadau COVID, mae’r gwaith eleni’n digwydd yn rhithiol, ac felly mae’r cwmni wedi creu cyflwyniad ar-lein drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg sy’n rhoi blas o fyd y theatr a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru. Bydd yr adnodd, sy’n cynnwys capsiynau caeedig yn y Gymraeg a’r Saesneg, ar gael i bob ysgol uwchradd yng Nghymru.
Mae’r cyflwyniad yn cynnwys cyfweliadau gydag Angharad Davies (Pennaeth Cynhyrchu Theatr Genedlaethol Cymru) a Morgan James (cyn-Brentis Technegol y cwmni), yn ogystal ag esboniad am gyfleoedd yn y diwydiant teledu a ffilm gan Sue Jeffries (Rheolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru) a Zahra Errami, sydd bellach yn newyddiadurwr gydag ITV ar ôl hyfforddi trwy gynllun prentisiaethau Sgil Cymru. Mae’r cyflwyniad hefyd yn cynnwys gweithdy creadigol gyda’r cyfansoddwr a’r cynllunydd sain Dan Lawrence, sy’n dangos sut mae cerddoriaeth a synau’n medru ychwanegu at gynhyrchiad theatr.
Dywedodd Rhian A. Davies, Cynhyrchydd Gweithredol Theatr Genedlaethol Cymru:
“Mae’n fraint cael ein gwahodd i gefnogi’r Wythnos Prentisiaethau eto eleni. Mae cefnogi cyfleoedd datblygu sgiliau i weithwyr ym maes y celfyddydau yng Nghymru yn flaenoriaeth i ni yn Theatr Gen. Ry’n ni eisiau codi ymwybyddiaeth am yr amrywiaeth o swyddi sydd ar gael yn y celfyddydau, a chefnogi datblygiad gweithlu creadigol Cymraeg. Ry’n ni’n rhedeg cyfres o fentrau datblygu sgiliau – ar gyfer dramodwyr a chyfarwyddwyr cynorthwyol, ac i’r rheiny sy’n dymuno rhoi hwb i’w hyder i weithio yn y Gymraeg. Mae ein drws ni ar agor i unrhyw un fyddai’n hoffi cysylltu â ni er mwyn sgwrsio am gyfleoedd neu’n chwilio am ffyrdd o gael blas ar ein gwaith.”
Dywedodd cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru:
“Fe ddarparodd Theatr Genedlaethol Cymru adnodd defnyddiol iawn i gefnogi ein hymgyrch Prentisiaethau ddiweddaraf. Ar ôl gweithio gyda’r cwmni yn flaenorol i ddarparu gweithdai rhyngweithiol wyneb yn wyneb mewn ysgolion, gwnaethom eu briffio i greu adnodd ar-lein i athrawon ei ddefnyddio wrth ddysgu ar-lein yn ystod y pandemig. Roedd Theatr Genedlaethol Cymru yn hynod addasadwy i’r heriau a wynebwyd gennym ac maen nhw wedi creu darn diddorol o gynnwys mewn cyfnod byr. Mae’r wers 25 munud yn cynnwys ystod o gyfweliadau a chynnwys wedi’i ffilmio ac mae’n defnyddio cyfres o negeseuon allweddol am Brentisiaethau, gan gadw’r fideo yn ddiddorol ac yn berthnasol i’n cynulleidfa.”
Cewch wybodaeth am holl weithgareddau Wythnos Prentisiaethau Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru neu ar Twitter, @ApprenticeWales.
3 Chwefror 2021